Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cynorthwydd Arlwyo
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 15 awr yr wythnos (2 shifft yr wythnos, gall gynnwys penwythnosau)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-EA140-0625
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Dolgellau
- Tref
- Dolgellau
- Cyflog
- £23,970 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 26/06/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Cynorthwydd Arlwyo
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Pwrpas cyffredinol y swydd yw gweithio fel rhan o dîm ac ymrwymo i gyfrannu at ddarparu gwasanaeth arlwyo o’r radd flaenaf i gleifion a staff yn y Bwrdd Iechyd. Rhannu arfer gorau sydd wedi'i ddysgu gydag eraill i ddatblygu gwasanaethau arlwyo wrth i newidiadau gael eu gwneud dros amser er mwyn caniatáu i'r adran ac unigolion ymateb i angen sy'n newid.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Glanhau'r holl offer, arwynebau yn ôl yr angen.
Gwagio sbwriel yn y modd penodedig.
Storio nwyddau yn y mannau priodol fel bydd angen.
Defnyddio’r offer sgwrio lloriau fel rhan o drefn glanhau.
Paratoi llysiau.
Llwytho troliau bwyd.
Dosbarthu eitemau i wardiau fel bydd angen.
Cadw cofnodion syml fel bydd angen.
Cadw cofnodion syml a chofnodion mwy cymhleth fel bydd angen.
Cymryd a chofnodi tymereddau bwyd fel bydd angen.
Adrodd offer diffygiol.
Bod yn gyfrifol am gloi’r adran arlwyo fel bydd angen
Dadlwytho troliau prydau a gwahanu llestri.
Cael gwared a gwastraff bwyd oddi ar blatiau.
Stacio a llwytho llestri budr.
Dadlwytho llestri glân a’u storio.
Gweithredu’r peiriant golchi llestri.
Glanhau’r peiriant golchi llestri ar ôl ei ddefnyddio.
Glanhau’r offer a’r arwynebau o fewn y man golchi llestri neu fannau sy’n gysylltiedig â’r swyddogaeth golchi llestri.
Newid cemegau a ddefnyddid yn y peiriannau golchi llestri.
Gofnodi’r tymereddau golchi llestri fel bydd angen.
Defnyddio’r man gwaredu gwastraff.
Golchi llestri a sosbenni yn y sinc.
Defnyddio'r peiriant golchi llestri neu sosbenni i lanhau am y tro olaf yn unig.
Glanhau’r offer a’r arwynebau yn y rhan arbennig hon o'r gegin.
Storio llestri a sosbenni glân yn y man cywir.
Gosod a glanhau’r prif fan gweini.
Defnyddio’r gofrestr arian yn yr ystafell fwyta am gyfnodau cyfyngedig.
Defnyddio’r gofrestr arian a dilyn bob gweithdrefn berthnasol yn yr ystafell fwyta.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
English
Meini prawf hanfodol
- Profiad mewn Arlwyo
- Tystysgrif Diogelwch Bwyd Lefel 2
Meini prawf dymunol
- Tystysgrif Diogelwch Bwyd Lefel
- Y gallu siarad cymraeg
English
Meini prawf hanfodol
- Cyfathredbu'n glir gyda Tim Arlwyo
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Karen Roberts
- Teitl y swydd
- Assistant Catering Manager (Interim)
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 851185
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Ar gael Dydd Llun i Ddydd Gwener 08:00-16:00
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau cymorth neu bob sector