Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Iechyd Cyhoedd
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC317-0525
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- I'w gadarnhau
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £26,928 - £29,551 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 27/05/2025 23:59
Teitl cyflogwr

PA / Gweinyddwr
Gradd 4
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Darparu gwasanaethau gweinyddol lefel uchel i Gyfarwyddiaeth Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cyfathrebu â sefydliadau ac unigolion o'r tu allan i'r Bwrdd Iechyd.
Pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer yr Arweinydd Parodrwydd am Argyfwng, Gwydnwch ac Ymateb (EPRR) a Chyfarwyddwr Cynorthwyol Diogelu Iechyd a'r tîm ehangach dros y ffôn, e-bost, a gohebiaeth neu ar gyfer ymwelwyr. Rhoi cyngor ar ystod eang o faterion sy'n ymwneud â gwaith yr Arweinydd EPRR a'r Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Diogelu Iechyd a'u timau, gan eu datrys neu eu cyfeirio at yr unigolyn mwyaf addas yn ystod cyfnodau lle nad ydynt yn y swyddfa. Cynllunio cyfarfodydd a'u trefnu, yn cynnwys llunio agendâu a llunio cofnodion ffurfiol a'u trawsgrifio.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rheoli dyddiadur Arweinydd EPRR a Chyfarwyddwr Cynorthwyol Diogelu Iechyd, gan gynnwys amserlennu ac aildrefnu apwyntiadau.
Darparu cymorth gweinyddol uwch, gan gynnwys rheoli dyddiaduron, trefnu teithio, trefnu ac aildrefnu cyfarfodydd. Monitro mewnflwch e-byst Microsoft Office yr Arweinydd EPPR a Chyfarwyddwr Cynorthwyol Diogelu Iechyd bob dydd, gan godi materion brys ac ymateb ar eu rhan pan fo modd/angen. Mewn cyfnodau o absenoldeb ymdrin ag e-byst, ymateb ar ran neu anfon ymlaen at gydweithwyr perthnasol i'w weithredu.
Yn gyfrifol am drefnu gweithdai, digwyddiadau hyfforddi a chynhadleddau mawr gyda'r rheiny sy'n mynychu o BIPBC ac yn allanol. Sicrhau bod siaradwyr gwadd, lleoliadau mewnol ac allanol ac arlwyo'n cael eu trefnu'n ddidrafferth, trefnu systemau TG, cydlynu cyflwyniadau, cynllunio a chreu rhaglenni a thaflenni, hyrwyddo, cofrestru'r rheiny sy'n bresennol a chasglu adborth.
Bod yn gyfrifol am gofnodi a monitro absenoldeb oherwydd salwch ymhlith y staff yn fanwl gywir. Cynghori rheolwyr perthnasol am gyfraddau absenoldeb aelodau o'r staff a chamau perthnasol y dylid eu cymryd yn unol â gofynion y polisïau ynghylch absenoldeb oherwydd salwch. Awdurdod dirprwyedig ar gyfer ESR gan y tîm rheoli i gofnodi absenoldeb salwch, gwyliau arbennig, gwyliau blynyddol ac ati ar gyfer y Tîm Gwella cyfan.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bod yn gyfrifol am gofnodi'r holl absenoldeb salwch ar y system ESR. Ymdrin â phob achos yn gyfrinachol.
Ymdrin â dogfennau/materion cyfrinachol a sensitif, gan gynnal cyfrinachedd llwyr a gweithredu'n ddoeth bob amser. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth a all beri gofid.
Bod yn gyfrifol am gofnodi gwyliau blynyddol a chyfrifo gwyliau blynyddol ar gyfer aelodau staff rhan amser yn gywir yn ôl polisi gweithdrefnau absenoldeb.
Bod yn gyfrifol am fonitro a chasglu gwybodaeth ar gyfer dychweliadau staff misol, a chyflwyno i'r rhestr cyflogau.
Rheoli system apwyntiadau dwyn ymlaen.
Ffeilio a rheoli'r holl adroddiadau a gohebiaeth gan sicrhau bod yr holl ddogfennau'n cael eu cadw yn unol ag amserlenni cyfreithiol.
Bod yn gyfrifol am archebu'r holl ofynion, nwyddau a gwasanaethau swyddfa drwy'r system Oracle. Codi anfonebau a derbynebau. Sicrhau'r pris gorau a'r gwerth orau am arian. Trefnu i groes gyfeirio anfonebau yn fewnol gydag adrannau eraill neu'n allanol pan fo angen. Cynnal lefelau stoc offer swyddfa digonnol yn yr holl swyddfeydd.
Bod yn gyfrifol am reoli gwasanaeth ac archebu nwyddau traul ar gyfer llungopiwr y swyddfa.
Cydweithio ag aelodau eraill o'r tîm gweinyddol i ddarparu cymorth i uwch swyddogion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel rhan o dîm Cymorth Gweinyddol y Swyddfeydd Corfforaethol. Gall hyn gynnwys clywdeipio, llunio taenlenni a llunio adroddiadau.
Gwaith cyflenwi ar gyfer aelodau tîm yn eu habsenoldeb.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau ac Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Profiad ar lefel uchel o ddarparu gwasanaeth gweinyddol/cynorthwyydd personol cynhwysfawr.
- Profiad o sefydlu a defnyddio systemau ffeilio/TG.
- Cyfarwydd â gweithdrefnau a therfynau amser swyddfeydd.
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o weithio fel Gweinyddwr / Cynorthwyydd Personol i Gyfarwyddwr Gweithredol neu swydd gyfwerth.
- Profiad blaenorol o weithio yn y GIG.
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog.
- Gallu gweithio heb oruchwyliaeth a gwneud penderfyniadau.
- Sgiliau trefnu.
- Sgiliau rhifedd a llythrennedd.
- Sgiliau ardderchog o ran gofalu am gwsmeriaid
- Saesneg ysgrifenedig a llafar graenus.
- Sgiliau teipio/prosesu geiriau
Meini prawf dymunol
- Sgiliau clywdeipio
- Gallu llunio adroddiadau.
- Hyderus ym mhob agwedd ar arferion swyddfa
- Profiad o lunio graffiau ac ystadegau.
Arall
Meini prawf hanfodol
- Ymagwedd gyfeillgar a phroffesiynol
- Hyderus
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Michelle Penwright
- Teitl y swydd
- Senior Business Manager, Health Protection Service
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000845327
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Katie Spruce
Dirprwy Bennaeth Parodrwydd Argyfwng, Gwydnwch ac Ymateb
07483 372149
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector