Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gofal Sylfaenol
Gradd
Band 6
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (7.5 awr y dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener, gyda'r amseroedd craidd yn 9yb tan 5yh gyda hyblygrwydd)
Cyfeirnod y swydd
050-AC465-0926
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Eryldon Caernarfon neu Preswylfa Wyddgrug
Tref
Caernarfon
Cyflog
£40,559 - £48,841 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
01/10/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Swyddog Contractau Gofal Cychwynnol

Band 6

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle gwych ar gyfer unigolyn brwdfrydig, rhagweithiol ac arloesol i ymuno a thim Contractio Gofal Cychwynnol.

Rydym angen unigolyn arbennig i lenwi’r swydd Swyddog Contractau Gofal Cychwynnol. Mae hon yn swydd barhaol, heriol a chyffrous o fewn yr Contractio Gofal Cychwynnol fydd yn allweddol i gefnogi’r tim ar draws pob agwedd o gontractio gyda Meddygon Teulu a Fferyllwyr Cymunedol . Bydd deiliad y swydd hefyd yn darparu cymorth ar gyfer prosiectau a rhaglenni gwaith ar draws BCU.

Mae’r swydd yn cynnwys cefnogi comisiynu a rheoli pob un o’r cytundebau gofal cychwynnol o fewn yr Ardaloedd a bydd angen sgiliau cyfathrebu o’r radd flaenaf.  

Prif ddyletswyddau'r swydd

Yn gyfrifol am reoli agweddau gweithredol a gytunwyd y contractau gofal cychwynnol i ddarparu gwasanaethau meddygon teulu a fferyllol,  gan arwain ar rai meysydd penodol fel bo angen.

Yn gyfrifol am gymryd arweiniad rheoli gweithredol agweddau a gytunwyd  contractau GMS yn yr Uwch Adran, gan ddehongli polisïau i adlewychu anghenion lleol o fewn y fframwaith weithredol gyffredinol.

Ar lefel weithredol, arwain a chydlynu cydymffurfiaeth leol gyda rheoliadau GIG a chytundebau gofal cychwynnol, yn ogystal â pholisïau, gweithdrefnau a mentrau Llywodraeth Cymru sy’n berthnasol i ofal cychwynnol.

Defnyddio gwybodaeth arbenigol am y contractau gofal cychwynnol statudol a rheoliadau i gynghori a darparu arbenigedd ar gyfer materion gofal cychwynnol o ran comisiynu, contractau a pherfformiad.

Gweithredu o fewn canllawiau gweithredol cenedlaethol a lleol yn gyffredinol gydag ychydig iawn o oruchwyliaeth ac ymarfer mesur arwyddocaol o bwyso a mesur annibynnol er mwyn ymateb, cynghori a datrys materion cytundebol sylfaenol a phryderon. Bydd hyn yn cynnwys gwneud penderfyniadau ynghylch materion cynhennus ac mae'n bosibl bydd sawl ffordd o fynd i'r afael â nhw.

Gweithio gyda staff o fewn yr CGC a Thîm(au) Ardal i ddatblygu tîm integredig effeithiol i gyflawni cynlluniau ac amcanion gweithredol yr CGC a sicrhau darpariaeth gwasanaethau gofal cychwynol effeithiol ac o asawdd uchel.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

 

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

 

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Qualifications

Meini prawf hanfodol
  • Addysgwyd at lefel gradd mewn pwnc perthnasol neu lefel gywerth o brofiad o weithio ar lefel debyg mewn maes arbenigol.
  • Hyfforddiant pellach neu brofiad arwyddocaol mewn rheoli prosiect, rheoli ariannol neu gefnogi prosesau rheoli newid,

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad arwyddocaol mewn contractau gofal cychwynnol, gan gynnwys gwybodaeth am: Contractau GMS, Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau, Rheoliadau GMS a Chontract Fferyllfa SFE, Contractau Optometreg a Chomisiynu Gwasanaeth
  • Tystiolaeth o weithio effeithiol ac ymgysylltu â thimau amlddisgyblaethol mewn gofal cychwynnol neu eilaidd.
  • Profiad a dealltwriaeth o werthuso a mesur perfformiad gwasanaethau iechyd.

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu clir ynghyd â sgiliau ysgrifennu, ysgrifennu adroddiadau a chyflwyno ardderchog; gallu creu a chyflawni syniadau a chysyniadau yn glir, cryno a chywir ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol.
  • Sgiliau meithrin perthnasau allweddol a chynnal rhwydweithiau
  • Sgiliau hwyluso, dylanwadu a thrafod i reoli sefyllfaoedd cymhleth a sensitif, lle efallai bod anghytuno dros farn a chyflawni canlyniadau sy’n gyson â chwrdd gydag amcanion.

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Dealltwriaeth am oblygiadau statudol manwl y Bwrdd Iechyd a deddfwriaeth y GIG o ran cytundebau gofal cychwynnol.
  • Gwybodaeth ac ymwybyddiaeth am faterion cyfoes mewn Gofal Cychwynnol a chyfeiriad polisïau’r LlC ar gyfer GIG Cymru.

Rhinweddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Gwydn a hyblyg wrth ymdrin â gofynion amrywiol, heriau i benderfyniadau a disgwyliadau.
  • Y gallu i symbylu eraill a gweithio o fewn tîm integredig.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Lisa Dibden Williams
Teitl y swydd
Primary Care Contracts Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 852312
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg