Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- CAMHS
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol: 9yb - 5yp Dydd Llun - Dydd Gwener
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 sesiwn yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AHP243-1125W
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Swyddfa Penrallt
- Tref
- Gwynedd
- Cyflog
- £39,263 - £47,280 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 27/11/2025 23:59
Teitl cyflogwr
Ymarferydd CAMHS
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â’n Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar, Atal a Hyrwyddo CAMHS (EIPPS) prysur a deinamig yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion ymroddedig a thosturiol sydd â diddordeb mewn dod yn rhan o’n tîm. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gymhwyster proffesiynol sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd a ddiffinnir gan Fesur Iechyd Meddwl 2010 (e.e. Nyrs Iechyd Meddwl Gofrestredig (RMN), Gweithiwr Cymdeithasol, Therapydd Galwedigaethol ac ati).
Rydym yn dymuno recriwtio Ymarferydd EIPPS Band 6 llawn amser i ymuno â’r tîm Ymyrraeth Gynnar, Atal a Hyrwyddo CAMHS presennol. Mae’r rôl wedi’i lleoli ym Mhenrallt, Caernarfon, gyda disgwyliad o ddarparu gwasanaethau ar draws rhanbarth BIPBC Ardal y Gorllewin, gan ganolbwyntio’n bennaf ar Ynys Môn.
Mae’r rôl yn cynnwys cefnogi gweithwyr proffesiynol rheng flaen yn y gymuned sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n wynebu pryderon sy’n ymwneud ag iechyd meddwl a lles. Mae'n swydd amrywiol a boddhaus, yn bennaf o fewn tîm EIPPS CAMHS, sy'n darparu ymgynghoriadau arbenigol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i weithwyr proffesiynol a'r system ehangach. Mae’r tîm hefyd yn cynnig sesiynau hyfforddi, digwyddiadau, gwaith grŵp a chyngor cynnar i ysgolion a’r gymuned ehangach. Y nod yw meithrin sgiliau a chapasiti eraill i ymateb yn effeithiol i’r anghenion emosiynol a meddyliol sy’n dod i’r amlwg ymhlith plant a phobl ifanc.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae tim MGY CAMHS yn gweithredu ar fodel sy’n cynnig : ymgynghoriadau, hyfforddiant, gwaith grwp a chyngor cynnar er mwyn atgyfnerthu gallu a medusrwydd eraill i ymateb yn gadarnhaol i anghenion iechyd emosiynol a iechyd meddwl plant a phobol ifanc. Dylanwadir elfennau yma o’r rol gan egwyddorion Fframwaith NYTH (iechyd meddwl a lles): cyflwyniad | LLYW.CYMRU. Yn ogystal mae’r gallu i sefydlu partneriaethau ystyrlon gyda dysgwyr, athrawon, rhieni/gofalwyr, ymarferyddion addysg ategol a’r rhwydwaith amlasinathaethol; yn hanfodol a diffinir hyn drwy Fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol | LLYW.CYMRU.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg a teithio ar draws y ddwy sir yn hanfodol ar gyfer y gwasanaeth.
Am wybodaeth bellach ar prif ddyletwydd y swydd cysylltwch â Dawn Roberts (Arweinydd Tîm EIPP) ar 03000 852450 neu anfonwch e-bost at Dawn Roberts on 03000 0852450 at [email protected]
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Hanfodol a Dymunol
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster a Chofrestriad proffesiynol perthnasol fel a ganlyn: Nyrs Iechyd Meddwl Gofrestredig NMC NEU Nyrs Anabledd Dysgu Gofrestredig NMC NEU Weithiwr Cymdeithasol Cofrestredig Gofal Cymdeithasol (Cymru neu Loegr). Trosglwyddo cofrestriad o Loegr i Gymru i ddigwydd o fewn 3 mis i'r penodiad NEU Therapydd Galwedigaethol cofrestredig HCPC NEU Seicolegydd Ymarferydd Cofrestredig HCPC
- Diploma ôl-raddedig neu wybodaeth berthnasol a gafwyd trwy hyfforddiant, DPP sylweddol a phrofiad ym maes arbenigol Iechyd Meddwl.
- Gwybodaeth ragorol am broblemau iechyd meddwl sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc
- Gwybodaeth ragorol am ddeinameg teuluoedd a materion sy'n ymwneud â gweithio gyda theuluoedd.
- Dirnad dulliau therapiwtig perthnasol.
- Gwybodaeth am bolisïau cenedlaethol ac yn gallu eu dirnad.
- Profiad ôl-gofrestru perthnasol o weithio o fewn amgylchedd iechyd neu ofal cymdeithasol neu leoliad iechyd meddwl
- Fel rôl arbenigol ym maes iechyd meddwl, profiad ôl-raddedig mewn lleoliad iechyd meddwl.
- Gallu ymgymryd ag asesiadau iechyd meddwl yn annibynnol trwy gwestiynu'n briodol, arsylwi a chofnodi'n gywir.
- Gallu cyflawni ymyriadau iechyd meddwl seiliedig ar dystiolaeth yn seiliedig ar fformiwleiddio asesiadau.
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster ffurfiol ychwanegol ym maes dull therapiwtig cydnabyddedig.
- Ymyriadau penodol wedi’u targedu sy’n seiliedig ar dystiolaeth e.e. EMDR.
- Cymhwyster ffurfiol mewn maes perthnasol e.e. Datblygiad Plant, Iechyd Meddwl ac ati.
- Gallu dirnad strwythurau gwasanaethau a gwaith rhyngasiantaethol.
- Gwybodaeth am anhwylderau/cyflyrau penodol sy'n berthnasol i waith CAMHS.
- Profiad o weithio mewn rôl glinigol benodol yn ymwneud â CAMHS.
- Gallu gweithredu dulliau penodol sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
- Siaradwr Cymraeg / Mae sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol (lefelau 1 i 5) o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg.
Hanfodol
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster a Chofrestriad proffesiynol perthnasol fel a ganlyn: Nyrs Iechyd Meddwl Gofrestredig NMC NEU Nyrs Anabledd Dysgu Gofrestredig NMC NEU Weithiwr Cymdeithasol Cofrestredig Gofal Cymdeithasol (Cymru neu Loegr). Trosglwyddo cofrestriad o Loegr i Gymru i ddigwydd o fewn 3 mis i'r penodiad NEU Therapydd Galwedigaethol cofrestredig HCPC NEU Seicolegydd Ymarferydd Cofrestredig HCPC
Meini prawf dymunol
- Yn gymwys i weithredu o dan Fesur Iechyd Meddwl Cymru 2010.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dawn Roberts
- Teitl y swydd
- EIPPS Team Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 0852450
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector







.png)
