Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ffisiotherapi
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AHP171-0725
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- y flwyddyn
- Yn cau
- 04/08/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Ffisiotherapydd Fasgiwlar ac Respiradaeth
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cytunwyd ar y raddfa gyflog uchod fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2025/2026 a chaiff ei weithredu ym mis Awst 2025 gydag ôl-ddyddio i 1af Ebrill 2025 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am Ffisiotherapydd brwdfrydig ac arloesol i ymuno â'n tîm staff deinamig yn Ysbyty Glan Clwyd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddarparu asesiadau ac ymyriadau o ansawdd uchel i gleifion sydd ag anghenion adsefydlu cymhleth. Mae gweithio tîm effeithiol yn hanfodol i sicrhau dull integredig o ofal cleifion.
Bydd deiliad y swydd wedi'i leoli yn Ysbyty Glan Clwyd a disgwylir iddo gario llwyth achosion clinigol o fewn y ward fasgwlaidd a bydd yn cynnwys darparu ffisiotherapi anadlol fel rhan o'r tîm cleifion mewnol a gofal dwys yn Ysbyty Glan Clwyd.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad sylweddol o feddygaeth fasgwlaidd, anadlol ac ar y ward sy'n awyddus i barhau i ehangu a datblygu ei sgiliau. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad cylchdro a/neu statig o weithio ym maes meddygaeth fasgwlaidd ac anadlol; y gallu i reoli llwyth achosion cymhleth o gleifion yn effeithiol, sgiliau rheoli amser rhagorol, y gallu i weithio ar ei ben ei hun yn ogystal â gwaith MDT profedig.
Bydd y swydd hon yn darparu cyfleoedd rhagorol i ddatblygu profiad beirniadol a sgiliau arweinyddiaeth ynghyd â gweithio o fewn tîm hynod gefnogol ac arbenigol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Prif ddyletswyddau'r swydd
- Cynnal asesiadau a thriniaethau ffisiotherapi; gan ddatblygu rhaglenni triniaeth therapiwteg unigol ar gyfer llwyth achosion arbenigol yn y maes clinigol perthnasol.
- Sicrhau safon uchel o ofal ar gyfer bob defnyddiwr gwasanaeth sy'n gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd neu ofalwyr, timau amlasiantaethol, a disgyblaethau sy'n rhan.
- Cyfathrebu â'r defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr asiantaethau a disgyblaethau eraill hynny yn briodol, yn aml gyda gwybodaeth sensitif, diagnosis neu ganlyniadau.
- Goruchwylio, addysgu a gwerthuso cymheiriaid, ffisiotherapyddion, Cynorthwywyr Ffisiotherapi, hyfforddwyr technegol, myfyrwyr ac aelodau eraill o'r timau amlddisgyblaethol neu amlasiantaethol.
- Hyfforddi a goruchwylio defnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd neu ofalwyr a staff o ddisgyblaethau neu asiantaethau eraill i gynnal rhaglenni gofal sydd wedi'u creu gan y therapydd.
- Dirprwyo dros yr Arweinydd Tîm Clinigol a'i gefnogi fel bo angen i reoli'r tîm dynodedig yn ddyddiol.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol ar ôl Cofrestru
- Tystiolaeth o gylchdro craidd
- Profiad o weithio mewn amgylchedd y GIG fel ffisiotherapydd a gweithio mewn tîm amlddisgyblaethol / amlasiantaethol lle bo'n berthnasol
Meini prawf dymunol
- Profiad o gyfrannu at CNG neu weithgorau
- Profiad yn yr arbenigedd perthnasol
Sgiliau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Yn heini yn gorfforol i gydymffurfio â Chanllawiau Codi a Chario y Bwrdd Iechyd.
- Gallu gweithio gan ganolbwyntio'n ddwys iawn yn ystod y rhan helaethaf o'r diwrnod gwaith
- Yn gallu bodloni gofynion cynllunio swydd saith niwrnod a chyflawni gofynion y swydd
- Gallu gweithio mewn amgylchedd dan bwysau ac na ellir ei ragweld
- Gallu ymgymryd â gwaith corfforol cymedrol i ddwys drwy gydol y diwrnod gwaith a chynnal gweithgareddau cydamserol.
- Gallu ateb gofynion teithio’r swydd
Meini prawf dymunol
- Gallu Siarad Cymraeg
Cwmwysterau a gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd mewn Ffisiotherapi neu gyfwerth.
- Wedi cofrestru aHCPC
- Tystiolaeth o CPD mewn Ffisiotherapi ar ffurf portffolio datblygiad personol manwl.
- Cyrsiau hyfforddi ôl-raddedig
- Gwybodaeth dda am gyflyrau cymhleth
- Gwybodaeth uwch am anatomi a ffisioleg sy'n sylfaen i batholeg gymhleth
- Gwybodaeth waith dda am bob maes o lywodraethu clinigol gan gynnwys ansawdd, archwilio a rheoli risg
- Dealltwriaeth o gyfrifoldebau cyfreithiol y proffesiwn
- Dealltwriaeth dda o'r angen i gasglu ystadegau a phrofiad o'u defnyddio
- Dealltwriaeth eang o bolisïau a gweithdrefnau PBC
- Ymwybyddiaeth o anabledd.
Meini prawf dymunol
- Aelodau o gorff hyfforddi ôl-raddedig proffesiynol priodol
- Aelodaeth o grŵp diddordeb arbennig/clinigol perthnasol
- Cwrs addysgwyr clinigol
- IQT Efydd
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Andrea Swan
- Teitl y swydd
- Respiratory Clinical Specialist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01745583910
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
bleep 4943
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector