Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ymarfer Cyffredinol
Gradd
Gradd 3
Contract
Cyfnod Penodol: 12 mis (12 fis)
Oriau
Rhan-amser - 32.25 awr yr wythnos (Dydd Llun i Ddydd Gwener)
Cyfeirnod y swydd
050-AC312-1126
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan Iechyd Tywyn
Tref
Tywyn
Cyflog
£26,813 - £27,890 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
18/11/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Uwch Weinyddwr Practis

Gradd 3

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Bydd y Llywiwr Gofal Sylfaenol yma yn gyfrifol am gydlynu a rheoli systemau galw ac adalw cleifion er mwyn sicrhau bod cleifion sydd angen monitro rheolaidd, adolygiadau cyflyrau hirdymor, sgrinio, brechiadau ac ymyriadau gofal iechyd wedi’u trefnu eraill yn cael eu hadnabod a’u cysylltu mewn modd amserol.
 
Bydd deiliad y swydd yn chwarae rôl allweddol wrth gynnal adolygiadau cyflyrau cronig drwy fonitro rhestrau adalw cleifion yn rhagweithiol, trefnu apwyntiadau, a chefnogi cleifion i ymgysylltu â rheolaeth barhaus eu cyflyrau iechyd.
 

Gan weithio fel rhan o’r Tîm Gofal Sylfaenol, bydd deiliad y swydd yn ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol sy’n gysylltiedig ag adalw cleifion, cydlynu apwyntiadau, ansawdd data a rheoli systemau clinigol, gan sicrhau nad yw cleifion yn cael eu hanwybyddu a’u bod yn derbyn monitro ac adolygiad parhaus priodol.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Prif Gyfrifoldebau
Rheoli system adalw’r Practis er mwyn nodi a chysylltu â chleifion sydd angen monitro rheolaidd, gwiriadau iechyd, brechiadau, ymchwiliadau a adolygiadau cyflyrau hirdymor. Cynnal chwiliadau ac adroddiadau EMIS yn rheolaidd i nodi cleifion sy’n ddyledus neu’n hwyr ar gyfer apwyntiadau ac adolygiadau.Cysylltu â chleifion dros y ffôn, drwy neges destun, llythyr neu ddulliau cyfathrebu cymeradwy eraill i drefnu apwyntiadau ac adolygiadau. Monitro adalwadau sydd heb eu cwblhau a chymryd camau priodol i sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal parhaus yn unol â phrotocolau’r Practis.Cydlynu apwyntiadau adolygu cyflyrau cronig gan weithio’n agos gyda chlinigwyr i sicrhau bod digon o gapasiti ar gael. Cynnal cofnodion cywir o weithgareddau adalw, ymdrechion i gysylltu â chleifion a chanlyniadau apwyntiadau o fewn systemau’r Practis.Cyfeirio pryderon ynghylch cleifion nad oes modd cysylltu â nhw, diffyg presenoldeb mynych neu faterion diogelu at y clinigydd neu’r rheolwr priodol.Cefnogi cyflawni targedau’r Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau (QIF) a gofynion cytundebol eraill drwy brosesau adalw a monitro effeithiol. Cynhyrchu adroddiadau rheolaidd ar weithgareddau adalw, adolygiadau sydd heb eu cwblhau a defnydd o apwyntiadau i gefnogi cynllunio gwasanaethau a monitro perfformiad.Darparu gwybodaeth glir i gleifion ynghylch apwyntiadau a gofynion monitro rheolaidd, gan gyfeirio ymholiadau clinigol at y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol perthnasol.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud Cais nawr” i'w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Safon Addysg Dda
  • NVQ Lefel 3 mewn Gweinyddu neu gyfwerth
Meini prawf dymunol
  • Profiad a dealltwriaeth o ofal sylfaenol
  • Gwybodaeth am Microsoft Office neu system gyfwerth Gwybodaeth am system glinigol EMIS

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o brosesau gweinyddol/GIG
  • Y gallu i gyfathrebu â chleifion, cynrychiolwyr, gwasanaethau a thrydydd partïon mewn modd clir a hyderus
Meini prawf dymunol
  • Profiad o ddefnyddio systemau TG megis EMIS, WCCG a GPTR.
  • Blaenorol brofiad o weithio mewn meddygfa deulu (GP) neu amgylchedd swyddfa'r GIG

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau Trefniadol Ardderchog
  • Sgiliau cyfathrebu effeithiol, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
  • Y gallu i flaenoriaethu a chwrdd â therfynau amser
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau Goruchwylio

Rhinweddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Rhinweddau Personol
  • Y gallu i ymdopi â sefyllfa gymhleth/gofidus yn bersonol ac ar y ffôn
Meini prawf dymunol
  • Hyblygrwydd wrth ddiwallu anghenion gwasanaeth

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Lauren Paterson
Teitl y swydd
Health Services Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 843 200
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Rebekah Hickman

Assistant Practice Manager

[email protected]

03000 843 200

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg