Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Obstetreg a Gynacoleg
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 15 awr yr wythnos (2 ddiwrnod yr wythnos - Dydd Llun a Dydd Mawrth)
Cyfeirnod y swydd
050-AC455-0725
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£26,928 - £29,551 Y Flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
16/07/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Ysgrifenyddes Colposcopi

Gradd 4

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

 

 Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Darparu gwasanaeth ysgrifenyddol a gweinyddol meddygol cynhwysfawr o ansawdd uchel ar gyfer y meddyg ymgynghorol a'i dîm meddygol, a thimau nyrsio arbenigol, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.  Cydlynu trefniadau a'u cynnal i hwyluso cynnydd cleifion ar hyd llwybr diffiniedig yn unol â Sgrinio Serfigol Cymru. I gynnal y sefydliad colposcopi ac i fonitro'r llwyth gwaith o ran y tîm gweinyddol, cydlynu staff i gyflenwi yn ystod cyfnodau o absenoldeb ar draws y tîm.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Gan weithio gyda'r tîm, bydd deilydd y swydd yn cefnogi'r dangosyddion perfformiad allweddol sydd wedi cael eu pennu am bob arbenigedd a bydd yn gwneud penderfyniadau o ran blaenoriaethu llwyth gwaith ac yn cytuno ar weithdrefnau uwch gyfeirio er mwyn bodloni'r dangosyddion perfformiad allweddol hyn. Cyfleu'r canfyddiadau hyn, a bod yn rhagweithiol wrth symud argymhellion a gwelliannau i ddarparu gwasanaeth yn eu blaen.

Bydd deilydd y swydd yn delio â gohebiaeth berthnasol, ymholiadau ffôn neu wyneb yn wyneb yn effeithlon ac yn effeithiol.

Cyfrannu at brosiectau neu ddyletswyddau i sicrhau darparu gwasanaeth yn rhagorol fel y cyfarwyddir gan y Rheolwr llinell, Meddyg Ymgynghorol neu gydweithwyr eraill.

Bydd deilydd y swydd yn rhoi cymorth o ran hyfforddi dechreuwyr newydd a datblygu aelodau'r tîm ysgrifenyddol gan hybu a meithrin perthnasau cadarnhaol yn y tîm ysgrifenyddol meddygol, cleifion a defnyddwyr gwasanaeth a phob un o weithwyr PBC.

Pan fo'n berthnasol, gallu cydlynu dyletswyddau a thasgau'n annibynnol gan y gallai ysgrifenyddion Meddygol fod mewn lleoliadau gwahanol ar draws y Bwrdd Iechyd.

Gweithio gyda'r rheolwr llinell i gychwyn/cymeradwyo gweithdrefnau uwch gyfeirio safonau'n is na lefel foddhaol a chytuno ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol newydd dros dro.

Bydd disgwyl i'r deilydd swydd ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau ychwanegol i sicrhau bod darparu gwasanaeth yn cael ei gynnal

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • NVQ 4 mewn Gweinyddu Busnes neu brofiad cyfatebol
  • City & Guilds (AMSPAR) Diploma Lefel 3 mewn gweinyddu neu brofiad ysgrifenyddol meddygol cyfwerth
  • RSA/OCR lefel 3 neu brofiad cyfwerth neu gymhwyster mewn teipio
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster rheoli neu'n gweithio tuag ato
  • NVQ 3 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid
  • ILM Lefel 2 (neu'n gweithio tuag ato) cymhwyster cyfwerth perthnasol

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog
  • Sgiliau teipio uwch
  • Sgilau trefnu ardderchog
Meini prawf dymunol
  • Profiad GIG blaenorol

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth a'r gallu i ddefnyddio cymwysiadau Microsoft Office
  • Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am broses Cyfeirio at Driniaeth (RTT)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Rachael Thistleton
Teitl y swydd
Service Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 845303
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg