Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweinyddiaeth
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC389-0625
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Brehinol Alexandra
- Tref
- Y Rhyl
- Cyflog
- £24,433 - £26,060 y flywyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 22/06/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Gweinyddu Therapi Galwedigaethol i Blant
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae gweinyddiaeth Gwasanaethau Therapi yn awyddus i benodi unigolyn llawn cymhelliant i weithio mewn Gweinyddu Therapi Galwedigaethol i Blant prysur yn gweithio yn Ysbyty Brenhinol Alexandra, yn bennaf.
Bydd deilydd y swydd yn aelod o'r tîm gweinyddol sy'n darparu gwasanaeth clercyddol a gweithredwr ffôn ar gyfer y Gwasanaeth Ffisiotherapi a chymorth gweinyddol i Wasanaethau Therapi.
Mae Gwasanaethau Therapi yn cynnwys Deieteg, Therapi Galwedigaethol, Ffisiotherapi, Podiatreg ac Orthoteg, Therapi Iaith a Lleferydd a Gweinyddiaeth. Mae gan bob ardal ei Bennaeth Gwasanaeth ei hun sy'n atebol i Gyfarwyddwr Ardal Gwasanaethau Therapi.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rhaid bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfathrebwr effeithiol, yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol da ac yn gweithio mewn ffordd hyblyg a threfnus. Mae'n rhaid iddynt gael safon dda o addysg.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Addysg gyffredinol da
- NVQ Lefel 3 neu wybodaeth/profiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster teipio neu profiad cyfatebol
- Tustiolaeth o addysg barhaus
Experience
Meini prawf hanfodol
- Profiad gwasanaeth claf/cwsmer
Meini prawf dymunol
- Profiad o system weinyddu cleifion
Skills
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol
- Sgiliau trefnu ardderchog
Meini prawf dymunol
- Y gallu i siarad cymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sandra Bickerstaff
- Teitl y swydd
- Admin Team Leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 855932
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector