Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- ICSM/Ysbytai Cymunedol
- Gradd
- Band 6
- Contract
- 12 mis (Cyfnod penodol)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR588-0926
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Dinbych
- Tref
- Dinbych
- Cyflog
- £40,559 - £48,841 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 12/10/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Nyrs Datblygu Ymarfer
Band 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn awyddus i benodi Nyrs Datblygu Ymarfer brwdfrydig, llawn cymhelliant ac ysbrydoledig i ymuno â’n tîm ysbyty cymunedol ar gontract cyfnod penodol o 12 mis. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar draws yr holl safleoedd cymunedol ac yn teithio rhwng lleoliadau yn unol ag anghenion y gwasanaeth.
Dyma gyfle cyffrous i unigolyn sy'n teimlo’n angerddol am addysg, addysgu, datblygu staff a gwella ansawdd gofal cleifion.
Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi ein timau nyrsio a’n gweithwyr gofal iechyd i ddatblygu gwybodaeth glinigol, sgiliau a hyder o fewn ein timau. Dylai'r unigolyn fod yn frwdfrydig dros greu diwylliant cadarnhaol o ddysgu ac annog datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer ein timau.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn eiddgar ynghylch addysgu a datblygu eraill, bydd yn gallu adnabod anghenion dysgu a darparu addysg ystyrlon a pherthnasol.
Rydym yn chwilio am unigolyn agos atoch a threfnus, ac sy’n awyddus i helpu staff i ddatblygu a chyrraedd eu potensial.
Bydd angen i’r unigolyn sy’n mynd i’r afael â’r swydd hon deithio rhwng safleoedd cymunedol, felly mae hyblygrwydd a'r gallu i weithio ar draws safleoedd amrywiol yn hanfodol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rydym yn awyddus i benodi Nyrs Datblygu Ymarfer brwdfrydig, llawn cymhelliant ac ysbrydoledig i ymuno â’n tîm ysbyty cymunedol ar gontract cyfnod penodol o 12 mis. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar draws yr holl safleoedd cymunedol ac yn teithio rhwng lleoliadau yn unol ag anghenion y gwasanaeth.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Am fanylion a gwybodaeth bellach, cyfeiriwch at ddisgrifiad y swydd a manyleb y person sydd ynghlwm wrth y swydd wag hon.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Nyrs gofrestredig
- Cymhwyser addysgu/asesu hyd lefel diploman od-radd neu gyfwerth
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Dangos brwdfrydedd tuag at addysgu a rhannu gwybodaeth
- Gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn am faterion cyfredol yn ymwneud a nyrsio ac addysg
- Profiad clinigol eang
Meini prawf dymunol
- Yn gyslltiedig a datblygu gwasanaethau a materior ansawdd
Sgilliau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu a rhynbersonol ardderchog
- Yn gallu meithrin diwylliant ansawdd mewn addysg a hyfforddiant
Peronsal Attributes
Meini prawf hanfodol
- Dangos tystiolaeth o'ch datblygaid proffesiynol parhaus eich hun
- Yn gallu cymell eraill ac arwain datblygiadau yn y maes clinigol
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Bethan Rogers
- Teitl y swydd
- Matron
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 850025
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector







.png)
