Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Nyrsio
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 24 awr yr wythnos (Sifftiau)
Cyfeirnod y swydd
050-NMR339-0525
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Bae Colwyn
Tref
Bae Colwyn
Cyflog
£30,420 - £37,030 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
25/05/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Nyrs Staff

Gradd 5

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

 

 Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Sylwch ar gyfer myfyrwyr Cymru, rhaid i chi wneud cais trwy Symleiddio lle gellir dod o hyd i’r holl swyddi sydd ar gael.

Cyfle arbennig a chyfroes i Nyr Gofrestredig i ymuno a thim cymwynasgar mewn ysbyty gymunedol. Ysbyty gyda 2 ward a 32 o gleifion, a allanol prysur.

Bydd croeso i nyrsus gydwybodol sydd a diddordeb mewn ehnangu gwasanaeth sydd ar gael yn yr ysbyty ac i'r dyfodol.

Rydym yn fwy na parcd i gefnogi a hyfferddi Nyrsus Staff sydd newydd gymhutyso drwy annog a hybu ei preceptoriaeth.

Sicrhau bod y 12 hanfodion gofal yn cael eu dilyn wrth ofalu am bob claf.

Cyfathrebu a gwybodaeth, parchu pobl, sicrhau diogelwch, hybu annibyniaeth, perthnasau, cysgu, gorffwys a gweithgaredd, sicrhau cysur, lleddfu poen, ymddangosiad a hylendid personol, bwyta ac yfed, anghenion toiled, hylendid ac iechyd y geg ac osgoi briwiau gwasgu.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cychwyn gofal di-oed, unigol cleifion trwy asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso rhaglenni gofal, heb oruchwyliaeth uniongyrchol uwch nyrs.

Cynhyrchu adroddiadau a dogfennau i gydymffurfio a Chanllawiau'r Bwrdd Iechyd a'r NMC.

Arddangos ymwybyddiaeth o weithdrefnau clinigol a seiliwyd ar ymchwil, a fydd yn ymestyn ei rol fel nodwyd ar gyfer ei faes/maes yn ystod ei (h)adolygiad Perfformiad Blynyddol.

Arddangos gallu damcaniaethol ac ymarferol mewn perthynas a gofal cleifion, darparu nyrsio effeithiol sydd o ansawdd uchel.

Hybu cyfathrebu/cydweithio effeithiol a phob aelod o'r tim aml-ddisgyblaethol gan gynnwys y broses ryddhau.

Cymryd cyfrifoldeb o’r Ward/Uned pan fydd angen a darparu gwasanaeth parhaus, gan gefnogi staff llai profiadol.

Arddangos sgiliau goruchwylio mewn perthynas a chleifion/gofalwyr/myfyrwyr/ymgeiswyr CGC a staff llai profiadol.

Mentora a chefnogi myfyrwyr nyrsio a chymryd rhan yn y gwaith o'u cynorthwyo i gyflawni eu hamcanion dysgu.

Sicrhau bod cyfarpar yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd gywir a bod adnoddau'n cael eu defnyddio yn ddoeth er mwyn lleihau gwastraff a chamddefnydd gymaint a phosibl.

Cydymffurfio a gofynion Hyfforddiant gorfodol y Bwrdd Iechyd a'r Uwch Adran

Rhoi gwybod i'r Nyrs a Gofal am y Ward/Ysbyty am unrhyw ddigwyddiadau anffodus/cwynion, gan lenwi ffurflenni digwyddiad perthnasol yn gywir.

Mynd ati i gymryd rhan mewn gwaith Hybu Iechyd.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch a'n tim a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol a’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

profiad

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

sgilliau

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Dawn Patterson
Teitl y swydd
Ward Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 850017
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg