Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Anableddau dysgu
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR454-0725
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Bryn y Neuadd/Preswylfa
- Tref
- Llanfairfechan
- Cyflog
- £30,420 - £37,030 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 20/07/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Nyrs Ymddygiad
Gradd 5
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae'r Gwasanaeth Cefnogi Ymddygiad Arbenigol yn rhan o'r Gwasanaeth Anabledd Dysgu Cymunedol ac mae'n gweithio gyda phlant ac oedolion sydd ag anableddau dysgu ac ymddygiadau sy'n herio ar draws BIPBC a chwe ardal awdurdod lleol Gogledd Cymru.
Mae'r Gwasanaeth Cefnogi Ymddygiad Arbenigol yn defnyddio'r model Dadansoddiad Ymddygiadol Cymhwysol a Chymorth Ymddygiad Cadarnhaol i gynnal asesiadau ymddygiadol er mwyn pennu'r swyddogaethau ymddygiad sylfaenol sy'n herio a datblygu cynlluniau ymyrryd effeithiol.
Mae'r Gwasanaeth yn gweithio'n agos gyda'r Timau Anabledd Dysgu Cymunedol i nodi pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth a all fod yn agored i ddadsefydlogi o ganlyniad i ymddygiadau sy'n herio a all arwain at leoliadau y tu allan i'r ardal.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn gweithio ochr yn ochr â'r Uwch-nyrs Ymddygiadol Arbenigol yn un o'r chwe ardal sirol yng Ngogledd Cymru.
Caiff deiliad y swydd oruchwyliaeth i gynnal rhestr achosion a bydd yn ymgymryd ag asesiadau ymddygiadol ac yn cynllunio ymyriadau a'u rhoi ar waith yn unol â llwybr atgyfeirio'r Gwasanaeth Cefnogi Ymddygiad Arbenigol.
Bydd y swydd hon yn cynnwys cymorth i Nyrsys sydd newydd gymhwyso gwblhau hyfforddiant mewnol angenrheidiol / rhaglen tiwtoriaeth er mwyn datblygu cymwyseddau a sgiliau craidd a'r profiad sydd ei angen i gyflawni eu rôl Band 5 / Nyrs Ymddygiadol o fewn y Gwasanaeth Cefnogi Ymddygiad Arbenigol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- 1. Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn Nyrsio (RNLD)
Meini prawf dymunol
- 1. BTEC mewn Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol ar Lefel 4 neu 5
- 2. Y gallu i siarad Cymraeg
Experience
Meini prawf hanfodol
- 1. Profiad a sgiliau sylweddol o ran gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu sy'n dangos ymddygiad sy'n herio.
Skills and attributes
Meini prawf hanfodol
- 1. Rhaid gallu dangos sefyllfaoedd lle mae sgiliau arwain a rheoli effeithiol wedi cael eu defnyddio i ymateb yn effeithiol i sefyllfaoedd heriol sy'n ymwneud â'n grŵp o ddefnyddwyr gwasanaeth.
- 2. Rhaid gallu cynnal asesiadau o ymddygiad sy'n herio a datblygu cynlluniau ymyrryd creadigol.
- 3. Rhaid meddu ar sgiliau trefnu da.
- 4. Rhaid gallu cymell staff a gofalwyr, addysgu sgiliau a throsglwyddo gwybodaeth, a modelu sgiliau ac ymddygiad priodol.
- 5. Rhaid meddu ar sgiliau cyflwyno da a gallu defnyddio cyfarpar cyflwyno.
- 6. Rhaid gallu cyfathrebu'n effeithiol â defnyddwyr y gwasanaeth, staff a gofalwyr a rhieni, staff cymorth ac aelodau proffesiynol o'r tîm amlddisgyblaethol.
- 7. Rhaid deall materion sy'n ymwneud â phobl ag anableddau dysgu ac ymddygiad sy'n herio a rhaid bod yn ymrwymedig i egwyddorion byw arferol mewn lleoliadau cymunedol.
- 8. Hefyd, rhaid gallu cyfleu'r angen i drin defnyddwyr y gwasanaeth a'u teuluoedd ag urddas a pharch a hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol.
Other
Meini prawf hanfodol
- 1. Rhaid gallu teithio o fewn ardal ddaearyddol BIPBC.
- 2. Rhaid gallu gweithio oriau hyblyg ac mewn lleoliadau gwahanol.
- 3. Mae angen Datgeliad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dave Thomas
- Teitl y swydd
- Specialist Behavioural Nurse
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 852998
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector