Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gofal Sylfaenol
- Gradd
- Band 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (7.5 awr y dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener, gyda'r amseroedd craidd yn 9yb tan 5yh gyda hyblygrwydd)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC698-1025
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Eryldon Caernarfon neu Preswylfa Wyddgrug
- Tref
- Caernarfon
- Cyflog
- £31,516 - £38,364 Per annum
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 16/10/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Rheolwr Cefnogi Contractau Gofal Cychwynnol
Band 5
Trosolwg o'r swydd
Contractio Gofal Sylfaenol (PCC)
Rheolwr Cymorth Contractau Gofal Sylfaenol – Band 5
Wedi’i leol yn Eryldon, Caernarfon neu Preswylfa, Yr Wyddgrug
Mae gan y Tîm Contractio Gofal Sylfaenol (PCCT) gyfle gwych ar gyfer unigolyn llawn cymhelliant, rhagweithiol ac arloesol. Mae’r rôl yn cynnwys:
- Arwain ar weithredu polisïau a strategaethau corfforaethol y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer y PCCT, yn benodol ar gyfer Llywodraethu Corfforaethol, Gweinyddiaeth, Cyfathrebu, y Gymraeg, Cydraddoldeb, a sicrhau bod systemau priodol ar waith i adolygu a monitro cydymffurfiaeth.
- Rheoli cyfathrebu gyda Chontractwyr Gofal Sylfaenol sy’n cynnwys Meddygfeydd, Clystyrau, Fferylliaeth Gymunedol, Deintyddion ac Optometryddion. Diweddaru gwefannau a thudalennau mewnrwyd.
- Sicrhau bod gwasanaeth cymorth gweinyddol effeithiol ac effeithlon yn cael ei ddarparu i'r PCCT. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau cymorth priodol ar gyfer cyfarfodydd mewnol ac allanol penodol sy’n cynnwys cymryd cofnodion.
- Sicrhau bod busnes y PCCT yn cael ei gynnal yn unol ag egwyddorion Llywodraethu Corfforaethol Rheolau Sefydlog y Bwrdd Iechyd Lleol a'r Cod Didwylledd.
Bydd eich sgiliau cyfathrebu yn eithriadol wrth i chi fagu a chynnal partneriaethau gweithio effeithiol gyda chontractwyr unigol. Bydd gofyn i chi gydweithio â chydweithwyr allweddol o fewn y PCCT, Timau Ardal ac ar draws ystod eang o randdeiliaid, gan ddefnyddio sgiliau cyfathrebu, rhwydweithio a dylanwadu gwych.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cefnogaeth CGC
Cyfrifol am sicrhau darpariaeth cefnogaeth ysgrifenyddol a gweinyddol amserol i Dîm Rheoli a staff y CGC
Cefnogi gwaith Tîm Rheoli’r CGC drwy:
Paratoi adroddiadau/papurau/cyflwyniadau
Drafftio ymatebion i bapurau polisi/ymgynghori
fel bo angen ar unrhyw fater sy’n ymwneud â pholisi/gweithdrefnau corfforedig, sy’n effeithio ar staff neu weithrediadau/cyfrifoldebau CGC o fewn cwmpas cyfrifoldeb
Yn gyfrifol am sicrhau cynhyrchiad agendau, cofnodion a dogfennaeth gefnogol ar gyfer cyfarfodydd cytunedig yn effeithiol ac amserol,.
Yn gyfrifol am gasglu, dosbarthu a threfnu cyfieithu dogfennau at derfynau amser cytunedig.
Yn gyfrifol am gynllunio a threfnu cyfarfodydd, sy’n cynnwys rhag- hysbysu, darparu neu drefnu cefnogaeth weinyddol, trefnu lleoliadau, lluniaeth a, phan fo cais ac yn briodol, trefnu cyfieithu ar y pryd.
Mynychu cyfarfodydd, mewnol ac allanol, a chymryd nodiadau i gynhyrchu cofnodion a thaflenni gweithredu at derfynau amser cytunedig os a phan fo angen.
Cymryd rhan mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol fel cynrychiolydd CGC mewn meysydd o fewn cwmpas cyfrifoldeb.
Ymdrin â dogfennau/materion hynod gyfrinachol a sensitif, gan gynnal cyfrinachedd llwyr a doethineb bob amser.
Arwain ar sefydlu a chynnal llinellau cyfathrebu sy’n gadarn ac effeithiol gyda darpawyr gofal cychwynnol.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- CGC lefel 4 neu RSA 3 (teipio) neu cymhwyster cyfatebol a neu brofiad gweinyddol
- Tystysgrif rheoli neu brofiad o reoli swyddfa
- CGC mewn Rheoli Swyddfa neu weinyddiaeth neu brofiad o drefniadaeth sydd gywerth â lefel gradd
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o CPD/datblygiad personol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad mewn swydd uwch ysgrifenyddol neu weinyddol
- Cymryd nodiadau a chofnodion
- Y gallu i ddatblygu a chynnal perthnasau personol gydag ystod eang o unigolion ac o fewn grwpiau.
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau ysgrifennu adroddiadau
- Y gallu i weithio at derfynau amser cytunedig
- Y gallu i gwrdd â therfynau amser a gweithio’n unigol
Knowledge
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth ynghylch ystod lawn o bolisïau a gweithdrefnau gweinyddol a threfniadol a gafwyd drwy hyfforddiant a phrofiad priodol at lefel gradd neu gywerth
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth a dealltwriaeth Gofal Cychwynnol
Personal Qualities
Meini prawf hanfodol
- Ymroddiad i weithio mewn tîm
- Hyblyg
- Hunan-ysgogol, blaengar ac arloesol
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dafydd Bulman
- Teitl y swydd
- Head of Primary Care Contracting
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 852312
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector