Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Nyrsio cymunedol
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol: Y gallu i deithio rhwng canolfannau nyrsio ardal ar draws Gwynedd a Mon
- Oriau
- Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR308-0425
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Alltwen
- Tref
- Gwynedd
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 y flwyddan pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 11/05/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Eiriolwr Nyrsio Proffesiynol
Gradd 7
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae'r swydd Eiriolwr Nyrsio Proffesiynol (PNA) yn cynnig cyfle cyffrous i nyrs sy'n frwd dros hwyluso goruchwyliaeth, hyfforddiant a chefnogi iechyd a lles eu cydweithwyr yn y maes nyrsio. Bwriedir i bob nyrs gymunedol/nyrs ardal sy’n gwasanaethu gwasanaethau nyrsio cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn gael mynediad at gymorth gan PNA a gyflawnir drwy ddefnyddio dull gwella ansawdd parhaus.
Bydd deilydd y swydd yn cydweithio â metronau nyrsio ardal ac arweinwyr timau i arwain cyfarwyddebau strategol y gwasanaethau mewn perthynas â rôl yr Eiriolwr Nyrsio Proffesiynol (PNA). Mae hyn yn cynnwys arwain a chydlynu gweithgareddau rôl yr PNA trwy hwyluso goruchwyliaeth glinigol adferol ar gyfer nyrsys cymunedol. Bydd deilydd y swydd hefyd yn gyfrifol am ddarparu hyfforddiant goruchwylio clinigol y sefydliad i staff.
Byddwch yn ddelfryd ymddwyn ac yn llysgennad i hybu lles a grymuso staff nyrsio a’u cynorthwyo i sicrhau safonau uchel o ran y gofal a roddir i gleifion a blaengareddau gwella ansawdd yn y gweithle, gan ysbrydoli diwylliant sy'n rhoi pwyslais ar wella diogelwch cleifion a phrofi canlyniadau gwell er lles ein staff a'n gwasanaeth.
Byddwch yn arweinydd amlwg, yn cynnig sicrwydd i fetronau cymunedol a phenaethiaid nyrsio bod cymorth, goruchwyliaeth a goruchwyliaeth glinigol adferol ar gyfer staff yn cael eu darparu yn yr holl wasanaethau nyrsio cymunedol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddwch yn ymgymryd â rôl PNA trwy hwyluso Goruchwyliaeth Glinigol Adferol gyda nyrsys yn y sefydliad, i gynorthwyo nyrsys i nodi eu camau gweithredu personol eu hunain at ddibenion gwella ansawdd a datblygu gyrfa a defnyddio eu dirnadaeth o gadernid personol a phroffesiynol i gynorthwyo eraill i ddatblygu'r rhinwedd hwn.
Bydd deilydd y swydd yn datblygu ac yn meithrin perthnasoedd gwaith effeithiol ag ystod eang o dimau, gwasanaethau ac asiantaethau a bydd yn sicrhau bod gwerthoedd, safbwyntiau, polisïau a gweithdrefnau’r Bwrdd Iechyd yn cael eu hyrwyddo a'u cyfleu bob amser.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs lefel gyntaf gofrestredig
- Tystiolaeth astudiaeth ar lefel ol-raddedig
- Tystiolaeth o Ddiploma Ôl-raddedig mewn nyrsio / pwnc iechyd
- Gradd nyrsio/iechyd perthnasol cyfwerth
- Cymhwyster Eiriolwr Nyrsio Proffesiynol neu'n barod i weithio tuag ato
- Tystiolaeth o gwblhau a darparu cymorth a thiwtoriaeth myfyrwyr, rhaid bod wedi cwblhau'r asesydd ymarfer a'r hyfforddiant Goruchwyliwr
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus ac ail-ddilysu Gwybodaeth a dealltwriaeth o ganllawiau ac egwyddorion sy'n ymwneud â rôl Eiriolwr Nyrsio Proffesiynol
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster gradd meistr neu gymhwyster neu brofiad cyfatebol
- Cymhwyster Eiriolwr Nyrsio Proffesiynol
- Profiad blaenorol o weithio mewn cymuned iechyd integredig
Sgiliau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i gefnogi, goruchwylio, asesu a gweithredu fel model rôl i nyrsys eraill
- Parodrwydd i ymgysylltu â chyfoedion, gweithwyr proffesiynol eraill a chydweithwyr a dysgu ganddynt, gyda'r awydd i ddarparu neu gefnogi'r ymyriadau mwyaf priodol
- Y gallu i feithrin cydberthnasau gwaith cadarnhaol a phriodol â chydweithwyr a chynnal lefel uchel o gyfrinachedd ac ymddiriedaeth
- Y gallu i drefnu a blaenoriaethu eich llwyth gwaith dirprwyedig eich hun
- Y gallu i ddelio â llwyth gwaith anrhagweladwy Ymdeimlad cryf o ymrwymiad i fod yn agored ac yn onest
Meini prawf dymunol
- Y gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarfer myfyriol a goruchwyliaeth glinigol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o oruchwylio staff
- Tystiolaeth o fentora / tiwtora nyrsys / nyrsys dan hyfforddiant
- Dealltwriaeth o sut i werthuso eich cryfderau a'ch anghenion datblygu eich hun, gan geisio cyngor lle y bo'n briodol
- Profiad o ddarparu a chael gwybodaeth gymhleth a sensitive
- Y gallu i hyrwyddo, addysgu a bod yn angerddol am lesiant cydweithwyr
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o reoli llinell
- Gweithio gyda mentrau datblygu cymunedol
- Profiad o arwain, cymell a datblygu nyrsys eraill
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Karen Bampfield
- Teitl y swydd
- Deputy Head of Community Nursing
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000853272
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Matron Mannon Griffiths
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector