Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
CHC
Gradd
Gradd 6
Contract
6 mis (Cyfnod Penodol tan 31.03.2027 oherwydd cyllido)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (0900 - 1700)
Cyfeirnod y swydd
050-NMR317-0526-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Bae Colwyn
Tref
Hen Golwyn
Cyflog
£40,559 - £48,841 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
15/07/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Adolygydd Nyrsio Gip

Gradd 6

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Mae’r swydd hon am gyfnod penedol /secondiad tan 31.03.2027 oherwydd cyllido.

Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.

Swydd tymor sefydlog diddorol a chyffrous i RGN band 6 ymuno â'r tîm Gofal Iechyd Parhaus yn yr Ardal Canolog sy'n cwmpasu ardaloedd Sir Gonwy a Dinbych.

Swydd tymor sefydlog  i ymuno â’r tîm Gofal Iechyd Parhaus yn ardal y Canolog Sir Conwy a Dinbych. Bydd deilydd y swydd yn rheoli ar ran Uwch Adran y Canolog o ran gweithredu, monitro ac adolygu Gofal Nyrsio Cofrestredig sydd wedi’i ariannu gan y GIG a Gofal Iechyd Parhaus y GIG mewn Cartrefi Gofal (Nyrsio) ac yn lleoliad y cartref i sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal o ansawdd sy’n bodloni arfer gorau a safonau cenedlaethol fel y cânt eu rhagnodi a’u hariannu gan y GIG.

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Bydd deilydd y swydd yn rheoli ar ran y GRhG gweithredu Gofal Nyrsio Cofrestredig a Ariennir gan y GIG (FNC), ei fonitro a'i adolygu a Gofal Iechyd GIG Parhaus (CHC) mewn Cartrefi Gofal (Nyrsio) ac yn y cartref i sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal o ansawdd sy'n bodloni arfer gorau a safonau cenedlaethol fel y rhagnodwyd ac ariennir gan y GIG.
  • Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd gydlynu'n ffurfiol wrth dod ag aelodau'r Tim Amlddisgyblaethol ynghyd i gynnal asesiadau ar gyfer ariannu CIC o fewn ysbytai llym, cymuned ac yn y cartref sydd yn gyson â Chanllawiau Cenedlaethol a Manylebau Lleol (Gweithdrefn Gweithredu Safonol) ar gyfer ariannu CIC.
  • Bydd deilydd y swydd yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a'r Sector Annibynnol i gwblhau adolygiadau ar y cyd ar gyfer cleifion CIC a FNC lle bo'n bosibl.
  •  Bydd deilydd y swydd yn darparu cyngor nyrsio proffesiynol i staff yn y Cartrefi Gofal (Nyrsio) i sicrhau bod cyfeiriadau priodol yn cael eu gwneud at aelodau eraill o'r tim clinigol.
  • Bydd deilydd y swydd yn darparu pecynnau hyfforddi ar Gofal Iechyd Parhaus a Gofal Nyrsio a Ariennir a'u dosbarthu.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.  

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

RGN

Meini prawf hanfodol
  • RGN Lefel 1af

RGN

Meini prawf hanfodol
  • gwybodaeth/sgiliau - dealltwriaeth o Fframwaith a phroses y GIG GIP

RGN

Meini prawf hanfodol
  • sgiliau trefnu - gallu dangos a darparu enghreifftiau o brofiad

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sian Wyn Jones
Teitl y swydd
CHC Operational Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 855565
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Ar gael rhwng dydd Llun a dydd Iau rhwng 08:00-16:00

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg