Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Fferyllfa
- Gradd
- Gradd 8b
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-PST158-1125
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £65,424 - £76,021 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 27/11/2025 23:59
Teitl cyflogwr
Prif Fferyllydd Treialon Clinigol
Gradd 8b
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn ceisio Uwch fferyllydd gyda profiad ac sydd yn ddeinamig i arwain a datblygu ein gwasanaeth rhanbarthol fferyllydd teialon clinigol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus gyda phrofiad helalth o sefydlu a rheoli gasanaethau fferyllfa trialon clinigol, gyda dealltwriaeth cryf o’r fframwaith deddfwriaeth a rheoleiddio sydd yn llywodaethu treialon clinigol. Bydd profiad gyda gwasanaethau canser yn hanfodol, gan fod cyfaint sylweddol o dreialon clinigol cymleth o oncoleg a haematoleg ar draws y rhanbarth.
Mae’r rol yma angen unigolyn cymell sydd yn gallu gweithio yn annibynnol ar draws nifer o dimau y bwrdd iechyd a safleoedd ysbytai, yn gwneud yn siwr fod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu i’r safon uchaf. Byddwch yn gyfrifol am arwain datblygiad y gwasanaeth, yn cefnogi symudiad, a gofalu bod cydymffurfiad trwy gynnal ffocws claf-ganolog.
Gofynion allweddol:
- Profiad helaeth mewn sefydlu a darparu gwasanaeth fferyllydd treialon clinigol.
- Gwybodaeth mewn dyfnder o ddeddfwriaeth a llywodraeth yn berthnasol i dreialon clinigol.
- Profiad arwyddocaol mewn gwasanaethau canser.
- Gallu profedig i weithio yn annibynnol ar draws timau amlddisgyblaethol a safleodd ysbytai.
- Arweinyddiaeth cryf, cyfathrebu a sgiliau trefniadol.
- Ymrwymiad i gynnal rhagoriaeth yn cyflwyno gwasanaeth ar lefel rhanbarthol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i arwain, siapio a meddwl ymlaen am y gwasanaeth, yn cyfrannu i ymchwil ac arloesi ar draws y rhanbarth.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rheoli, datblygu a bod yn gyfrifol am wasanaethau fferyllfa Treialon Clinigol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Cefnogi'r Cyfarwyddwr Cyswllt Ymchwil a Datblygu a'r Prif Fferyllydd i ddatblygu, mewn ffordd arloesol, y strategaeth gyffredinol ar gyfer Ymchwil a Datblygu ac agenda treialon clinigol yn BIPBC mewn modd sy'n adlewyrchu blaenoriaethau strategol cenedlaethol Fferylliaeth, y Bwrdd Iechyd, rhanbarthol a GIG Cymru.
Gweithio ar y cyd â'r Prif Fferyllwyr (Gwasanaethau Clinigol, Technegol a Digidol) ac arbenigwyr Sicrhau Ansawdd i ddatblygu darpariaeth gwasanaeth Fferyllfa effeithlon, o ansawdd uchel, proffesiynol a chydlynol sy'n gallu bodloni holl ofynion statudol, rheoleiddiol a gofynion y GIG sy'n ymwneud â Threialon Clinigol.
Darparu cyngor arbenigol i Adran Ymchwil a Datblygu'r Bwrdd Iechyd a Phrif Ymchwilwyr Treialon Clinigol mewn perthynas â phob agwedd ar weithgynhyrchu, caffael a defnyddio IMP treialon clinigol ac ar gydymffurfio â deddfwriaeth gysylltiedig.
Arwain cefnogaeth Fferyllfa mewn arolygiadau GCP MHRA gan sicrhau mynediad at ddogfennaeth.
Darparu gwasanaethau fferyllfa glinigol uniongyrchol rheolaidd sy'n wynebu cleifion fel fferyllydd arbenigol oncoleg uwch.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Gradd MPharm (neu gyfwerth) • Cofrestriad Fferyllydd GPhC cyfredol • Diploma/Sylfaen/MSc Ôl-gofrestru mewn Fferylliaeth Glinigol (neu gyfwerth) • Dangos DPP • Sgiliau TGCh cymwys • Dangos gwybodaeth am bob agwedd ar Rheolaeth Glinigol Gweinyddol (GCP), Rheoli Ansawdd Gweinyddol (GMP), Sicrhau Ansawdd (SA) a deddfwriaeth berthnasol arall • Gwybodaeth arbenigol am wasanaethau fferyllol gan gynnwys Llywodraethu Clinigol a Rheoli Risg.
Meini prawf dymunol
- Cofrestru Presgripsiynwyr Annibynnol gyda'r GPhC • Cymhwyster(au) arweinyddiaeth/rheoli ffurfiol • Aelod o grŵp fferyllwyr arbenigol cenedlaethol perthnasol • Aelod o'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol • Cymhwyster pellach mewn Treialon Clinigol • Cymhwyster Prince2 (neu gyfwerth)
Experience
Meini prawf hanfodol
- Profiad helaeth mewn ysbyty ôl-gofrestru • Profiad arbenigol mewn treialon clinigol a gwasanaethau aseptig, gan gynnwys costio a dichonoldeb • Dangos profiad a gallu i reoli neu oruchwylio amrywiaeth o brosiectau • Profiad o sgiliau arweinyddiaeth a rheoli rhagorol • Profiad o reoli llinell, gan gynnwys rheoli perfformiad effeithiol, recriwtio a dyrannu staff
Meini prawf dymunol
- Rheoli gwasanaeth treialon clinigol • Profiad o reoli prosiectau (gan gynnwys rolau ar draws yr adran) a thystiolaeth o ganlyniadau wedi'u cwblhau. • Gwybodaeth am drin ATIMPs • Profiad diweddar mewn Oncoleg a/neu hematoleg
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Lona Tudor Jones
- Teitl y swydd
- R&D Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gwyddor Iechyd neu bob sector







.png)
