Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Arennol
Gradd
7
Contract
Parhaol
Oriau
  • Rhan-amser
  • Rhannu swydd
15 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-PST018-0226
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Y Rhyl
Cyflog
£48,527 - £55,532 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
19/02/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Uwch-Weithiwr Cymdeithasol Arennol Arbenigol

7

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn defnyddio gwybodaeth am waith cymdeithasol ac ymarfer gwaith cymdeithasol o'r radd flaenaf a bydd yn ymrwymedig i wneud gwaith person-ganolog gydag unigolion a theuluoedd gan ganolbwyntio ar eu cryfderau, eu diddordebau a'u hasedau yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014).

 

Bydd deiliad y swydd wedi cael addysg hyd at lefel gradd ac yn meddu ar gymhwyster mewn gwaith cymdeithasol. Fel rhan o dîm amlddisgyblaethol byddwch yn arwain y gwaith o feithrin dealltwriaeth o rôl gwaith cymdeithasol o fewn Gwasanaethau Neffroleg a Thrawsblannu a lledaenu gwybodaeth am y rôl honno. 

 

Er mwyn darparu gwasanaeth gwaith cymdeithasol arbenigol iawn a ategir gan theori a phrofiad, sy'n cynnwys asesiadau ac ymyriadau seicogymdeithasol gyda chleifion arennol a'u teuluoedd. Mae'r gwasanaeth yn cwmpasu ardal ddaearyddol fawr yn ogystal â wardiau dynodedig, clinigau trawsblannu ac unedau dialysis. 

 

Bydd deiliad y swydd hon yn cynllunio, yn arwain ac yn cyflwyno rhaglenni y bwriedir iddynt leihau effaith seicolegol triniaethau arennol a hyrwyddo addasiadau, yn dilyn triniaethau. 

 

Bydd deiliad y swydd yn arwain y tîm amlddisgyblaethol yn strategol ac yn cydweithio â'r tîm hwnnw, byrddau iechyd eraill, gweithgorau cenedlaethol a phartïon yn y trydydd sector gan gyflwyno safbwyntiau cleifion arennol i'r trafodaethau a gweithredu fel eiriolwr ar ran cleifion arennol a ffynhonnell cymorth iddynt ledled Gogledd-ddwyrain Cymru. 

 

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bod yn hyrwyddwr gofal cymdeithasol â dealltwriaeth gynhwysfawr o ddeddfwriaeth a chanllawiau statudol. 

 

Cynnig cyngor a chanllawiau proffesiynol medrus, cyfoes i'r gymuned arennol. 

 

Cynnal asesiadau ac adolygiadau cymhleth, ar gyfer pobl a all fod yn wynebu risg uchel. 

 

Cynnal adolygiadau o'r fath fel rhan o asesiad integredig o anghenion iechyd ac anghenion cymdeithasol pobl, yn enwedig y rhai â chymhlethdodau rhyngbersonol, cymdeithasol, cyfreithiol a/neu amgylcheddol sylweddol.

 

Sicrhau bod gwasanaethau wedi'u comisiynu yn rhoi dewis i ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr ac yn canolbwyntio ar bobl sy'n byw yn y gymuned gyda chymorth priodol a mynediad at wasanaethau cyffredinol.

 

Cynnal asesiadau risg rheolaidd a sicrhau bod pobl sy'n agored i newid yn cael eu cadw'n ddiogel. 

 

Hyrwyddo arferion diogelu yn unol â pholisi ac, fel y bo'n briodol, mewn ymchwiliadau diogelu. 

 

Rhoi cyngor i gydweithwyr ar arferion gorau wrth gynnal asesiadau o anghenion gofalwyr, gan gynnwys nodi cynlluniau wrth gefn a darparu cymorth os yw'n briodol.

 

Yn fedrus wrth weithio mewn partneriaeth a nodi, datblygu a hwyluso amrywiaeth eang o wasanaethau cymunedol sy'n canolbwyntio ar adferiad a sicrhau bod cydweithwyr yn y rhanbarth yn ymwybodol o ddatblygiadau ac arferion gorau.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

 

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

The ability to speak Welsh is desirable for this post; Welsh and/or English speakers are equally welcome to apply. 

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Bod yn gyfrifol am ddatblygu polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer y ward/maes clinigol gan sicrhau eu bod yn bodloni meini prawf cenedlaethol, lleol a phroffesiynol gan sicrhau cymeradwyaeth BIPBC cyn iddynt gael eu defnyddio lle y bo'n briodol. 

 

Gweithredu'n annibynnol ag awdurdod ac uniondeb er mwyn gwneud penderfyniadau o fewn strwythur proffesiynol a rheoli y cytunwyd arno, gan geisio cyngor fel y bo'n briodol 

 

Hyrwyddo gwaith amlddisgyblaethol, gyda chanlyniadau y bwriedir iddynt fod er budd pennaf cleifion drwy ddarparu gwasanaethau cydlynus. 

 

Rhoi adborth agored a gonest i'r tîm ar safonau gofal nyrsio a ddarperir i gleifion ac a brofir gan gleifion a'r gwasanaeth a rhoi gwybod am gamau gwella / gwersi a ddysgwyd a'u rhoi ar waith mewn modd amserol. 

 

Arwain y gwaith o ymchwilio i ddigwyddiadau clinigol a chwynion a chefnogi unrhyw ddigwyddiadau anffodus difrifol gan ddefnyddio methodolegau dadansoddi achosion sylfaenol. Sicrhau bod cynlluniau gweithredu a chanfyddiadau yn cael eu rhoi ar waith yn llawn mewn modd amserol a bod argymhellion yn cael eu hymgorffori mewn ymarfer. 

 

Gyda chymorth yr Adran Adnoddau Dynol, cymryd y camau angenrheidiol i reoli unrhyw unigolion yn y tîm nad yw eu perfformiad yn cyrraedd y safonau disgwyliedig yn effeithiol ac yn deg, lle y bo'n briodol.

Manyleb y person

Essential

Meini prawf hanfodol
  • Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol, DipSW, CQSW, CSS neu gymhwyster cyfatebol
  • Wedi'ch Cofrestru â Chyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol Cymru
  • Profiad helaeth ôl-gymhwyso o waith cymdeithasol
  • Profiad helaeth o asesu anghenion cleientiaid, sy'n aml yn gymhleth, a'r risgiau sy'n gysylltiedig â nhw yn barhaus a dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o amrywiaeth eang o opsiynau o ran adnoddau o fewn y fframwaith/cyfyngiadau cyllidebol
Meini prawf dymunol
  • Profiad priodol o fewn arbenigedd ac yn gallu dangos gwybodaeth gadarn o’r arbenigedd perthnasol
  • Lefel uchel o drefnu, hunangymhelliant ac ysgogiad i berfformio a gwella, a hyblygrwydd mewn dull ac agwedd.

Desirable

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i siarad Cymraeg
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i ddadansoddi a chyflwyno tystiolaeth ystadegol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Andrew Brady
Teitl y swydd
Acute Medical Matron
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 844172
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg