Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Amethyst SARC
Gradd
Gradd 6
Contract
Cyfnod Penodol: 6 mis (tan 30 Rhagfyr 2025 i cwrdd gofynion y gwasanaeth.)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-ACS304-0525
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Amethyst SARC
Tref
Conwy
Cyflog
£37,898 - £45,637 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
05/06/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Cynghorydd Trais Rhywiol Plant a Phobl Ifanc (CYPSVA)

Gradd 6

Trosolwg o'r swydd

Mae’r swydd hon am Gyfnod penodol/Secondiad am 6 mis i cwrdd gofynion y gwasanaeth.

Partneriaeth rhwng Heddlu Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Asiantaethau Trydydd Sector yw Canolfan Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol Amethyst. Mae'r ganolfan yn darparu cefnogaeth i ferched, dynion a phlant yng Ngogledd Cymru sydd wedi cael eu treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol. Nod y Ganolfan yw darparu dull cynhwysfawr o ddelio â thrais ac ymosodiadau rhywiol.

Mae cyfle wedi codi ar gyfer Cynghorydd Annibynnol Trais Rhywiol, sy’n gytundeb tymor penodol hyd a 30th Rhagfyr 2025.  Gan weithio fel rhan o dîm bychan, mae'r rôl yn golygu darparu cefnogaeth arbenigol, ymarferol ac emosiynol i oedolion sydd wedi cael eu treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol, hyd yn oed os ydynt wedi penderfynu gwneud adroddiad ffurfiol i'r heddlu neu beidio.

Mae'r swydd hon yn gofyn am sgiliau cyfathrebu ardderchog, agwedd hyblyg, gallu gweithio ar eich liwt eich hun a gydag ystod eang o asiantaethau partner, a dealltwriaeth o effaith ymosodiad rhywiol. Mae ymrwymiad gwirioneddol i weithio gyda'r grŵp cleient hwn ac angerdd am y maes gwaith hwn yn hanfodol.

Bydd yr ymgeiswyr sy'n llwyddiannus drwy'r broses gyfweld yn destun gwiriadau archwilio cefndir gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol a'r Heddlu cyn cael eu penodi. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Darparu gwasanaeth eirioli o fewn SARC Amethyst, i gleientiaid sydd wedi dioddef ymosodiad rhywiol neu drais rhywiol yng Ngogledd Cymru. Bydd deiliad y swydd yn rhoi cefnogaeth hollgynhwysol i’r cleientiaid drwy’r System Gyfiawnder Troseddol. 

Bydd deiliad y swydd yn gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron ac Asiantaethau Gwirfoddol i sicrhau bod cleientiaid yn cael eu cefnogi drwy’r gwasanaethau iechyd a seicolegol yn ôl yr angen, prosesau cyfiawnder troseddol a’r prosesau cefnogi dilynol.  

Bydd deiliad y swydd yn blaenoriaethu, asesu, cynllunio, gwerthuso ac yn darparu pob rhan berthnasol o’r gofal hyd at y lefel y cytunwyd ac y disgwylid.  Byddant yn gweithio’n agos gyda’r tîm amlddisgyblaeth ac yn cyfrannu tuag at y broses reoli glinigol.  

Bydd yn hanfodol i ddeilydd y swydd allu teithio ledled Gogledd Cymru.

Bydd yn ofynnol i'r ymgeiswyr sy'n llwyddiannus yn y broses gyfweld gael gwiriadau gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol a'r Heddlu cyn cael eu penodi. 

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais. 

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Stephanie Williams 01492 805384

 

 

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

 

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

 

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Cymwysterau
Meini prawf dymunol
  • Cymwysterau

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad
Meini prawf dymunol
  • Profiad

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth

Rhinweddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Rhinweddau Personol

arall

Meini prawf hanfodol
  • Arall

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Stephanie Williams
Teitl y swydd
Amethyst SARC Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01492 805384
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg