Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gwasanaethau Merched
Gradd
Gradd 3
Contract
Cyfnod Penodol: 12 mis (i cwrdd gofynion y gwasanaeth.)
Oriau
Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos (Dydd Llun, Dydd Mercher a Ddydd Iau)
Cyfeirnod y swydd
050-AC696-1025
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£25,313 - £26,999 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
16/10/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Ysgrifennydd Safle

Gradd 3

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Mae’r swydd hon am Gyfnod penodol/Secondiad am 12 mis i cwrdd gofynion y gwasanaeth.

Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.

Mae cyfle cyffrous wedi codi i lenwi swydd Ysgrifennydd Safle o fewn y Gyfarwyddiaeth Merched yn Ysbyty Glan Clwyd am gyfnod penodol o 12 mis.

Mae'r Ysgrifennydd Safle hefyd yn gyfrifol am ddarparu cefnogaeth i'r Rheolwr Cyffredinol, Metronau, Rheolwyr Wardiau, Rheolwr Arweiniol ac Uwch Fydwragedd mewn perthynas â rheolaeth a gweinyddiaeth yr adran a darparu gwasanaeth ysgrifenyddol o fewn yr adran yn ôl yr angen. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gydgysylltu cyfarfodydd Corfforaethol a Chanolog yn llawn, gan gynnwys archebu ystafelloedd, llunio agendâu a thrawsgrifio cofnodion ffurfiol.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn wydn, bod â sylw manwl i fanylion ac agwedd gadarnhaol. Yn ddelfrydol bydd gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol a gallu profedig i ddatblygu a chynhyrchu dogfennaeth o ansawdd uchel ar y cyd â chymryd cofnodion tra'n gweithio i derfynau amser.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd angen cydlynu cyfarfodydd y Gyfarwyddiaeth a Gogledd Cymru, gan gynnwys trefnu ystafelloedd, llunio agendâu a thrawsgrifio cofnodion ffurfiol.

Hefyd bydd yn darparu gwasanaeth ysgrifenyddol effeithiol a chefnogaeth i bob uwch reolwr Cyfarwyddiaeth y Merched yn Ardal y Gorllewin gan gynnwys y Cyfarwyddwr Clinigol, Bydwraig Ymgynghorol, Rheolwr Arweiniol, Rheolwr Cleifion Mewnol a'r Rheolwr Cyffredinol.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.  

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

  • Cysylltu â staff PBC fel bo angen i drefnu mynediad ar gyfer eu bathodyn adnabod.
  •  Gwybodaeth gyfredol a dealltwriaeth am broblemau a dyletswyddau sy'n gysylltiedig â swyddi'r Uwch Reolwyr.
  • Trefnu cyfarfodydd, gwahodd mynychwyr a threfnu lleoliadau cyfarfod addas a lluniaeth os oes angen.
  • Rheoli'r dyddiadur electronig y Cyfarwyddwr Clinigol, y Rheolwr Arweiniol a'r Metron, gan gynnwys gwneud apwyntiadau, trefnu cyfarfodydd, anfon ymddiheuriadau a diwygiadau yn unol â'r flaenoriaeth.
  • Sicrhau bod y Rheolwr Arweiniol a'r Metron wedi cael y dogfennau angenrheidiol cyn cyfarfodydd.

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

Manyleb y person

Cymwysterau a/neu Wybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster teipio/prosesu geiriau - RSA III neu gyfatebol
  • TGAU A-C Saesneg a Mathemateg / Profiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
  • NVQ Gweinyddu Busnes Lefel 2 neu gyfatebol
  • Gwybodaeth am becynnau Microsoft - Word / Excel / Outlook

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad clercio/ysgrifenyddol cynhwysfawr
  • Gallu i oresgyn anawsterau a gweithredu'n annibynnol o fewn ffiniau hysbys
Meini prawf dymunol
  • Ymwybyddiaeth o weithdrefnau a pholisiau lleol sy'n berthnasol
  • Profiad o sefydlu systemau ffeilio/TG a'u defnyddio
  • Gallu delio a lefel uchel o gyfathrebu a chysylltiad ag adrannau ac asiantaethau eraill

Cymhwyster a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Gallu cyfathrebu'n effeithiol
  • Sgiliau trefnu
  • Gallu i weithio heb oruchwyliaeth
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth a Microsoft Word/Excel/ Access/Powerpoint/Rhyngrwyd/E-byst
  • Gallu i ddelio a newid

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Lindsey Roberts
Teitl y swydd
Lead Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
0300 844489
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

x3766

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg