Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Iechyd Cyhoeddus
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Sul i ddydd Sadwrn, 09:00 tan 17:00, gyda 30 munud o egwyl cinio di-dâl)
Cyfeirnod y swydd
050-AC520-0725
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Bryn Tirion, Ysbyty Bryn Y Neuadd
Tref
Llanfairfechan
Cyflog
£27,898 - £30,615 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
05/08/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Cydlynydd Hwb - Gwasanaeth Diogelu Iechyd

Gradd 4

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Cytunwyd ar y raddfa gyflog uchod fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2025/2026 a chaiff ei weithredu ym mis Awst 2025 gydag ôl-ddyddio i 1af Ebrill 2025 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Gan weithio fel rhan o'r Gwasanaeth Diogelu Iechyd, bydd deiliad y swydd yn darparu cymorth cydlynu a gweinyddu ar lefel uchel ar draws Rhanbarth Gogledd Cymru. Bydd deiliad y swydd yn gweithio o’i leoliad gwaith dynodedig neu fel rhan o dîm allgymorth ystwyth sy’n wynebu cleifion, mewn unrhyw leoliad yng ngogledd Cymru.  

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y Tîm Diogelu Iechyd dros y ffôn, drwy e-bost a gohebiaeth. Rhoi cyngor ar ystod eang o faterion sy'n ymwneud â’r Gwasanaeth Diogelu Iechyd, gan eu datrys neu eu cyfeirio at yr unigolyn mwyaf addas yn ystod cyfnodau pan na fydd yn y swyddfa.
  • Gweithio’n hyderus, a chyfathrebu’n effeithiol ag aelodau eraill o’r tîm Diogelu Iechyd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a sefydliadau trydydd parti eraill, fel Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Awdurdod Lleol.
  • Cynllunio a threfnu cyfarfodydd, gan gynnwys llunio agendâu a chymryd cofnodion ffurfiol a'u trawsgrifio.
  • Delio â dogfennau/materion sensitif a chyfrinachol, gan gynnal y cyfrinachedd a’r disgresiwn pennaf bob amser. Gall hyn gynnwys gwybodaeth o natur drallodus. 
  • Bod yn gyfrifol am archebu holl ofynion, nwyddau a gwasanaethau'r swyddfa drwy system Oracle. Cyflwyno anfonebau a derbynebau.  Sicrhau’r pris gorau a gwerth am arian.  Trefnu i groesgyfeirio anfonebau yn fewnol gydag adrannau eraill neu'n allanol pan fo angen.  Cynnal lefelau stoc ddigonol o ddeunydd swyddfa yn yr holl swyddfeydd.
  • Delio â dogfennau/materion sensitif a chyfrinachol, gan gynnal y cyfrinachedd a’r disgresiwn pennaf bob amser. Gall hyn gynnwys gwybodaeth o natur drallodus.
  • Paratoi papurau ac adroddiadau gan ddefnyddio pecyn Microsoft Office.
  • Cyflawni dyletswyddau eraill fel sy’n ofynnol o bryd i'w gilydd, fel sy'n gymesur â theitl y swydd.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac. 

Manyleb y person

Cymwysterau a/neu Wybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster Cam 3 / NVQ Gweinyddu Busnes Lefel 3 mewn Gweinyddiaeth Busnes neu brofiad cyfwerth.
  • Diploma mewn gweinyddiaeth Swyddfa neu brofiad at lefel diploma NEU gymhwyster teipio / cymhwyster prosesu geiriau.
  • Gwybodaeth fanwl a thrylwyr a dealltwriaeth o bolisïau, cynlluniau, rheoliadau, gweithdrefnau rheoli a gweithredol y Sefydliad.
  • Gwybodaeth uwch am becynnau prosesu geiriau a thaenlenni.
Meini prawf dymunol
  • NVQ Cam 3 neu gyfwerth mewn Gweinyddiaeth.
  • Tystysgrif ECDL Uwch.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o ddarparu gwasanaeth gweinyddol cynhwysfawr/Gwasanaeth Cynorthwyydd Personol ar lefel uchel.
  • Profiad o sefydlu systemau ffeilio/TG a’u defnyddio.
  • Yn gyfarwydd â gweithdrefnau swyddfa a therfynau amser
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol o weithio fel Gweinyddwr
  • Profiad blaenorol o weithio o fewn y GIG.
  • Profiad o weithio gyda systemau clinigol: WPAS / PIMS / WCP / Sharepoint / PowerBl Reports

Addasrwydd a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog
  • Gallu gweithio heb oruchwyliaeth a gwneud penderfyniadau.
  • Sgiliau trefnu.
  • Sgiliau rhifedd a llythrennedd.
  • Sgiliau gofal cwsmer ardderchog.
  • Gafael da ar Saesneg, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • Sylw rhagorol i fanylder
Meini prawf dymunol
  • Gallu siarad Cymraeg
  • Hyderus ym mhob agwedd o waith swyddfa
  • Profiad o gynhyrchu graffiau ac ystadegau.
  • Gwybodaeth gynhwysfawr am Windows, Word, Excel, PowerPoint, Outlook, Oracle
  • Gwybodaeth am y Sefydliad

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Simon Foster
Teitl y swydd
Hub and Administration Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000840005
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg