Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fferyllfa
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-ACS246-0425
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£23,970 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
07/05/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Cynorthwyydd Fferyllfa

Gradd 2

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

 

 Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am unigolyn hunangymhellol, sy’n canolbwyntio ar y claf/gwasanaeth i ymuno â’n tîm presennol o Gymhorthion Fferyllfa sy’n gweithio yn y dosbarthfa.

Hwyluso llif gwaith llyfn drwy'r fferyllfa gan sicrhau bod pawb sy'n rhan o'r broses, yn cynnwys cleifion a staff yn cael y wybodaeth angenrheidiol i sicrhau bod anghenion cyflenwadau meddyginiaethau cleifion yn cael eu bodloni fel blaenoriaeth.

Gweithio systemau cyfrifiadurol y fferyllfa a rhoi cefnogaeth weinyddol a chlercyddol i waith yn ymwneud â'r fferyllfa.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Helpu gyda labelu, dosbarthu a pharatoi presgripsiynau sydd wedi'u gwirio'n glinigol gan fferyllydd yn barod am y gwiriad olaf a chyflenwi cynnyrch fferyllol gan sicrhau bod anghenion cyflenwadau meddyginiaethau cleifion yn cael eu bodloni fel blaenoriaeth.

Gweithio systemau cyfrifiadurol sydd eu hangen ar gyfer dosbarthu a sicrhau bod yr holl wybodaeth yn ymwneud ag eitemau a ddosbarthwyd yn gywir ac wedi'i gofnodi/storio'n briodol.

Mae dyletswyddau'n cynnwys gwaith derbynfa, dosbarthu presgripsiynau, sicrhau bod gan y ddosbarthfa gyflenwadau digonol a rhai dyletswyddau cadw tŷ. Byddai profiad o weithio mewn amgylchedd o'r fath a chyda chyfrifiaduron o fantais ac rydym yn croesawu ceisiadau'n arbennig gan bobl sy'n gallu dosbarthu ar hyn o bryd, er nad yw hyn yn hanfodol, gan y caiff hyfforddiant priodol ei roi.

Bydd gofyn i chi ymgymryd â QCF lefel 2 mewn Gwasanaethau Fferylliaeth. Am y rheswm hwn, mae'n well gennym os oes gan ymgeiswyr TGAU gradd C neu gyfwerth mewn Mathemateg a Saesneg iaith.  Efallai y bydd y cyfle i fynd i gyrsiau priodol eraill yn bosibl.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau a/neu Wybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • NVQ Lefel 2 mewn gwasanaethau fferyllfa neu barodrwydd i ymgymryd â chyflawni NVQ Lefel 2 o fewn 12 mis o gael ei benodi
Meini prawf dymunol
  • Gradd llwyddo ar lefel TGAU neu gyfwerth mewn Mathemateg a Saesneg (Iaith)

Profiad

Meini prawf dymunol
  • Yn gyfarwydd â enwau cyffuriau
  • Wedi gweithio mewn amgylchedd tebyg naill ai mewn ysbyty neu fferyllfa
  • Profiad o weithio gyda chyfrifiaduron

Addasrwydd a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu da yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • Gweithio o fewn eich cyfyngiadau eich hun
  • Gwybodaeth sylfaenol o systemau cyfrifadurol
  • Y gallu i weithio dan bwysau / i amserlenni.

Nodweddion

Meini prawf hanfodol
  • Yn gallu cyflawni’r holl dasgau a ddisgrifir yn y disgrifiad swydd.

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Cymryd rhan yng ngwasanaethau'r fferyllfa dros wyliau cyhoeddus a phenwythnosau fel bo angen

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Jessica Knowles
Teitl y swydd
Senior Pharmacy Technician
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 844070
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Marie-Louise Lewis

[email protected] 

Alistair Fisher

[email protected] 

03000 844070

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg