Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gweinyddiaeth
Gradd
Gradd 2
Contract
Cyfnod Penodol: 9 mis (tan 06/02/2027 - Cyfnod Mamolaeth)
Oriau
Rhan-amser - 10 awr yr wythnos (Mae angen clawr ddydd Llun)
Cyfeirnod y swydd
050-AC225-0626W
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cymunedol Glannau Dyfrdwy
Tref
Glannau Dyrfrdwy
Cyflog
£26,300 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
21/06/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Swyddog Clercyddol / Derbynnydd

Gradd 2

Trosolwg o'r swydd

Mae’r swydd hon am gyfnod penedol /secondiad tan 06.02.2027 oherwydd cynod mamolaeth.

Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.

 

Gwahoddir ceisiadau ar gyfer y swyddog clercyddol/derbynnydd  . Prif ddeiliad y swydd fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y cyhoedd yn bennaf, staff, cleifion a gofalwyr sydd angen cymorth. Rhan allweddol o'r swydd yw darparu cefnogaeth weinyddol i'r Ysbyty Cymuned, a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn Ysbyty Cymunedol Glannau Dyfrdwy.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon a rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus allu siarad Cymraeg i Safon Lefel 3.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn drefnus iawn, wedi ymrwymo i ofal cwsmer ac i ddarparu gwasanaeth o ansawdd da. Bydd angen gweithio ar ei liwt ei hun ond hefyd fel rhan o dîm. 

Rhaid i ddeilydd y swydd fod yn gynorthwyol ac yn ddymunol gyda brwdfrydedd i wneud ei (g)orau i gyflawni disgwyliadau ac anghenion cleifion, gan wneud eu taith glinigol mor esmwyth â phosibl.

Mae agwedd hyblyg yn hanfodol i'r swydd hon, yn ogystal â sgiliau cyfathrebu rhagorol a sgiliau cyfrifiaduron helaeth.  Mae'n bosibl bydd gofyn i ddeilydd y swydd weithio mewn gwahanol adrannau o bryd i'w gilydd i fodloni gofynion y gwasanaeth.

 

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Addysg at TGAU gradd C neu uwch neu safon gyfwerth, yn cynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg
  • Cymhwyster TG neu brosesu geiriau (e.e. RSA 2 neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
  • ECDL
  • NVQ Lefel 1 gwasanaeth cwsmer neu gyfwerth

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o ddefnyddio system gyfrifiadur (e.e. system TG clinigol Meddyg Teulu)
  • Profiad o weithio mewn derbynfa/swyddfa
  • Profiad o weithio gyda'r cyhoedd

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Gallu mewnbynnu data ar system gyfrifiadur gyda chywirdeb
  • Gallu gweithio mewn amgylchedd prysur a delio â nifer o dasgau gwahanol ar yr un pryd.
  • Ability to communicate tactfully with patients
  • Gallu cyfathrebu'n ddoeth â chleifion
  • Gallu gwneud sawl peth ar yr un pryd mewn swyddfa brysur

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Dealltwriaeth o gyfrinachedd sy'n gysylltiedig â’r swydd
  • Gwybodaeth am ystod o weithdrefnau ac arferion gwaith

Rhinweddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Brwdfrydig
  • Gallu gweithio fel rhan o dîm integredig aml-sgiliau heb oruchwyliaeth uniongyrchol
  • Gallu penderfynu ar flaenoriaethau gwaith
  • Agwedd hyblyg tuag at waith
  • Cymraeg - Level 3

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Diana James
Teitl y swydd
Area Administrator
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 859067
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Main Reception - 03000 850018

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg