Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gweinyddwr
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos (Amser llawn a rhan-amser)
Cyfeirnod y swydd
050-AC435-0926
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Rhyl
Cyflog
£26,300 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
08/09/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Cynorthwyydd Gweinyddol Oncoleg

Gradd 2

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd ag amrediad o ddyletswyddau gan gynnwys ffeilio, casglu nodiadau achos cleifion, ateb y ffôn, cyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau a chefnogi'r tîm fel sydd angen. Rydym yn gweithio mewn amgylchedd prysur a chyflym sy'n gofyn am unigolyn sydd â'r gallu i addasu a gweithio ar ei liwt ei hun.

Rhaid i ddeilydd y swydd feddu'r gallu i weithio fel rhan o dîm er mwyn sicrhau bod yr holl gyfathrebu perthnasol yn cael ei wneud mewn modd amserol a chywir. Byddai disgwyl i chi drin â cheisiadau ac ymholiadau gan gleifion, gofalwyr a chydweithwyr mewn modd cyfrinachol a sensitif, wyneb yn wyneb a thros y ffôn.

Rhaid meddu ar safon dda o addysg, sgiliau trefnu da a'r gallu i weithio fel rhan o'r tîm. 

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.  

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae cyfle wedi codi am Gynorthwyydd Gweinyddol i ymuno â'r Tîm Oncoleg Glinigol a Haematoleg Glinigol.  

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hyblyg ac yn meddu ar y gallu i weithio mewn amgylchedd prysur. Bydd yn ymgymryd ag ystod eang o brosesau gweinyddol yn hyderus ac yn effeithlon er mwyn rhoi cymorth gweinyddol i swyddogaethau Ward, Derbynfa a Chleifion Allanol.

Gwahoddir ceisiadau gan rai fyddai’n hoffi cael eu hystyried ar gyfer gweithio’n rhan amser.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

 

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

 

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac. 

Manyleb y person

PROFIAD

Meini prawf hanfodol
  • Profiad mewn amgylchedd swyddfa yn ymwneud â gofal cwsmer.
  • Profiad o ystod eang o arddulliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig.
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd prysur/pwysedd uchel
Meini prawf dymunol
  • Gallu i ddefnyddio amrywiaeth o batrymau data cyfrifiadurol.
  • Cofnodion meddygol blaenorol neu brofiad clerigol mewn ysbyty

SGILIAU

Meini prawf hanfodol
  • Gallu bodloni amserlenni tynn a blaenoriaethu baich gwaith
  • Defnydd aml a hirfaith o offer VDU
  • Defnydd aml a hirfaith o'r ffôn
  • Sgiliau threfnu ardderchog a’r gallu weithio ar liwt eich hun mewn ymateb i alwadau'r baich gwaith.
  • Sgiliau i’w gallu amltask tra’n gweithio dan bwysau.

GWYBODAETH

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth am Ddeddf Diogelu Data.
  • Ymwybyddiaeth o Gyfrinachedd Cleifion
Meini prawf dymunol
  • Deall nodau ac amcanion yr Agenda Moderneiddio.
  • Ymwybyddiaeth o Bolisi lleol/cenedlaethol Rheoli Rhestrau Aros/Targedau Canser, a gwybodaeth am amseroedd aros.

RHINWEDDAU PERSONOL

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol.
  • Y gallu i barhau i fod yn dawel mewn sefyllfaoedd sy'n peri straen neu'n ofidus.
  • Gallu goresgyn rhwystrau iaith a chyfathrebu
  • Gallu gweithio'n dda mewn amgylchedd prysur sy'n cael ei lywio gan dargedau
  • Gallu blaenoriaethu eich baich gwaith eich hun
  • Hunan gymhelliant

GOFYNION PERTHNASOL ERAILL

Meini prawf hanfodol
  • Gallu neu gwaith shifft ag gweithio rhwng 9am a 6pm & ac rhai penwythnosau
  • Gallu i siarad Cymraeg (lefel 3)

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Addysg o safon dda. Yn gallu dangos cymhwyster Saesneg a Mathemateg hyd at lefel TGAU neu gyfwerth.
  • Cymhwyster Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd, gweithio tuag at ei hennill, neu cyfwerth profiad.
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am PAS
  • Cymwysterau Ffurfiol i ddefnyddio prosesu geiriau, taenlenni a/neu gronfeydd data.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Beverley Johnson
Teitl y swydd
Admin Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 844556
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg