Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweinyddiaeth
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Cyfnod Penodol: 7 mis (I gael ei adolygu i gario ymlaen)
- Oriau
- Rhan-amser - 7.5 awr yr wythnos (hyblig)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC555-0825W
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Deiniolen Flying Start Offices, 1 Hafod Oleu, Deiniolen
- Tref
- Deiniolen
- Cyflog
- £24,833 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 12/08/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 21/08/2025
Teitl cyflogwr

Swyddog Cefnogaeth Weinyddol
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cytunwyd ar y raddfa gyflog uchod fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2025/2026 a chaiff ei weithredu ym mis Awst 2025 gydag ôl-ddyddio i 1af Ebrill 2025 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Safle newydd tim ymwelwyr iechyd Dechrau'n Deg Gwynedd yn Deiniolen.
Y dyletswyddau fydd cefnogi tim o ymwelwyr iechyd. Mae angen safon dda o addysg ynghyd â sgiliau bysellfwrdd rhagorol a llythrennedd cyfrifiadurol.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio fel rhan o dîm, gyda'r gallu i beidio â chynhyrfu a gweithio'n dda ar adegau o bwysau.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deilydd y swydd yn darparu gwasanaeth gweinyddol a theipio effeithlon o ansawdd uchel i gefnogi'r tîm ymwelwyr iechyd. Cefnogi'r tîm i reoli nodiadau achos meddygol cleifion a system ffeilio effeithiol a chefnogi monitro y cynllun.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i'r rhai sydd yn gallu siarad Cymraeg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
CYMWYSTERAU
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Teipio/Prosesu Geiriau - neu brofiad cyfatebol
- TGAU Saesneg
Meini prawf dymunol
- Cymwysterau prosesu geiriau/teipio – RSA II neu gyfatebol
- CGC Lefel 2
- ECDL
- Cymhwyster clywdeipio
PROFIAD
Meini prawf hanfodol
- Profiad ysgrifenyddol/ gweinyddol cyffredino
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio yn y GIG (mewn ysbytai)
- Profiad o weithio mewn swyddfa
SGILIAU
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i ddefnyddio cyfrifiadur, Sgiliau cyfathrebu, effeithiol (ysgrifenedig a llafar,) Sgiliau TG/bysellfwrdd
Meini prawf dymunol
- Yn wybyddus â phecynnau Microsoft Office, Trawsysgrifio gwaith llafar
GWYBODAETH
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth am Ddeddf Gwarchod Data a Chyfrinachedd Cleifion
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am systemau gweinyddu cleifion, Gwybodaeth o dermau meddygol
RHINWEDDAU PERSONOL (Dangosol)
Meini prawf hanfodol
- Gallu gweithio mewn tîm. Sgiliau trefnu/ rheoli amser Gweithio ar eich liwt eich hun Trwsiadus Trefnus, prydlon, dibynadwy, brwdfrydig
Meini prawf dymunol
- Allblyg, cyfeillgar, hyblyg
GOFYNION PRIODOL ERAILL
Meini prawf dymunol
- Y gallu i siarad Cymraeg
- Gwerthfawrogiad o gyfrifoldebau'r amgylchedd gofal iechyd.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Yvonne Rowlands
- Teitl y swydd
- Team Manager, Gwynedd Flying Start
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 851645
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector