Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweinyddiaeth
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos (Llun, Mercher, Gwener)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC321-0525
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Llandudno
- Tref
- Llandudno
- Cyflog
- £23,970 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 21/05/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Cynorthwyydd Gweinyddol CAMHS
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn awyddus i benodi unigolyn llawn cymhelliant ac sy'n frwdfrydig i ymuno â Thîm Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc Ardal y Canol fel Cynorthwyydd Gweinyddol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus roi cymorth gweinyddol i dîm o staff clinigol a gweithredol, gan ymateb i weithio o dan bwysau mewn amgylchedd gwaith prysur.
Mae'n hanfodol bod gan ddeilydd y swydd ymagwedd hyblyg tuag at waith i gynorthwyo aelodau’r tîm ac i ddiwallu anghenion y gwasanaeth. Er nad yw profiad blaenorol mewn ysbyty yn hanfodol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu dangos ei fod yn gallu darparu gwasanaeth ardderchog ar gyfer cwsmeriaid, a bydd ganddo sgiliau TG. Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ac i ddelio â sefyllfaoedd sensitif yn hanfodol, fel y mae'r gallu i weithio'n unol â therfynau amser tynn gan sicrhau bod modd darparu gwasanaethau'n effeithiol. Mae gwybodaeth gyfredol am WPAS yn ddymunol ond heb fod yn hanfodol gan y caiff hyfforddiant ei roi.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â;
Paula McLarney - Arweinydd y Tîm Gweinyddol, CAMHS Sir Ddinbych.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae dull ffôn da a sgiliau cyfathrebu yn hanfodol. Mae gwybodaeth am System Gweinyddu Cleifion yr ysbyty yn ddymunol, er y rhoddir hyfforddiant. Byddai’r gallu i siarad Cymraeg yn fuddiol ond nid yw’n hanfodol. Bydd deiliad y swydd yn meddu ar RSA Lefel 2 neu gyfwerth.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd ddangos agwedd broffesiynol a sensitif bob amser.
Mae swydd Cynorthwyydd Gweinyddol yn gofyn am gadw cyfrinachedd llym a bydd disgwyl iddi ymdrin â chleifion, perthnasau ac ymwelwyr â chwrteisi a disgresiwn bob amser.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Darparu swyddogaeth weinyddol gywir a phrydlon i hwyluso darparu gwasanaeth trefnu apwyntiadau effeithlon ac effeithiol. Darparu cymorth derbynfa, clerigol a theipio cynhwysfawr i’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed, gan ddangos dull cwrtais, proffesiynol a sensitif bob amser. Bydd deiliad y swydd yn gallu dangos agwedd hyblyg at waith ac yn gallu blaenoriaethu tasgau o fewn cwmpas ei gyfrifoldeb ei hun. Bod yn rhan o swyddogaeth weinyddol gydlynol ac integredig y gwasanaeth.
Oherwydd natur y dyletswyddau, bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gadw cyfrinachedd llym a bydd disgwyl iddo ymdrin â chleifion, gofalwyr, perthnasau, staff meddygol a defnyddwyr gwasanaeth eraill, gan ddefnyddio’r ffôn ac yn ysgrifenedig, gyda chwrteisi a disgresiwn bob amser.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Addysg gyffredinol dda
- Lefel 2 TG/Word/Cymhwyster Prosesu Testun neu sgiliau/profiad amlwg
Meini prawf dymunol
- NVQ Lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol mewn rôl gleirgol, gweinyddol / mewn derbynfa.
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio yn y GIG (amgylchedd ysbyty)
Sgiliau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Gweithredu'n effeithlon dan bwysau a bodloni dyddiadau cau
- Y gallu i flaenoriaethu eich llwyth gwaith.
Meini prawf dymunol
- Y gallu i siarad Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Paula McLarney
- Teitl y swydd
- Admin Team Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 856023
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector