Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Awdioleg
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i ddydd Gwener 9am - 5pm)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-HS015-0726
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Rhyl
- Cyflog
- £50,129 - £57,365 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 19/07/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Gwyddonydd Clinigol / Clywedegydd Uwch
Gradd 7
Trosolwg o'r swydd
Dyma gyfle gwych i ymuno â Gwasanaeth Awdioleg Gogledd Cymru fel gwyddonydd clinigol cofrestredig i gynorthwyo i ddarparu gwasanaeth Awdioleg oedolion a phediatreg o ansawdd uchel a wasanaethir gan BIPBC, ar gyfer poblogaeth Gogledd Cymru. Bydd y swydd gyfunol hon yn cynnwys tridiau gyda'r tîm oedolion a dau ddiwrnod gyda'r tîm pediatrig. Bydd deilydd y swydd yn cyflawni dyletswyddau o fewn y gwasanaeth Awdioleg yn unol â’r disgrifiad swydd. Yn dibynnu ar sgiliau ac anghenion y gwasanaeth, efallai y bydd ffocws ar awdioleg ddiagnostig, adsefydlu uwch, anableddau dysgu/dementia neu dinitws. Mae profiad pediatrig yn hanfodol; darperir hyfforddiant mewn meysydd arbenigol eraill yn ôl yr angen.
Bydd cyfrifoldeb ar y deilydd i hyfforddi a goruchwylio staff clinigol eraill a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn rheolwr llinell i staff iau.
Lleolir y swydd yn Ysbyty Glan Clwyd ond bydd gofyn teithio i safleoedd eraill ledled Gogledd Cymru. Mae hwn yn gyfle delfrydol i ddatblygu eich sgiliau clinigol, ymchwiliol a sgiliau datblygu gwasanaeth mewn amgylchedd cefnogol a blaengar.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae hwn yn gyfle delfrydol i ddatblygu sgiliau clinigol a datblygiad gwasanaeth ymhellach mewn amgylchedd cefnogol a blaengar. Bydd cyfrifoldeb dros hyfforddi a goruchwylio staff clinigol eraill ble’n briodol. Mae’r tîm Awdioleg yn cynnwys Gwyddonwyr Clinigol, Awdiolegyddion, Awdiolegyddion Cysylltiol a Chynorthwyol. Mae’r tîm yn ymroddedig i ddatblygiad a chyflwyniad gwasanaethau o ansawdd uchel gyda’r claf yn ganolog.
Mae’r gallu siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg i ymgeisio.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- MSc mewn Gwyddoniaeth Awdiolegol neu wybodaeth gyfatebol
- Cymhwyster hyfforddiant o lMSc proffesiynol (arbenigol) neu gyfwerth (sy'n briodol ar gyfer cofrestru HCPC fel Gwyddonydd Clinigol)
- Cofrestriad HCPC fel Gwyddonydd Clinigol (Awdioleg), cofrestriad RCCP fel Awdiolegydd, neu gofrestriad AHCS
Meini prawf dymunol
- Aelod o grwp diddordeb arbennig priodol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad estynedig yn gweithio fel Awdiolegydd Arbenigol Clinigol (i gynnwys profiad yn ystod hyfforddiant STP)
Meini prawf dymunol
- Sgiliau arwain
- Tystiolaeth o addysgu o fewn swydd
Tueddfryd a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Gallu perfformio ystod eang o driniaethau Awdiolegol ar lefel uwch
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog ar lafar ac ysgrifenedig
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog, yn cynnwys y gallu i brosesu a rhannu gwybodaeth gymhleth iawn mewn modd cyfrinachol
- Cymryd rhan weithredol mewn gwaith ymchwil ac arferion ar sail tystiolaeth
- Sgiliau gwaith tim gwych
- Gallu perfformio asesiad cydbwysedd (vestibular) ac awdioleg diagnostig.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Michelle Dodd
- Teitl y swydd
- Principal Clinical Scientist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 850078
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Am drafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch a Heidi Turner os gwelwch yn dda.
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gwyddor Iechyd neu bob sector







.png)
