Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- fferyllfa
- Gradd
- NHS AfC: Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-PST028-0326
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Llandudno
- Tref
- Llandudno
- Cyflog
- £39,263 - £47,280 per annum
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 26/03/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Uwch-dechnegydd Fferylliaeth
NHS AfC: Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae gan y Tîm Fferylliaeth a Rheoli Meddyginiaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol Canolog gyfle i recriwtio Technegydd Fferylliaeth brwdfrydig a rhagweithiol i arwain gwasanaethau ysbytai cymunedol, ynghyd â darparu goruchwyliaeth a chymorth proffesiynol i meddygfeydd y Bwrdd Iechyd. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad helaeth o weithio o fewn tîm amlddisgyblaethol a chymryd rhan mewn gwelliant gwasanaeth. Bydd yr unigolyn yn cefnogi datblygu a gweithredu ffyrdd arloesol o weithio, a fydd yn arwain at welliannau mewn gofal a phrofiad cleifion, ac yn darparu effeithlonrwydd i’r sefydliad a staff. Wrth i ni weithredu ‘ePMA’ ar draws ein safleoedd ysbytai cymunedol, mae’r rôl hon yn cynnig cyfle cyffrous i’r unigolyn arwain a chefnogi’r tîm trwy gyfnod o newid.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gofal o’r ansawdd gorau, ac mae angen unigolyn ymroddedig, profiadol a medrus arnom i helpu i gyflawni hyn.
Lleolir y rôl yn y Gymuned Iechyd Integredig Canolog, a bydd angen i’r unigolyn ddarparu cymorth ledled y Gymuned Iechyd Integredig. Un o'r blaenoriaethau allweddol fydd i gefnogi y Prif Dechnegydd Fferylliaeth i gyflawni gweledigaeth fferylliaeth ar gyfer y dyfodol ac i archwylio ffyrdd o weithredu effeithlonrwydd, datblygu staff a systemau i alluogi hyn tra yn sicrhau bod ein gweledigaeth a'n nodau yn cyd-fynd â strategaeth "Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach".
Prif ddyletswyddau'r swydd
Felly, os ydych chi'n chwilio am her newydd i ehangu eich portffolio, ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb a chael cyfle i weithio mewn sawl maes o fferylliaeth o fewn yr ardal canol, gallai hon fod yn swydd ddelfrydol i chi.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae'r un croeso i siaradwyr y Gymraeg a/neu'r Saesneg ymgeisio am y swydd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Disgwylir i'r Technegydd Fferylliaeth fynd ati'n eithaf annibynnol i gyflawni'r dyletswyddau a ddyrennir o fewn y cyfyngiadau a bennir gan yr Uwch Dechnegydd Fferylliaeth ac yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r adran a rhai'r Bwrdd Iechyd.
I fod yn gyfrifol am arweinyddiaeth brofessiynol, datblyigad a rheolaeth technegwyr fferyllfa a staff cymorth o fewn yr ardal ganolog o’r gymuned Iechyd Integredig Canolog.
Yn gyfrifol am ysgogi, cychwyn a chydlynu gweithrediad archwilio, ymchwil ymarfer a gweithgaredd datblygu a wneir gan staff cymorth fferyllol.
Arwain a chynorthwyo meysydd a phrosiectau o waith penodol, datblygu strategaethau ar gyfer gwella gwasanaethau sy’n adlewyrchu amcanion proffesiynol a chorfforaethol ar y cyd ag uwch reolwyr fferylliaeth.
Cefnogi’r Uwch Reolwr Gweithrediadau Fferylliaeth Ysbyty a’r Brif Dechnegydd Fferylliaeth i gyflawni agenda y bwrdd iechyd ac agenda genedlaethol o fewn y bwrdd iechyd.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Technegydd fferylliaeth cofrestredig â'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol.
- Diploma NVQ lefel 3 mewn Sgiliau Gwasanaethau Fferylliaeth neu gymhwyster cyfatebol
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster Technegydd Gwirio Fferylliaeth Achrededig WCPPE
- Cymhwyster Rheoli Meddyginiaethau Achrededig Cenedlaethol WCPPE
- Cymhwyster rheoli/Sefydliad Arwain a Rheoli
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-gymhwyso sylweddol ym maes gwasanaethau fferylliaeth.
- Profiad o reoli tîm/timau fferylliaeth
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn ystod eang o wasanaethau fferylliaeth.
Sgiliau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau rhyngbersonol hyderus ac awdurdodol.
- Sgiliau arwain.
- Tystiolaeth o reoli gwrthdaro.
Meini prawf dymunol
- Profiad o gyfweld ag ymgeiswyr
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth gynhwysfawr am wasanaethau fferylliaeth ar gyfer maes arbenigol hyd at lefel gradd neu lefel gyfatebol.
- Gwybodaeth am reoli arian
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am ddatblygiadau mewn gwasanaethau iechyd a fydd yn effeithio ar eich maes cyfrifoldeb
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Chwaraewr tîm.
- Yn gallu defnyddio ei fenter ei hun.
- Canolbwyntio ar y Claf/Gwasanaeth.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Ceri Davies
- Teitl y swydd
- Deputy Head of Pharmacy, PC and Community
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 845449
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Second contact-
Ceri Jones
Deputy Head of Pharmacy, Primary Care and Community (Central)
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gwyddor Iechyd neu bob sector







.png)
