Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Pediatreg
- Gradd
- Band 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 25 awr yr wythnos (Dyddiau'r Wythnos, Nosweithiau, Penwythnosau)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS564-1025
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £25,313 - £26,999 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 14/10/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Cynorthwyydd Gofal Lechyd
Band 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle wedi codi ar gyfer Rhan Amser Band 3 Cynorthwyydd Gofal lechyd i ymuno â'r tîm nyrsio ar yr Uned Blant.
Mae gan yr Uned Plant 19 gwely i gleifion mewnol yn cynnwys 1 gwely Dibyniaeth Fawr, 3 gwely Gofal Uwch.
Mae gennym hefyd 6 gwely uned Asesu, 6 gwely achos dydd meddygol/llawfeddygol a 2 gwely Oncoleg.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn gweithio fel rhan o'r tîm nyrsio i roi gofal clinigol ansawdd uchel seiliedig ar dystiolaeth sy'n canolbwyntio ar angen uniongyrchol y claf. Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo'r nyrsys cofrestredig/ymarferydd i ddarparu gofal wedi'i ddirprwyo i gleifion. Bydd deiliad y swydd yn ymdrechu i ddarparu ar gyfer anghenion holistaidd yr unigolyn, ar y cyd â disgyblaethau eraill yn yr amgylchedd gofal iechyd.
Bydd deiliad y swydd yn cyflawni ystod eang o ddyletswyddau a bydd disgwyl iddo weithio yn annibynnol ac fel rhan o dîm, gan oruchwylio cleifion a helpu â'u cynllun gofal tua'r dyfodol. Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd hefyd gynnig cymorth i sefydlu cynorthwywyr gofal iechyd iau a phrentisiaethau.
Bydd deiliad y swydd yn gallu rhoi elfennau o ofal iechyd a gofal cymdeithasol oherwydd bydd ganddo'r wybodaeth a'r lefel hyfedredd wedi'i hasesu i ymgymryd â'r fath rôl a fydd yn destun asesiad lleol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- FfCCh Lefel 3 neu gymwysterau/profiad cyfatebol
- Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol, Lefel 3 mewn pynciau cysylltiedig ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu gymwysterau/profiad cyfatebol
- Gwybodaeth dda am anatomeg a ffisiolegdda o addysg TGAU (graddau A-C) neu gyfwerth
Meini prawf dymunol
- Fframwaith sefydlu HCSW Cymru gyfan.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio fel Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd heb oruchwyliaeth uniongyrchol mewn lleoliad strategol a chael eich rheoli gan ymarferydd cymwys
- Dealltwriaeth dda o asesu a rheoli risg.
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o allu gofalu am glwyfau gan ddefnyddio techneg aseptig, Techneg Aseptig Di-gyffwrdd, Fflebotomi, Arsylwadau sylfaenol
- Y gallu i gyfathrebu yn glir ac yn gywir.
- Y gallu i addasu i amgylchiadau newydd a newidiol.
- Y gallu i weithio ar eich pen eich hun dan oruchwyliaeth a deall pryd i ofyn am gyngor a chymorth clinigol gan y Nyrsys cymwys.
Meini prawf dymunol
- Gallu Cofnodi arwyddion hanfodol (pwysedd gwaed, pwls, tymheredd, anadliadau, lefelau siwgr yn y gwaed), Venepuncture, ECG arferol, Cofnodi, Profi'r wrin.
- Unrhyw sgiliau clinigol eraill sy'n berthnasol i'r lefel ymarfer hon yn ymwneud â'r rôl a'r gofal sydd ei angen
- Gwybodaeth am weithgareddau clinigol a dealltwriaeth ohonynt.
- Siarad Cymraeg.
Rhinweddau Personol
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog.
- Y gallu i weithio'n annibynnol o fewn ffiniau proffesiynol
- Sgiliau gwneud penderfyniadau da.
- Sgiliau bysellfwrdd safonol.
Meini prawf dymunol
- Sgiliau / gwybodaeth TG.
- Y gallu i roi newid ar waith mewn ffordd gadarnhaol
- Mae'n gweithio'n dda fel aelod o dîm. .
Gwethoedd
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i ymdrin ag unrhyw broblem yn bwyllog a phroffesiynol.
- Ymrwymiad i welliannau parhaus mewn gofal i gleifion.
- Bod yn hyblyg o fewn anghenion y gwasanaeth, er enghraifft gweithio oriau anghymdeithasol
- Y gallu i ddefnyddio ei fenter ei hun. Y gallu gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol
- Y gallu i weithio oriau hyblyg i gwmpasu o fewn yr adran.
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Laura Spurgin
- Teitl y swydd
- Ward Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 844359
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Yvette Gibson
Ysgrifenyddes
03000 844359
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector