Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Adnoddau Dynol
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun - Dydd Gwener 9-5)
Cyfeirnod y swydd
050-AC381-0826
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Preswylfa
Tref
Y Wyddgrug
Cyflog
£26,813 - £27,890 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
17/08/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Cynorthwydd Gwasanaethau Pobl

Gradd 3

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Ydych chi erioed wedi meddwl sut beth fyddai gyrfa ym maes Adnoddau Dynol neu Recriwtio?

Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Gwasanaethau Pobl, wedi'i leoli yn Preswylfa Yr Wyddgrug , gan gefnogi ein timau Adnoddau Dynol a Recriwtio.

Yn y rôl hon byddwch yn ddarparu cymorth gweinyddol i'r timau Gwasanaethau Pobl, gan weithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf gyda dealltwriaeth o sut buasai yrfa yn y disgyblaethau hyn yn edrych.

Mae'n amgylchedd prysur ac nid yw dau ddiwrnod yr un fath. Byddwch yn rhan o ein tîm cefnogol ac ymgysylltiol, mae ein gwaith yn dod â ni fewn I gysylltiad gyda amrywiaeth eang o bobl a sefyllfaoedd yn ddyddiol. Rydym yn cymryd ymagwedd gwasanaeth cwsmeriaid tuag at bopeth rydym yn gwneud.

Er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfle hwn, bydd angen sgiliau TG cryf arnoch (Microsoft Office yn bennaf), profiad gweinyddol blaenorol a'r gallu i flaenoriaethu tasgau a rheoli eich amser. Bydd angen i chi fod yn hyderus wrth ymgysylltu ag ymholiadau dros y ffôn, e-bost ac mewn person.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn cefnogi holl weithgareddau Adnoddau Dynol a Recriwtio ar gyfer y Gorllewin a bydd yn cefnogi gweithgareddau oddi ar y safle gan ddarparu cymorth sydd yn hwyluso digwyddiadau AD, Recriwtio a gyrfaoedd.

Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n effeithiol fel aelod allweddol o'r tîm Gwasanaethau Pobl drwy ddarparu cefnogaeth weinyddol effeithlon, gywir a phrydlon gan gynnwys y dderbynfa, llungopïo, ffeilio, ateb galwadau ffôn, cymeryd cofnodion mewn cyfarfodydd, adroddiadau a rhannu data ac ati.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon: gwahoddir siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg i wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cyfeiriwch at y Disgrifiad Swydd manwl a'r Fanyleb Person sydd i'w gweld yn yr adrannau Dogfennau Ategol neu cliciwch "Gwneud cais nawr" i'w gweld yn TRAC.

Manyleb y person

Qualifications

Meini prawf hanfodol
  • NVQ lefel 3 neu lefel o brofiad cyfatebol
  • TGAU Saesneg a Mathemateg
Meini prawf dymunol
  • Gweithio tuag at gymhwyster CIPD

Experiance

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau mewn gweithdrefnau clercyddol a gweinyddol
  • Hyfedr mewn meddalwedd Microsoft Office
  • Gallu gweithio heb oruchwyliaeth
  • Profiad o drin gwybodaeth gyfrinachol materion Cysylltiadau Gweithwyr
Meini prawf dymunol
  • Profiad o ddefnyddio Cronfeydd data TG
  • Profiad Adnoddau Dynol
  • Gweithio ar draws amryw o ddisgyblaethau o fewn sefydliad GIG

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Rachel Roberts
Teitl y swydd
People Business Partner
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg