Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cymuned
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-ACS714-1125
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan Iechyd Bwcle
Tref
Bwcle
Cyflog
£27,898 - £30,615 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
27/11/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Ymarferydd Cynorthwyol - Tim Nyrsio Bwcle

Gradd 4

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i recriwtio Ymarferwyr Cynorthwyol Band 4 i ymuno â Tim Gwasanaeth Nyrsio Bwcle.

Bydd deilydd y swydd yn gweithio fel rhan o'r dîm dynodedig, gan gynnwys Gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cyffredinol a Nyrsio Cofrestredig, Gan ddarparu gofal clinigol o ansawdd uchel yn seiliedig ar dystiolaeth, sy'n canolbwyntio ar anghenion uniongyrchol cleifion gan gynnwys y rhai â chyflyrau cronig. Bydd deilydd y swydd yn gweithio dan gyfarwyddyd a chefnogaeth Nyrs Gofrestredig gan ddilyn protocolau, gweithdrefnau, llwybrau, gofynion llywodraethu clinigol a chynlluniau gofal y Bwrdd Iechyd.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Fel Ymarferydd Nyrsio Cynorthwyol, bydd disgwyl i ddeiliad y swydd reoli ei lwyth gwaith a'i lwyth achosion ei hun, gan ymgymryd â thasgau sydd wedi'u dirprwyo gan ymarferydd cofrestredig o dan drefniadau goruchwylio priodol. Gan feddu ar ddealltwriaeth o ymarfer seiliedig ar dystiolaeth a darparu gofal yn unol â thystiolaeth gyfredol, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar unigolion yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r sefydliad.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.  

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac. 

Manyleb y person

Cymwysterau a/neu Wybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd Sylfaen mewn Ymarfer Gofal Iechyd (Lefelau 4 a 5) neu lefel gyfatebol o brofiad
  • TGAU Mathemateg a Saesneg Gradd C neu'n uwch neu gymwysterau sgiliau hanfodol cyfatebol ar lefel 2 neu'n uwch
  • Tystiolaeth o ddatblygiad personol parhaus sy'n berthnasol i'r rôl mewn gofal iechyd
  • Gallu dangos dealltwriaeth o'r Cod Ymddygiad i Weithwyr Cynnal Gofal Iechyd, canllawiau Dirprwyo Cymru Gyfan a Fframwaith Llywodraethu Ymarferwyr Cynorthwyol Band 4 Cymru gyfan.
  • Gwybodaeth glinigol sy'n berthnasol i'r swydd.
  • Dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd dilyn gweithdrefnau a chynlluniau trin
  • Dangos dealltwriaeth o'r ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â Diogelu e.e. oedolion/plant, y Ddeddf Galluedd Meddyliol a'r Trefniadau Diogelu Wrth Amddifadu o Ryddid i gadw oedolion yn eu gofal yn ddiogel
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth leol am wasanaethau statudol a gwirfoddol
  • Cymhwyster addysgu neu asesu

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Yn gallu gweithio oriau hyblyg, sy'n cynnwys penwythnosau, gwyliau banc, sifftiau cynnar, sifftiau hwyr a sifftiau nos
  • Yn dangos y gallu i weithio o fewn Gwerthoedd ac Ymddygiad GIG Cymru
  • Yn gallu dangos hunangymhelliant, y gallu i gymell eraill, rhagweithgarwch a dyfeisgarwch
  • Y gallu i deithio mewn ffordd amserol
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i siarad neu ddysgu Cymraeg.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad sylweddol a diweddar o ddarparu gofal clinigol perthnasol
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu a'r gallu i reoli/lleddfu sefyllfaoedd heriol neu fygythiol
  • Profiad o ymgymryd ag ystod o sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol â chwmpas ymarfer y rôl a'r fframwaith llywodraethu cenedlaethol e.e. Gofal cathetr (gan gynnwys tynnu allan). Monitro a chofnodi canlyniadau arsylwi a dehongli hanfodol. Adolygu asesiadau risg. Monitro a dehongli lefelau'r glwcos yn y gwaed. Profiad o gefnogi Nyrs Gofrestredig wrth ofalu am glwyfau
Meini prawf dymunol
  • Profiad mewn ystod o sgiliau clinigol sy'n cynnwys gofal lliniarol
  • Ar gyfer rolau cymunedol: profiad o ddarparu gofal mewn lleoliad gofal cymunedol neu sylfaenol.
  • Rhoi meddyginiaethau drwy'r geg, drwy ddulliau argroenol, isgroenol a mewngyhyrol
  • Sgiliau gofalu am glwyfau nad ydynt yn rhai cymhleth

Sgiliau a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Lefel dda o sgiliau TG sylfaenol
  • Y gallu i ddangos agwedd drugarog a gofalgar a sgiliau cyfathrebu effeithiol Y gallu i weithio mewn arena amlasiantaethol
  • Y gallu i weithio mewn arena amlasiantaethol
  • Y gallu i weithredu fel Ymarferydd Cynorthwyol heb oruchwyliaeth uniongyrchol
  • Y gallu i reoli amser a llwyth gwaith personol, blaenoriaethu gwaith, dirprwyo a gofyn am gymorth pan fo'n ofynnol
  • Y gallu i asesu cleifion o fewn cymwyseddau a phrotocolau y cytunwyd arnynt
  • Y gallu i drefnu a blaenoriaethu eich llwyth gwaith dirprwyedig eich hun
  • Y gallu i ddelio â natur anarferol ac anrhagweladwy'r llwyth gwaith a'r Cyfweliad 8 cyswllt â chleifion unigol
  • Y gallu i ddatblygu cydberthnasau effeithiol a phriodol â chleifion, eu teuluoedd, gofalwyr a chydweithwyr
  • Y gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarfer myfyriol a goruchwyliaeth glinigol
  • Y gallu i gefnogi, goruchwylio, asesu a gweithredu fel model rôl i Ymarferwyr Cynorthwyol dan Hyfforddiant, dysgwyr eraill a Chynorthwywyr Gofal Iechyd fel y bo'n ofynnol yn y lleoliad clinigol neu yng nghartref y claf
  • Sgiliau cyfathrebu llafar a dieiriau gwych.
  • Y gallu i wrando'n astud ar wybodaeth sensitif neu anodd a'i chyfleu mewn modd clir a thrugarog

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Jody Benn-Edwards
Teitl y swydd
Team Leader
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 859576
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg