Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Fferyllydd
- Gradd
- Gradd 8a
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-PST171-1225
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Llandudno
- Tref
- Llandudno
- Cyflog
- £56,514 - £63,623 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 01/01/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 15/01/2026
Teitl cyflogwr
Uwch Fferyllydd
Gradd 8a
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Fferyllydd Clinigol profiadol i ymuno â'n tîm cyfeillgar a chymorthgar. Bydd y person llywddianus yn gweithio ochr yn ochr â Fferyllydd a Thechnegydd Fferyllol i gefnogi a wella’r canlyniadau i gleifion sy’n ymwneud a meddyginiaethau o fewn gofal cychwynnol ac ysbytai cymunedol.
Byddwch yn gweithio'n bennaf o fewn Sir Conwy, ardal Ganolog BCUHB. Mae'r rôl hon yn cynnwys gweithio gyda thimau adnoddau cymunedol (CRT), timau Nyrsio cymunedol a Feddygol, gan gefnogi gofal uwch, yn canolbwyntio ar dystiolaeth i ddefnyddio meddyginiaethau, rheoli ymholiadau presgripsiwn a chymryd adolygiadau meddyginiaethau cymhleth. Mae'r swydd yn agored i Fferyllwyr sy'n gweithio yn yr holl sectorau o'r proffesiwn, a gall gynnwys y cyfle i weithio ar draws sectorau fferyllol gwahanol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Hoffwn benodi Fferyllydd gymhellol gyda sgiliau fferyllfa glinigol cryf, i sicrhau’r safonau uchaf o ofal i’r cleifion yn y Bwrdd Iechyd Canolog BCUHB.
Bydd yr unigol(ion) llwyddiannus yn dangos gwybodaeth a dealltwriaeth ardderchog o wella’r diogelwch ac canlyniadau meddyginiaethau mewn lleoliad gofal sylfaenol, yn ogystal â bod yn gallu rheoli materion rhyng-gymdeithasol gyda sefydliadau maes gofal eiliedd a chymunedol. Bydd ganddynt sgiliau rhyngbersonol eithriadol a byddant yn dangos y gallu i gyfathrebu gyda amryw o gydweithwyr a phroffesiynolion gofal iechyd. Bydd y rôl yn cynnig cyfle gwych i'r ymgeisydd cywir ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Gradd meistr mewn fferylliaeth neu gyfwerth
- Wedi cofrestru â'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol.
- MSc/Diploma Ôl-radd mewn Fferylliaeth Glinigol neu brofiad a/neu gymwysterau cyfwerth
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster rhagnodi anfeddygol (neu'n gweithio tuag at ei ennill)
- Wedi'ch achredu neu'n gymwys i gael eich achredu fel diploma Fferylliaeth Glinigol/tiwtor MSc y Sefydliad Addysg Uwch
- Yn aelod o'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol a chofrestru â'r Gyfadran
- Cymhwyster hyfforddi, cymhwyster arwain a/neu reoli
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Mae'n rhaid i chi allu dangos lefel addas o brofiad yn gweithio yn y sector a reolir a/neu mewn fferylliaeth gymunedol
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn ardal glinigol berthnasol
- Profiad o arwain a rheoli
Tueddfryd a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu da yn ysgrifenedig ac ar lafar
- Datblygu protocolau a gweithdrefnau
- Gallu pennu terfynau amser a'u bodloni
- Sgiliau datrys problemau
Meini prawf dymunol
- Yn siarad Cymraeg
- Yn hyderus ac yn ddigyffro
- Tystiolaeth o oruchwylio neu o fentora staff fferylliaeth
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Brwdfrydig
- Yn gyfathrebwr da, yn llawn cymhelliant ac yn gallu gweithio fel rhan o dîm
- Ymrwymiad i hunanastudio a hunanddatblygedig
- Gallu bodloni terfynau amser
- Yn canolbwyntio ar gleifion
Meini prawf dymunol
- Yn hyderus ac yn ddigyffro
Arall
Meini prawf hanfodol
- Parodrwydd i weithio mewn ardal ddwyieithog
- Cyfrannu at ddarparu gwasanaethau fferyllfa cyffredinol dros wyliau cyhoeddus a'r penwythnos, yn ôl yr angen.
Meini prawf dymunol
- Yn gallu teithio rhwng safleoddd yn brydlon
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Ceri Davies
- Teitl y swydd
- Deputy Head of Pharmacy Primary Care and Community
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 845449
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gwyddor Iechyd neu bob sector







.png)
