Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Therapydd Iaith a Lleferydd
NHS AfC: Band 5
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae gennym gyfle cyffrous i Therapydd Iaith a Lleferydd brwdfrydig ac arloesol ymuno â Thîm Therapi Iaith a Lleferydd sefydledig, cefnogol a phrofiadol o fewn Cymuned Iechyd Integredig Canolog, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Caiff goruchwyliaeth a chymorth eu darparu gan ein tîm profiadol o Therapyddion Iaith a Lleferydd waeth a ydych newydd gymhwyso neu'n awyddus i ddatblygu eich sgiliau presennol. Mae hon yn swydd parhaol, llawn amser. Mae’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Fel ymgeisydd llwyddiannus, bydd gennych radd gydnabyddedig mewn Therapi Iaith a Lleferydd a chofrestriad HCPC. Ond, byddem yn ystyried ceisiadau gan Fyfyrwyr Therapi Iaith a Lleferydd yn y flwyddyn olaf o astudio. Byddem hefyd yn ystyried penodi yr ymgeisydd llwyddiannus ar oriau gostyngol ac ar Band 4 nes bydd y cwrs gradd wedi ei gwblhau a chymhwyster llawn fel Therapydd Iaith a Lleferydd wedi ei gadarnhau.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddwch yn dangos sgiliau rhyngbersonol ardderchog (gan gynnwys arsylwi, sgiliau gwrando ac empathi) i gefnogi anghenion unigol plant, a theuluoedd, gan gydweithio â gweithwyr proffesiynol mewn Gwasanaethau Iechyd ac Addysg. Gyda chymorth, byddwch yn trefnu, yn cynllunio ac yn blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun, ac yn datblygu strategaethau priodol i reoli llwyth achosion. Bydd cyfle i ddatblygu sgiliau o ran hyfforddi ac addysgu staff ysgol, gweithio mewn partneriaeth â rhieni a datblygu rhaglenni therapi.
Fel rhan o’n tîm cyn-ysgol ac oed ysgol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ochr yn ochr â therapyddion Iaith a Lleferydd eraill i asesu a thrin plant a phobl ifanc sydd ag ystod o anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu sy'n derbyn eu haddysg yng Nghonwy. Bydd cyfle i gyfrannu at ddarparu gwasanaethau mewn lleoliadau clinig, lleoliadau cyn-ysgol, ysgolion prif ffrwd, ysgolion arbenigol a lleoliadau adnoddau sylfaenol a Darpariaethau Adnoddau Iaith.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gweler y disgrifiad swydd a manyleb person am fwy o wybodaeth am brif gyfrifoldebau'r swydd.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Gweler Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person
Meini prawf dymunol
- Gweler Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gweler Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person
Meini prawf dymunol
- Gweler Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person
Addasrwydd a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Gweler Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person
Meini prawf dymunol
- Gweler Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Suzanne Holland
- Teitl y swydd
- Early Years Team Leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07811037030
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Catrin Phillips – Arweinydd Tîm Addysg Sir Ddinbych 07557083480
Emily Ward – Arweinydd Tîm Addysg Sir Conwy 07919 302365
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau cymorth neu bob sector