Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ffisiotherapi
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Yn cynnwys gweithio penwythnosau a oriau estynedig)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS627-0726
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Llandudno
- Tref
- Llandudno
- Cyflog
- £28,819 - £31,626 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 02/08/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Ffisiotherapi Hyfforddwr Technegol - Orthopedig
Gradd 4
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio fel Hyfforddwr Technegol Ffisiotherapi Band 4 gyda'r Tîm Ffisiotherapi Orthopedig yn y canolfan orthodontig newydd yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno.
Rydym yn chwilio am rywun brwdfrydig, cadarnhaol a symbyl sydd â'r sgiliau ac allu i ddod i gysylltiad da gyda'u cleifion, ac i weithio'n annibynnol a fel rhan o dîm.
Byddai'n wych pe bai gennych dystiolaeth o brofiad mewn adsefydlu. Byddwch yn cario eich caseload eich hun o gleifion gyda goruchwyliaeth a chefnogaeth gan therapiwtiaid cymwys.
Hefyd, bydd gennych brofiad o ddefnyddio technegau trin arbennig i hwyluso symudiad cleifion ac/neu adsefydlu, gan weithredu rhaglenni ymarfer a adsefydlu. Byddwch yn gweithio gyda'r tîm wrth drin cleifion.
Mae'r swydd hon yn cynnwys gweithio ychydig o oriau estynedig tan 6pm ac hefyd bydd angen gweithio penwythnosau (tebygol o fod 2 allan o 4 penwythnos). Efallai y bydd angen ar y cymhwysydd llwyddiannus weithio yn ysbyty Glan Clwyd ar y wardiau esgyrn i gwrdd â gofynion y gwasanaeth.
Prif ddyletswyddau'r swydd
- Cynorthwyo’r ffisiotherapydd cymwys i reoli ffisiotherapi cyffredinol cleifion mewn cydweithrediad â gofalwyr, gweithwyr cymorth, staff iechyd ac asiantaethau.
- O dan gyfarwyddyd ac arweiniad y ffisiotherapydd cymwys, i reoli a bod yn gyfrifol am eu llwyth achosion clinigol eu hunain o gleientiaid, gan ddilyn rhaglenni therapiwtig er mwyn gwella eu galluoedd corfforol a lleihau anableddau.
- Gweithio'n annibynnol gan ddefnyddio eich menter eich hun, o fewn lefel cymhwysedd.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- NVQ Lefel III/BTEC
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth am gyflyrau cymhleth
- Gwybodaeth sylfaenol am anatomeg a ffisioleg
- Profiad NHS blaenorol
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol ar lefel Hyfforddwr Technegol III mewn Ffisiotherapi
- Profiad NHS blaenorol -orthopedig
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau rhesymu clinigol sylfaenol mewn ffisiotherapi
- Y gallu i weithio'n annibynnol o fewn maes clinigol
- Y gallu i fod yn hunanysgogol
- Sgiliau llafar ac ysgrifenedig da
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio gyda chynorthwywyr
- Y gallu i arwain ac ysgogi eraill o fewn y tim
- Siaradwr cymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Lynne Williams
- Teitl y swydd
- Deputy Head of Physiotherapy
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Aimee McGuirk
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector







.png)
