Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cymuned Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS644-0726
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- TIMC Pwll Glas
- Tref
- Yr Wyddgrug
- Cyflog
- £26,813 - £27,890 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 03/08/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd - CMHT (Yr Wyddgrug)
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae gennym swydd wag i Weithiwr Cymorth Gofal Iechyd yn ein Tîm Iechyd Meddwl, yn gweithio gyda Thîm Iechyd Meddwl Cymunedol Sir y Fflint. Os ydych chi'n mwynhau helpu pobl ac eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w bywydau, gallai'r swydd hon fod yn berffaith i chi.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd wrth wraidd popeth a wnawn, gan ddarparu gofal a chymorth rheng flaen. Bydd eich gwaith yn cynnwys gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth yn y tîm iechyd meddwl cymunedol, gan eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn eu cymuned leol a'u cefnogi i gynnal lles meddyliol a chorfforol da. Rydym yn chwilio am bobl frwdfrydig, gydwybodol a chyfeillgar sy'n barod i ddysgu ac i chwarae rhan allweddol wrth wella bywydau'r cleifion rydym yn gweithio gyda nhw. Byddwch yn ymwneud â chleifion, perthnasoedd, aelodau eraill o'r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol o sefydliadau partner.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu da - ar lafar ac yn ysfrifenedig, gyda'r gallu i gyfleu gwybodaeth yn glir ac yn sensitif
- Yn gallu gweithio i safon uchel gyda chyn lleied o oruchwyliaeth a phosibl
- Yn gallu aros yn bwyllog mewn sefyllfaoedd sy'n achosi straen
- Yn gallu dangos agwedd ofalgar a thosturiol
- Sgiliau trefnu a'r gallu i gynllunio a blaenoriaethu ei lwyth gwaith ei hun ac eraill yn effeithlon
- Yn gallu defnyddio technoleg i gyflawni'r rol, er enghraifft Microsoft Office, planfformau rhithwir fel TEAMS
- Gallu corfforol i gyflawni dyletswyddau'r rol. sy'n cynnwys codi, cynorthwyo gyda symudedd, a chyflawni tasgu llaw eraill
Meini prawf dymunol
- Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol o weithio mewn amgylchedd gofalgar
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd iechyd neu ofal cymdeithasol perthnasol, a darparu gofal uniongyrchol i gleifion
- Profiad o weithio yn y GIG
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Lefel 3 mewn pwnc cysylltiedig a gofal iechyd neu brofiad cyfatebol a bydd dangos tystiolaeth o gymhwysedd seiliedig ar waith ac arddangos gwybodaeth ddamcaniaethold. Bydd yn gallu cyflawni dyletswyddau gofal clinigol sy'n berthnasol i'r rol a enillir drwy brofiad a hyfforddiant seiliedig ar waith / cyrsiau byr
- Gwybodaeth am y Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru a Chanllawiau Dirprwyo Cymru Gyfan (AaGIC)
- Gwybodaeth am bolisiau a gweithdrefnau perthnasol yn y lleoliad gofal iechyd er enghraifft egwyddorion Diogelu oedolion / plant i gadw cleifion yn eu gofal yn ddiogel. Hefyd cyfrinachedd er enghraifft y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)
Yn gallu gweithio i safon uchel gyda chyn lleied o oruchwyliaeth a phosibl
Meini prawf hanfodol
- Cliriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan gynnwys gwiriad Rhestr Waharddedig Oedolion / Plant
- Yn gallu gweithio amrywiaeth o batrymau sifft
- Yn gallu teithio o fewn ardal ddaearyddol i ddiwallu anghenion y gwasanaeth
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jade Parker
- Teitl y swydd
- Flintshire CMHT Team Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 850007
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector







.png)
