Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Pediatreg
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 33.75 awr yr wythnos (Dyddiau'r wythnos, penwythnosau, gyda'r nos)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS554-1025
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £24,833 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 19/10/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Cynorthwyydd Gofal lechyd
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle wedi codi i Gynorthwywyr Gofal Iechyd ychwanegol ymuno â'n tîm ar yr Uned Plant.
Rydym yn chwilio am staff brwdfrydig ac ysgogol sydd ag angerdd i weithio â phlant a’u teuluoedd.
Mae gan yr Uned Plant 19 gwely i gleifion mewnol yn cynnwys 1 gwely Dibyniaeth Fawr, 3 gwely Gofal Uwch.
Mae gennym hefyd 6 gwely uned Asesu, 6 gwely achos dydd meddygol/llawfeddygol a 2 gwely Oncoleg.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Prif ddyletswyddau'r swydd
I gynorthwyo nyrsys cofrestredig i ddarparu gofal ar sail tystiolaeth i gleifion/cleientiaid,
gan weithio mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill, y claf a'u teulu/ gofalwyr.
Darparu gofal i gleifion fel y dogfennwyd yn y cynllun gofal nyrsio dan oruchwyliaeth uniongyrchol y Nyrs Gofrestredig.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau rhifedd, llafar a llythrennedd sylfaenol.
- Lefel 2 NVQ/QCF mewn iechyd a gofal cymdeithasol neu brofiad cyfatebol mewn amgylchedd iechyd neu ofal.
Meini prawf dymunol
- Cwblhau Fframwaith Gynefino Cymru gyfan
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sy'n ofynnol i gyflawni gofynion y swydd.
- Profiad o ddelio â'r cyhoedd o fewn amgylchedd iechyd neu ofal.
Meini prawf dymunol
- Profiad clinigol.
Addasrwydd a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Gallu aros yn ddi-gynnwrf ac yn broffesiynol mewn amgylchiadau heriol
- Gallu dogfennu gwybodaeth ysgrifenedig yn glir.
- Dealltwriaeth o ddiogelu data a chyfrinachedd.
Meini prawf dymunol
- Gallu siarad Cymraeg.
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Rhinweddau amlwg ychwanegol a all fod o fudd i'r swydd e.e. gofal, cydymdeimlad, galluoedd, cyfathrebu, gwroldeb ac ymroddiad.
- Dangos ymrwymiad i weithio'n gyson yn unol â'n Gwerthoedd Sefydliadol, a galluogi eraill o fewn y gweithlu i wneud hyn, fel y dangosir yn y gwaith o ddydd i ddydd a drwy drafodaeth yn y PADR.
- Parchu eraill.
- Dangos dealltwriaeth o rôl Cynorthwyydd Gofal Iechyd
- Dangos dealltwriaeth o rôl Cynorthwyydd Gofal Iechyd.
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Laura Spurgin
- Teitl y swydd
- Ward Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 844359
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Yvette Gibson
Ysgrifenyddes
03000 844359
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector