Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ffisiotherapi - Anadlol
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Rhannu swydd
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AHP208-1126
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £50,129 - £57,365 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 22/11/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Arbenigwr Clinigol Ffisiotherapi - Stroc Aciwt
Gradd 7
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Ydych chi'n ffisiotherapydd strôc profiadol ac uchel-gymhellol, sy'n chwilio am her newydd neu'n awyddus i symud ymlaen i swydd Band 7?
Mae gennym gyfle cyffrous i ffisiotherapydd brwdfrydig, cymhellol sy'n meddwl am y dyfodol ymuno â'n Tîm Strôc Acíwt yn Ysbyty Glan Clwyd.
Gan weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol ymroddedig, byddwch yn darparu asesiadau ac ymyriadau ffisiotherapi arbenigol iawn i gleifion yn dilyn strôc acíwt, gan ddefnyddio rhesymu clinigol uwch i wneud y gorau o adferiad a chanlyniadau adsefydlu.
Fel arbenigwr clinigol, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu arweinyddiaeth glinigol, cefnogi a datblygu cydweithwyr, hyrwyddo rhagoriaeth mewn gofal cleifion, a chyfrannu at wella'r gwasanaeth.
Sylwch fod hon yn swydd sy'n gofyn am weithio dros 7 diwrnod yr wythnos.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Prif ddyletswyddau'r swydd
- Datblygu a darparu gwasanaeth o ansawdd uchel yn eich is-arbenigedd Ffisiotherapi ar draws BIPBC.
- Asesu a rheoli cleifion cymhleth.
- Datblygu cyfleoedd i ymarfer sy'n ymestyn cwmpas Ffisiotherapi traddodiadol.
- Hyfforddi a chefnogi Ffisiotherapyddion a staff cymorth i gynnig darpariaeth gwasanaeth o ansawdd uchel, wedi'i seilio ar dystiolaeth.
- Trefniadau llywodraethu o fewn y maes is-arbenigol.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Gradd / Diploma Graddedig mewn therapi perthnason
- Wedi cofrestru a HCPC
- Wedi ennill neu'n gweithio tuag at ennil cymwysterau ol-radd (gradd meistr)
- Yn gallu dangos datblygiad proffesiynol parhaus e.e portffolio DPP cyferdol a pherthnasol
Meini prawf dymunol
- Aaelodaeth o grep buddiannau arbennig priodol
- Hyfforddiant reoli/arwain
- Aelod o CSP
- Sgiliau cwmpas estyngedig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad helaeth yn gweithio fel uwch ffisiotherapydd mewn arbeniggedd clinigol
- Profiad o gyflwyno addysg glinigol mewn maes arbennigol
- Tystiolaeth o addysgu o fewn eich swydd
- Gweithio amlddisgyblaethol amlwg
- Profiad o archwylio
Meini prawf dymunol
- Profiad o ddarlithio'n allanol
- Cyfrannu at ymchwil
- Yn gymwys o ran ymarfer cwmpas estynedig yn y maes arbenigol
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau uwch o ran arfer clinigol ac ymresymu clinigol hyd at lefel arbenigol
- Gallu beirniadu papurau ymchwil a rhoi canfyddiadau perthnasol ar waith. Gallu rhoi adroddiadau eglur a chryno'n ysgrifenedig ac ar lafar
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog, gan gynnwys y gallu i brosesu a rhannu gwybodaeth hynod gymhleth mewn ffordd gyfrinachol
- Dangos annibyniaeth broffesiynol
- Gallu cwblhau busnes proffesiynol mewn ffordd hyderus a phendant gan ddefnyddio sgiliau trafod / dylanwadu gan gynnal cydberthynas waith ardderchog â'r holl randdeiliaid
Meini prawf dymunol
- Sgiliau cyflwyno amlwg
- Sgiliau Archwilio/Ymchwilio
- Sgiliau Rheoli/Arwain
- Cyflwyno cwmpas ymarfer estynedig
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Profiad a gwybodaeth glinigol ac arbenigol helaeth mewn perthynas â'ch maes arbenigol
- Tystiolaeth o astudio diweddar mewn maes clinigol perthnasol
- Dealltwriaeth am foesau proffesiynol a sut i'w rhoi ar waith yn ymarferol
- Dangos dealltwriaeth a chyfraniad o ran llywodraethu clinigol ac asesu risg
- Gwybodaeth eang am ddeddfwriaeth iechyd
Rhinweddau Personol
Meini prawf hanfodol
- Gallu cwblhau tasgau codi a chario yn unol â Pholisïau'r Bwrdd Iechyd
- Gallu cynnal cryn dipyn o ymdrech gorfforol trwy gydol y gwaith diwrnod
- Gallu ymdopi mewn amgylchedd gwaith prysur, yn cynnwys cyfnodau o dorri ar draws trwy gydol y dydd gwaith
- Sgiliau rheoli amser a threfnu ardderchog
- Gallu blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun a blaenoriaethau'r tîm
- Gallu gweithio'n hyblyg ac yn annibynnol
- Gallu myfyrio ac arfarnu ar eich perfformiad eich hun ar lefel gritigol
Arall
Meini prawf hanfodol
- Gweledigaeth glir o'ch rôl / ymrwymiad i'r maes arbenigol a'ch adran
- Yn gallu bodloni gofynion teithio'r swydd
Meini prawf dymunol
- Gallu Siarad Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Katrina McLaren
- Teitl y swydd
- Acute Physiotherapy Team Leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07825244565
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Gwawr Job-Davies
Deputy Head of Physiotherapy
Tel: 07799342012
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector







.png)
