Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Adran Cleifion Allanol
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Cyfnod Penodol: 18 mis (Dyddiad Gorffen: 19.02.2028)
- Oriau
- Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS748-0926
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cymunedol Glannau Dyfrdwy
- Tref
- Glannau Dyfrdwy
- Cyflog
- £26,813 - £27,890 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 14/09/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Uwch Gynorthwyydd Gofal Iechyd
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae’r swydd hon am gyfnod penodol/secondiad am 18 mis oherwydd cwrdd gofynion y gwasanaeth
Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Rydym yn chwilio am unigolyn cydwybodol, llawn cymhelliant i weithio mewn Adran Gleifion Allanol prysur. Bydd y swydd yn caniatáu i’r unigolyn llwyddiannus ddatblygu eu gwybodaeth bresennol mewn lleoliad clinigol amrywiol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi’r nyrs hyfforddedig mewn sawl arbenigeddau gan sicrhau darpariaeth o ofal diogel a thosturiol o’r ansawdd uchaf. Mae’r Adran Gleifion Allanol yn esblygu'n gyson drwy ddatblygiadau a chyfleoedd ychwanegol.
Mae'r gallu i gyfathrebu'n dda a chydweithio’n effeithiol mewn tîm yn hanfodol. Mae bod â diddordeb mewn hybu iechyd yn ddymunol.
Y parodrwydd i ddatblygu ac ymarfer sgiliau newydd.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Prif ddyletswyddau'r swydd
- Yn gweithio fel rhan o'r tîm amlddisgyblaethol sy'n darparu gofal i gleifion yn y lleoliad cleifion allanol dan oruchwyliaeth a ddarperir gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig.
- Ymgymryd â gweithgareddau gofal personol a dyletswyddau gofal clinigol gydag ychydig iawn o gymorth a goruchwyliaeth fel y'u dirprwyir gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig yn unol â Chanllawiau Dirprwyo Cymru Gyfan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).
- Sicrhau bod y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gyflwr a chynnydd y claf/cleient yn rheolaidd.
- Sicrhau bod yr amgylchedd gwaith yn ddiogel a hylan a bod polisïau a phrosesau atal a rheoli heintiau yn cael eu dilyn.
- Cyfrannu at addysgu a goruchwylio myfyrwyr a staff iau.
- Cyflawni’r rôl yn unol â Gwerthoedd y Bwrdd Iechyd/Ymddiriedolaeth a Chod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
NVQ 3
Meini prawf hanfodol
- NVQ 3 neu cyfatebol
Meini prawf dymunol
- Profiad
Experience
Meini prawf hanfodol
- Profiad Gofal Iechyd
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn adran cleifion allanol
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sister Kate Chaney
- Teitl y swydd
- Senior Sister
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000859014
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Outpatients Manager Gida Obbard - [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector







.png)
