Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gofal yr Henoed
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR349-0525
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cymuned Glannau Dyfrdwy
- Tref
- Glannau Dyfrdwy
- Cyflog
- £30,420 - £37,030 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 02/06/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Nyrs Gofresteddig - Ward Gladstone
Gradd 5
Trosolwg o'r swydd
Sylwch ar gyfer myfyrwyr Cymru, rhaid i chi wneud cais trwy Symleiddio lle gellir dod o hyd i’r holl swyddi sydd ar gael.
Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal nyrsio’n seiliedig ar dystiolaeth, gan weithio ar y cyd gydag eraill i gwrdd ag anghenion cleifion a’u teuluoedd.
Cynorthwyo i reoli a threfnu eu lleoliad clinigol a chymryd rhan mewn addysg, datblygiad a goruchwyliaeth aelodau eraill staff.
Cymryd cyfrifoldeb am ward neu leoliad nyrsio cywerth, yn absenoldeb yr uwch nyrs neu unigolyn sydd â chyfrifoldeb parhaus (24 awr).
Yn gyfrifol am reoli grŵp o staff yn absenoldeb yr uwch nyrs.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae cyfle wedi codi i nyrs cofrestredig brwd ymuno â wardiau Gladstone yn Ysbyty Cymunedol Glannau Dyfrdwy.
Mae Ysbyty Cymunedol Glannau Dyfrdwy yn lle gwych i weithio a theimlo'n rhan o dîm ysbyty cymunedol agos. Mae'r tîm yn mwynhau perthynas waith agos a chefnogaeth gan Gynghrair y Cyfeillion yr ysbyty. Mae ystod o wasanaethau cleifion allanol hefyd ar safle'r ysbyty.
Mae wardiau Gladstone yn wardiau 20 gwely - cynyddu i 28. Cefnogir y ddwy ward gan dîm meddygol Gofal yr Henoed gyda chefnogaeth Uwch Ymarferydd Nyrsio ac mae ganddynt gefnogaeth ychwanegol gan therapïau i ddatblygu cynlluniau adferiad y cytunwyd arnynt gyda chleifion, gyda'r ffocws ar ryddhau i wella ac asesu.
Mae cleifion sy'n cael eu derbyn i wardiau Branwen a Gladstone yn cael eu trosglwyddo naill ai o wardiau ysbyty llym pan fyddant yn ffit yn feddygol neu o'r gymuned i atal yr angen am gael eu derbyn i'r ysbyty llym. Efallai y bydd angen cynlluniau rhyddhau cymhleth ar gleifion, gan gynnwys cwblhau asesiadau tymor hir. Gan weithio fel rhan o'r tîm nyrsio, cewch gyfle i ddatblygu sgiliau rhagorol mewn asesu cleifion fel rhan o'u hadferiad yn ogystal ag ystod o ymyriadau nyrsio. Byddwch hefyd yn gweithio'n agos gyda thimau cymunedol fel rhan o'r broses cynllunio rhyddhau.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
- Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
- Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
- Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Liam Rowe
- Teitl y swydd
- Ward Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 859030
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector