Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cymuned
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 30 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-ACS337-0625
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Bae Colwyn
Tref
Bae Colwyn
Cyflog
£24,433 - £26,060 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
24/06/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Gweithiwr Gofal Gorffwylledd

Gradd 3

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

 

 Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle wedi codi i unigolyn brwdfrydig i ymuno a'n Tîm Ysbyty Cymuned i ddarparu gofal effeithiol, clinigol a medrus. 

Bydd deilydd y swydd yn cefnogi'r nyrs hyfforddedig a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill wrth ddarparu'r safon uchaf o ofal a ganolbwyntir ar y claf.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deilydd y swydd yn gweithio'n agos gyda'r tîm datblygiad dementia i ddefnyddio gwybodaeth a sgiliau i alluogi staff eraill ar draws safle'r ysbyty i ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol i bobl sydd â dementia, yn ogystal â chefnogaeth i'w gofalwyr a'u teuluoedd.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

 Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

 Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Addysg gyffredinol o safon dda
  • NVQ lefel 3 neu gyfatebol
  • Agwedd bositif tuag at ofal dementia a'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan ddementia
  • Yn ymwybodol o flaengareddau, gan gynnwys 'dyma fi', 'tip tree' ayb.
Meini prawf dymunol
  • NVQ level 4

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gweithio gyda phobl sydd a dementia mewn lleoliad clinigol
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol o weithio gyda chleifion hyn
  • Profiad o gefnogi gofalwyr a theuluoedd pobl sydd a dementia

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dim
  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog
  • Gallu gweithio mewn amgylchedd llawn straen
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau TG sylfaenol
  • Gallu ymgymryd ag addysgu a dysgu sylfaenol ar gyfer aelodau staff, cleifion a gofalwyr

Rhinweddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cadw amser da
  • Dull hyblyg at waith
  • Diwyd a dibynadwy
  • Wedi ei gymell i gefnogi eraill i ennill sgiliau dementia

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Dawn Patterson
Teitl y swydd
Ward Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 8520017
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg