Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Iechyd Cyhoeddus
Gradd
Gradd 7
Contract
Cyfnod Penodol: 5 mis (tan 31/03/2026, Cwrdd gofynion y gwasanaeth)
Oriau
Rhan-amser - 15 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-AC631-0925
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
TBC
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£48,527 - £55,532 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
22/09/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Rheolwr Prosiect

Gradd 7

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Mae’r swydd hon am gyfnod penodol am tan 31/03/2026 oherwydd cwrdd gofynion y gwasanaeth.

Bydd deiliad y swydd yn cyflawni rôl reoli gyffredinol ar gyfer prosiectau cymhleth a sensitif iawn, a gynhelir gan yr Is-adran yn yr ardal leol ac ar draws y BILl. 

Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gynllunio, cefnogi, hwyluso a monitro cynnydd prosiectau neu ffrydiau gwaith sy'n rhan o'r rhaglen y cytunwyd arni a darparu cymorth rheoli, hyfforddiant ac arweiniad arbenigol i holl staff y prosiect. 

Bydd y Rheolwr Prosiectau hefyd yn gyfrifol am sicrhau y caiff polisïau ar gyfer rhoi prosiectau ar waith ar draws PBC eu datblygu ac y cydymffurfir â nhw, ac y caiff methodoleg rheoli prosiectau safonol eu defnyddio er mwyn datblygu prosiectau a'u cyflwyno'n llwyddiannus

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Rheoli ac arwain nifer o brosiectau cymhleth, gan gymryd camau priodol e.e. rheoli problemau, risgiau a gwyriadau o'r cynllun er mwyn sicrhau y caiff prosiectau eu cyflawni yn unol â'r amserlen
  • Cynllunio, monitro a rheoli prosiectau, drwy gydol cylch oes y prosiect, er mwyn cyflwyno manteision gan ddefnyddio methodoleg PRINCE 2.
  • Gwneud penderfyniadau ynghylch amrywiaeth o faterion prosiect cymhleth/cymhleth iawn lle gall fod mwy nag un ffordd o weithredu.
  • Sicrhau y caiff prosiectau a ffrydiau gwaith eu cyflawni drwy reoli, arwain a chefnogi cyfarwyddwr a staff prosiectau cynorthwyol a staff prosiect sy'n ymwneud â chynllunio a chyflwyno'r cynllun sy'n rhan o gynllun y rhaglen.
  • Gweithio'n agos gyda Rheolwyr Rhaglen, Rheolwyr Prosiectau a staff cymorth i sicrhau y caiff yr holl brosiectau ym mhortffolio'r gwasanaeth eu cyflwyno.
  • Cydgysylltu timau prosiect lleol a sicrhau bod yr holl bersonél sydd ynghlwm â gweithgareddau prosiectau yn deall eu rolau ac yn eu cyflawni'n effeithiol, gan gymryd camau unioni lle bo'n briodol.
  • Cwblhau neu sicrhau bod y tîm/timau prosiectau yn cwblhau ac yn cynnal yr holl brosesau/adnoddau Rheoli Prosiectau yn gywir. Mae hyn yn cynnwys achosion busnes, manylebau, cynlluniau prosiectau, cynlluniau profi, cynlluniau hyfforddi, pecynnau gwaith, dadansoddi buddiannau, logiau risg a materion a threfniadau rheoli gwasanaethau.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau a/neu Wybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Addysg hyd at lefel diploma ôl-raddedig / lefel gyfatebol o brofiad gwaith a gwybodaeth
  • Ymarferydd PRINCE2, cymhwyster tebyg neu lefel gyfatebol o brofiad gwaith a gwybodaeth
  • Lefel 4 mewn Rheolaeth ILM, neu gymhwyster cyfatebol / lefel gyfatebol o brofiad gwaith a gwybodaeth. Parodrwydd i'w chwblhau o fewn 2 flynedd fel arall.
  • Cymhwyster ECDL neu gymhwyster cyfatebol Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
  • Gwybodaeth gyfredol am reoli prosiectau a'r ffordd y caiff ei defnyddio
  • Gwybodaeth gyfredol am strategaethau lleol a chenedlaethol perthnasol. Gwybodaeth am fethodoleg prosiect

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad helaeth o weithio mewn lleoliad GIG/gofal cymdeithasol neu'r sector gwirfoddol
  • Profiad o reoli newid yn llwyddiannus ar draws ffiniau proffesiynol
  • Cyfranogiad mewn prosiectau rheoli newid sylweddol
  • Profiad o fonitro cyllidebau, negodi cytundebau, caffael ac ymdrin â gweithdrefnau ariannol
  • Dangos llwyddiant o ran creu, arwain, cymell, rheoli a datblygu timau
  • Gallu amlwg i ddylanwadu ar bob lefel o'r sefydliad Y gallu i nodi a datrys problemau

Sgiliau a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun a threfnu / blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun a llwyth gwaith y tîm er mwyn gweithredu'n effeithiol
  • Gallu amlwg i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn ffordd sy'n glir, yn rhugl ac yn llawn perswâd
  • Gallu dehongli polisïau a chanllawiau cenedlaethol fel y bo'n briodol i brosiectau
  • Gallu amlwg i ddadansoddi gwybodaeth gymhleth a'i chyflwyno'n briodol er mwyn iddi fod yn hawdd ei deall
  • Gallu amlwg i ddylanwadu ar staff ar bob lefel, eu darbwyllo a negodi â nhw
  • Y gallu i rymuso, hyfforddi a chefnogi staff.
  • Sgiliau datrys gwrthdaro Barn gadarn, sgiliau cynllunio, gwneud penderfyniadau a threfnu
  • Ystod eang o sgiliau TGCh
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i siarad Cymraeg

Gwerthoedd

Meini prawf hanfodol
  • Unigolyn arloesol Sgiliau meddwl ochrol Y gallu i gyfathrebu ar lafar â phob lefel o'r sefydliad a rhannu gwybodaeth, ac yn fodlon gwneud hynny
  • Y gallu i ddatblygu staff Bod yn hyblyg gyda'r gallu i addasu er mwyn cyflawni pob agwedd ar y gwaith Rhinweddau arwain a'r gallu i gymell eraill
  • Sgiliau rheoli amser. Y gallu i gwblhau pob tasg yn drylwyr a chadeirio

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sam Lauder
Teitl y swydd
Assistant Director Health Protection
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Michelle Penwright

Rheolwr Busnes Senior

03000 845327

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg