Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweinyddu
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Cyfnod Penodol: 6 mis (22.5 awr)
- Oriau
- Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i ddydd Gwener - awr i'w drafod yn y cyfweliad)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC694-1025
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Bryn Y Neuadd
- Tref
- Llanfairfechan
- Cyflog
- £25,313 - £26,999 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 13/10/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Weithredwr
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r Swyddogaeth Weithredwr yn darparu:
Gwasanaeth gweinyddol cywir, cyfrinachol ac yn gefnogol i gleifion, timau clinigol, gofalwyr ac asiantaethau mewnol ac allanol (ee. Awdurdod Lleol, Trydydd Sector, CAIS) er mwyn: darparu llwybr claf diogel ac effeithlon.
Bydd y person sy'n dal y swydd yn cefnogi cyflawni gwasanaeth gweinyddol cynhwysfawr o ansawdd uchel.
Mae’r swydd hon am gyfnod penodol am 6 mis otherwydd cwrdd gofynion y gwasanaeth
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cwmpas y Swyddogaeth
Cefnogi'r gwaith o gydlynu trefniadau gweinyddol i ddarparu gwasanaeth ysgrifenyddol cefnogol o ansawdd uchel i'r tîm clinigol, gweinyddol a thîm rheoli iechyd meddwl. Gweithio'n annibynnol a bod yn atebol am drefnu/blaenoriaethu eich baich gwaith eich hun i sicrhau bod amserlenni'n cael eu bodloni. Cefnogi'r gwaith o hwyluso cleifion ar hyd llwybr diffiniedig gan ddilyn trefniadau cyfeirio.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Addysg gyffredinol da - TGAU Mathemateg, Saesneg Gradd C ne uwch, neu gywerth
- NVQ Lefel 2 mewn Gwasanaeth Cwsmer neu Weinyddiaeth Busnes, neu wybodaeth a phrofiad cyfwerth, neu barodrwydd i weithio tuag ato.
- RSA/OCR lefel 2 neu brofiad cyfwerth
- Cymhwyster ECDL neu brofiad cyfatebol
- Tystiolaeth o ddatblygiad personol parhaus
Meini prawf dymunol
- NVQ lefel 3 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth o ystod o brosesau gweinyddol a chlercyddol.
- Profiad o weithio mewn amgylchedd swyddfa brysur
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio yn y GIG
Cymhwyster a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Cyfathrebu'n broffesiynol ac effeithiol â staff ar bob lefel, yn llafar ac yn ysgrifenedig
- Gallu defnyddio rhaglenni Microsoft Office
- Gallu cymryd cofnodion cryno a'u trawsgrifio.
- Profiadol mewn cynllunio, trefnu a blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun.
- Hyblyg ac yn fodlon newid yn sgil gofynion gwasanaeth newidiol.
- Sgiliau trefnu ardderchog
- Yn gallu delio â gwybodaeth sensitif
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am Sefydliadau GIG
- Terminoleg feddygol
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Aelod o dîm
- Hawdd mynd ato / Cyfeillgar
- Hyderus
- Dibynadwy
- Yn datblygu ei arfer ei hun trwy fyfyrio a dysgu
- Empathig
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Caroline Lidford
- Teitl y swydd
- Professional development Project Lead Nurse
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07977708654
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rachel Dagtekin
Rheolwraig Gweinyddu Dros Dro LD
07971996595
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector