Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fferyllfa
Gradd
Gradd 4 (Atodiad 21 - 70% Band 4 yn symud ymlaen i 75% ar ôl 12 mis)
Contract
Cyfnod Penodol: 2 flynedd (Terfyn Penodol)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i Ddydd Gwener)
Cyfeirnod y swydd
050-ACS309-0525
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£26,928 - £29,551 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
10/06/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Technegydd Fferyllfa cyn-gofrestru

Gradd 4 (Atodiad 21 - 70% Band 4 yn symud ymlaen i 75% ar ôl 12 mis)

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

 

 Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Maer'r swydd hon am gyfnod penodol / secondiad am 24 mis.  Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.

 

Mae'r swydd hon yn gontract hyfforddi cyfnod penodol am 24 mis. Mae'r swydd hyfforddi hon yn darparu cyfle i ennill y profiad a'r cymhwyster/cymwysterau gofynnol i gofrestru'n dechnegydd fferyllol gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC).

Cyflog: I gychwyn, Atodiad 21 Band 4 – 70%, yn symud ymlaen i 75% ymhen 12 mis.

Mae technegwyr fferyllol yn meithrin lefelau uchel o arbenigedd mewn perthynas â meddyginiaethau ac iechyd, ac maent yn gweithio'n rhan o dimau gofal iechyd mewn ysbytai, unedau gweithgynhyrchu, fferyllfeydd cymunedol a phractisau meddygon teulu. Maent yn canolbwyntio ar y defnydd o feddyginiaethau i sicrhau bod pob math o bobl yn cael y canlyniadau gorau o'u meddyginiaethau. Maent yn arwain timau sy'n darparu gwasanaethau meddyginiaethau.

Yn ystod yr hyfforddiant dwy flynedd, disgwylir i chi ennill profiad sy'n adlewyrchu rolau newidiol a chynyddol y Technegydd Fferyllol.

Bydd cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus yn eich galluogi i wneud cais i'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol i gofrestru'n dechnegydd fferyllol, ac i ymgeisio am swyddi technegydd fferyllol.

Bydd y swydd yn seiliedig yn Ysbyty Glan Clwyd Fferyllfa.

Mae'n ofynnol i ymgeiswyr a ddewiswyd ar gyfer cyfweliad anfon copïau o'u tystysgrifau GCSE trwy e-bost cyn dyddiad y cyfweliad.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Os ydych yn fanwl gywir, yn drefnus ac yn ofalgar, ac os oes gennych ddiddordeb mewn iechyd a llesiant, yna efallai mai dyma'r cyfle i chi.

Rydym yn chwilio am unigolion blaengar, brwdfrydig, trefnus a llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm Fferylliaeth dynamig a llawn cymhelliant yng Nghymuned Iechyd Integredig Canolog. 

Mae rôl y technegydd fferyllol yn amrywiol a diddorol ac yn datblygu'n barhaus, a dyna pam yr ydym yn cynnig y cyfle hwn i brofi rhai o'r rolau arloesol hyn mewn rhaglen hyfforddi gylchdro aml ardal. Byddwch yn ennill profiad mewn lleoliad Ysbyty a Meddygfa, yn dosbarthu ar gyfer cleifion mewnol a chleifion allanol, ynghyd â phrofiad o Brynu a Dosbarthu a gwaith ar y ward mewn Ysbyty. Byddwch hefyd yn cefnogi prosesau rheoli meddyginiaethau ac optimeiddio meddyginiaethau mewn meddygfa.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd"

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae'r swydd-ddisgrifiad sydd ynghlwm yn cyfeirio at y swydd y byddech yn gweithio tuag ati. Ni fydd y rheiny sydd ar hyn o bryd yn meddu ar Ddiploma Lefel 3 mewn Fferylliaeth, NVQ lefel 3 mewn Fferylliaeth neu gymhwyster cyfatebol yn cael eu hystyried.

 

I sicrhau lle ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i ymgeiswyr feddu ar o leiaf bedwar TGAU, graddau A*-C (graddau newydd 9-4) neu gymwysterau cyfatebol, gan gynnwys:

 

TGAU Saesneg Gradd C/Lefel 4 neu uwch, cymhwyster Cenedlaethol yr Alban 5 neu uwch, neu dystiolaeth gyfatebol o iaith Saesneg, a all gynnwys Sgiliau Hanfodol Cymru – Cyfathrebu Lefel 2.

 

TGAU Mathemateg Gradd C/Lefel 4 neu uwch, cymhwyster Cenedlaethol yr Alban 5 neu uwch, neu dystiolaeth gyfatebol o rifedd, a all gynnwys Sgiliau Hanfodol Cymru – Cymhwyso Rhif Lefel 2.

 

Un TGAU Gwyddoniaeth Gradd C/Lefel 4 neu uwch, cymhwyster Cenedlaethol yr Alban 5 neu gymhwyster cyfatebol. 

 

Efallai y bydd angen i'r ymgeiswyr sy'n gwneud cais yn unol â'r egwyddorion ‘cyfatebol’, e.e. mynediad i gyrsiau addysg uwch, gwblhau cymwysterau ‘cyfathrebu’ a ‘cymhwyso rhif’ Sgiliau Hanfodol Cymru. Bydd prawf o'ch cymwysterau yn ofynnol. 

 

Byddwch yn ymgymryd â rhaglen hyfforddi sydd wedi'i chymeradwyo gan y GPhC ar gyfer addysg a hyfforddiant cychwynnol technegwyr fferyllol. Bydd yn rhaid i bob ymgeisydd nad yw eisoes yn meddu ar gymhwyster ‘llythrennedd digidol’ Sgiliau Hanfodol Cymru gwblhau hwn yn rhan o'r rhaglen.

 

I gwblhau'r rhaglen bydd angen i'r ymgeiswyr feddu ar y gallu a'r brwdfrydedd i ymgymryd â rhaglen brentisiaeth fodern, a fydd yn cymryd dwy flynedd i'w chwblhau. Mae hyn yn golygu gweithio'n llawn-amser (37.5 awr yr wythnos) mewn fferyllfa, adeiladu portffolio o dystiolaeth, cael eich asesu yn y gwaith, dysgu ar-lein, ymgymryd â diwrnodau astudio a gwaith grŵp, a dilyn Safonau GPhC ar gyfer Gweithwyr Fferyllol Proffesiynol.

 

Mae ymrwymiad i astudio y tu allan i oriau gwaith yn hanfodol, yn ogystal â'r gallu i fodloni'r terfynau amser a osodir yn ystod eich rhaglen hyfforddi. Mae profiad o weithio mewn modd effeithiol yn rhan o dîm ac yn annibynnol, ynghyd â phrofiad mewn fferyllfa, yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Manyleb y person

Cymhwyster

Meini prawf hanfodol
  • 4 TGAU A-C gan gynnwys Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o astudiaeth academaidd a datblygiad proffesiynol parhaus ar ol gadael yr ysgol. NVQ lefel 2 mewn Gwasanaethau Fferylliaeth

Profiad

Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio mewn ysbyty a neu fferyllfa gymunedol neu o fewn y GIG

Aptitude and Abilities

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i weithio mewn tim, sy'n gallu trefnu hunan, sgiliau TG da, ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i siarad Cymraeg Gwybodaeth am wasanaethau fferylliaeth a rol technegydd fferyllol

Values

Meini prawf hanfodol
  • Yn ymwybodol o weithio o fewn terfynau, proffesiynol, gofal cleifion,
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i ddefnyddio rheoli amser menter ac ymarfer

Other

Meini prawf hanfodol
  • Yn barod i weithio mewn ardal ddwyieithog
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i deithio, gwerthfawrogiad o gyfrifoldeb gofal yr amgylchedd gofal iechyd

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Lisa Large
Teitl y swydd
Senior Pharmacy Technician
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 844075
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Lisa Large

Senior Pharmacy Technician

[email protected]

Marie-Louise Lewis

Senior Pharmacy Technician

[email protected]

03000 844075

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg