Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- MHLD
- Gradd
- Band 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC509-0725
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- TBC
- Tref
- TBC
- Cyflog
- £30,420 - £37,030 Per annum
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 03/08/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Rheolwr Gweinyddol Anableddau Dysgu
Band 5
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cytunwyd ar y raddfa gyflog uchod fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2025/2026 a chaiff ei weithredu ym mis Awst 2025 gydag ôl-ddyddio i 1af Ebrill 2025 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Bydd y Rheolwr Gweinyddol yn gyfrifol am ddarparu gweithrediad a rheolaeth ddyddiol gwasanaethau clerigol a gweinyddol ar gyfer Timau Adsefydlu, Perinatal, CHC a PICS o fewn yr Adran Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu dan oruchwyliaeth y Rheolwr Cymorth Busnes. Bydd y Rheolwr Gweinyddol yn rheoli Systemau Gwybodaeth Iechyd WPAS/WCCIS ac yn darparu ac yn dadansoddi gwybodaeth ystadegol ar gyfer y Bwrdd Iechyd ac asiantaethau eraill yn ôl yr angen.
Bydd deiliad y swydd yn rheoli newidiadau i sicrhau'r rheolaeth fwyaf effeithiol ac effeithlon o'r Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu. Gan weithio fel rhan o'r Tîm Rheoli, agwedd allweddol ar y swydd hon fydd sicrhau bod prosesau gweinyddol cadarn ar waith i gefnogi'r timau clinigol Adrannol mewn ffordd effeithlon ac effeithiol.
Gan weithio fel rhan o Dîm Rheoli'r Adran, cefnogi cydweithwyr i ddarparu gwasanaeth yn ystod cyfnodau o absenoldeb. Bydd hyn yn cynnwys ateb ymholiadau gan staff gweinyddol a chlerigol a chwblhau tasgau brys. Mae sgiliau ysgrifenedig a chyfathrebu rhagorol ynghyd â'r gallu i flaenoriaethu gwaith a chwrdd â therfynau amser yn hanfodol. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gynnal cyfrinachedd llym a disgwylir iddo/iddi ddelio â chleifion, perthnasau ac ymwelwyr eraill gyda chwrteisi a disgresiwn bob amser.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Yn gweithio gyda'r Rheolwyr Cefnogi Busnes, mae deilydd y swydd yn cynorthwyo gyda rheolaeth weithredol o holl staff gweinyddol, ysgrifenyddol a chlercyddol o fewn yr uwch adran.
Cynllunio rotau gwaith wythnosol a'u rhannu fel bo'n ofynnol i sicrhau bod galwadau llwyth gwaith cystadleuol a chyfnodau o wyliau byr rybudd yn cael eu bodloni'n ddigonol ac yn deg, gan wneud y mwyaf o adnoddau prin yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Sicrhau bod llinellau cyfathrebu da yn cael eu bodloni bob amser â'r staff gweinyddol a chlercyddol ar draws yr Uwch Adran, a bod yr holl wybodaeth yn cael ei dosbarthu a'i rhoi ar waith gan staff gweinyddol a chlercyddol.
Hyrwyddo perthnasau gweithio da a'u hannog bob amser, gan ddatblygu perthynas ac ymddiriedaeth gyda bob grŵp staff.
Mynychu Cyfarfodydd Arbenigol a Thîm Rheoli priodol ar gyfer yr Uwch Adran, gan sicrhau bod bob mater gweinyddol perthnasol yn cael ei bwysleisio a'i weithredu i gefnogi'r Uwch Adran tuag at gyflawni prif amcanion a thargedau.
Cadeirio cyfarfodydd ar gyfer staff gweinyddol a chlercyddol o fewn yr Uwch Adran fel bo'n ofynnol i symud mentrau newydd/prosiectau bach yn eu blaen o fewn arferion gweithio gweinyddol a chlercyddol e.e. rhaglenni llanw hyfforddiant /grwpiau gorchwyl a gorffen.
Sicrhau bod staff gweinyddol a chlercyddol yn cadw at arferion gwaith cadarn bob amser, a ble gwelir anghysondebau, y cymerir camau gweithredu priodol.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwneud cais nawr" i'w gweld yn Trac
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol â'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
- Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol â'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Experience
Meini prawf hanfodol
- Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol â'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
- Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol â'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Skills and Attributes
Meini prawf hanfodol
- Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol â'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
- Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol â'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sera Spencer
- Teitl y swydd
- Business Support Manager RSS & SCS
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector