Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gwasanaeth Niwroddatblygiadol
Gradd
Gradd 3
Contract
Cyfnod Penodol: 6 mis (tan 31.03.2025 i cwrdd gofynion y gwasanaeth.)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i Dydd Gwener)
Cyfeirnod y swydd
050-AC727-1025
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Bodfan Mawr
Tref
Caernarfon
Cyflog
£25,313 - £26,999 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
21/10/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Ysgrifennydd Meddygol

Gradd 3

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Mae’r swydd hon am Gyfnod penodol/Secondiad tan 31.03.2025 i cwrdd gofynion y gwasanaeth.

Darparu gwasanaeth gweinyddu cywir, cyfrinachol a chefnogol i gleifion, timau clinigol, gofalwyr ac asiantaethau mewnol ac allanol (e.e. Awdurdod Lleol, y Trydydd Sector, CAIS) er mwyn: Darparu llwybr diogel ac effeithlon i gleifion a darparu gwybodaeth a chymorth priodol i deuluoedd a gofalwyr. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaeth gweinyddol ysgrifenyddol meddygol cynhwysfawr o ansawdd uchel. 

Cefnogi'r gwaith o gydlynu'r trefniadau gweinyddu i ddarparu gwasanaeth ysgrifenyddol cefnogol o ansawdd uchel i'r tîm ymgynghorol, meddygol a nyrsio. Gweithio'n annibynnol a bod yn atebol am drefnu/blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun er mwyn sicrhau bod terfynau amser yn cael eu cyflawni. Cefnogi hwyluso'r cleifion ar hyd llwybr diffiniedig. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cefnogi'r gwaith o gydlynu trefniadau gweinyddol i ddarparu gwasanaeth ysgrifenyddol cefnogol o ansawdd uchel i'r meddyg ymgynghorol, y tîm meddygol anyrsio. Gweithio'n annibynnol a bod yn atebol am drefnu/blaenoriaethu eich baich gwaith eich hun i sicrhau bod amserlenni'n cael eu bodloni. Cefnogi'r gwaith o hwyluso cleifion ar hyd llwybr diffiniedig.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.  

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • NVQ Gweinyddu Busnes L3 neu brofiad cyfatebol
  • RSA /OCR lefel 2 neu brofiad cyfatebol (rhaid fod yn ddefnyddiwr hyfedr o Microsoft Word
  • Cymhwyster yn ymwneud â TG CLAIT plus /ECDL neu gyfatebol
Meini prawf dymunol
  • AMSPAR – City & Guilds L3
  • NVQ L3 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth o ystod o weithdrefnau gweinyddu
  • Profiad o weithio mewn swyddfa brysur
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio o fewn y GIG

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Cyfathrebu'n broffesiynol ac effeithiol â staff ar bob lefel, yn llafar ac yn ysgrifenedig
  • Gallu defnyddio Microsoft Office
  • Profiadol mewn cynllunio a blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun
  • Hyblyg ac addasadwy i alwadau cyfnewidiol y gwasanaeth
  • Sgiliau trefnu rhagorol
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau cymryd cofnodion

GWYBODAETH

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o ddatblygiad personol parhaus
  • Gallu delio â gwybodaeth sensitif
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am sefydliadau'r GIG
  • Termau Meddygol

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i deithio yn unol â'r gofynion rolau
Meini prawf dymunol
  • Siarad Cymraeg

Rhinweddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Cyfrannu mewn tîm
  • Agos atoch a chyfeillgar
  • Dibynadwy
  • Datblygu eich arferion eich hun drwy fyfyrio a dysgu
  • Empathig

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Charlotte Sayle
Teitl y swydd
Administration Manager Neurodevelopment
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 851503
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Laura Iles - Dirpwy Reolwraig Gwasanaeth Cymorth

[email protected]

03000 850836

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg