Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweinyddiaeth
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 11 awr yr wythnos (Oriau gwaith i'w cytuno)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC700-1025
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Uned EMI Bodnant
- Tref
- Llandudno
- Cyflog
- £25,313 - £26,999 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 16/10/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Cynorthwyydd Gweinyddol/Clercol i'r Adran PICSS
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn darparu cymorth ysgrifenyddol / clercol cynhwysfawr a llawn i'r Tîm PICSS.
Bydd deiliad y swydd yn darparu gwasanaeth gweinyddol ar gyfer addysg / diwrnodau astudio / rhaglenni hyfforddiant staff clinigol a disgwylir iddynt hwyluso archwiliadau drwy gasglu gwybodaeth, mewnbynnu data i gronfeydd data a chwblhau adroddiad data presenoldeb hyfforddiant ar gyflyrau penodol i'r is-adran.
Bydd deiliad y swydd yn cydweithio'n agos gyda'r rheolwr i gynorthwyo'r gwaith o gynnal y system Cofnodion Staff Electronig. Mae hyn yn cynnwys tasgau fel tynnu data o'r system Cofnodion Staff Electronig, lanlwytho gwybodaeth i'r system a chreu adroddiadau.
Bydd deiliad y swydd yn darparu cymorth gweinyddol effeithlon i'r Gwasanaethau Comisiynu Arbenigol fel y bo angen.
The ability to speak Welsh is desirable for this post; English and/or Welsh speakers are equally welcome to apply.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gweithio o fewn eu gwybodaeth a'u harbenigedd eu hunain a pholisïau BIPBC.
Cynllunio a threfnu eu baich gwaith eu hunain.
Cynnal dogfennaeth a sicrhau bod y gwaith paratoi wedi'i gwblhau ar gyfer y rhaglenni hyfforddiant i staff ledled BIPBC.
Helpu staff PICSS i ddarparu gwybodaeth gywir a chynnal cronefydd data ar raglenni hyfforddiant.
Cadw adroddiadau gwasanaeth benodol er mwyn gwella darpariaeth.
Gosod archebion ar system archebu Oracle gan sicrhau bod archebion yn cwrdd â'r terfyn amser gofynnol a sicrhau y caiff unrhyw archebion hwyr eu hôlrhain.
Hwyluso'r broses o gasglu data at ddibenion archwilio: e.e. data presenoldeb ar ddigwyddiadau hyfforddiant Darparu cymorth ar y system Cofnodion Staff Electronig i'r rheolwr tîm.
Cyfathrebu gwybodaeth yn ysgrifenedig ac ar lafar i aelodau o'r tîm amlddisgyblaethol.
Derbyn ac ymdrin â gwybodaeth sensitif dros y ffôn, ffacs neu e-bost.
Adrodd yn rheolaidd i'r swyddogion arweiniol tîm mewn perthynas â rheoli llwyth gwaith, sut y caiff ei reoli ac unrhyw broblemau sy'n codi.
Cyfathrebu gyda gweithwyr proffesiynol gofal iechyd cyhoeddus a chadw cofnod o bob gohebiaeth.
Defnyddio crebwyll wrth ymdrin â'r staff mewn perthynas ag ymholiadau cleifion.
Gweithredu fel ffynhonell gwybodaeth o fewn eu cyfyngiadau neu wybodaeth eu hunain gan gyfeirio ymholiadau i aelodau eraill o'r tîm fel y bo'n briodol.
Sicrhau y caiff nodiadau a chofnodion cleifion eu ffeilio'n briodol a'u bod ar gael yn hawdd i'r tîm eu defnyddio.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Hyd at safon TGAU ar gyfer Mathemateg a Saesneg neu brofiad cyfatebol
- Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Lefel 3 neu brofiad cyfatebol
- Sgiliau TG i fod yn gymwys i ddefnyddio Microsoft Office (Outlook, Excel, Word)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Experience of office and administration procedures
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn Oracle, ESR ac E-Rhestr
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i gyfathrebu'n glir a chywir ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Meini prawf dymunol
- Y gallu i siarad Cymraeg
- Profiad o ddeall diben ymchwilio / archwilio
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Matthew Jones
- Teitl y swydd
- Administration Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 856865
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Bethan Young
Arweinydd Nyrs Arbenigol Ymyriadau Cadarnhaol
03000 856448
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector