Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Microbioleg
Gradd
Gradd 5/6 (yn dibynnu ar brofiad)
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (yn ogystal â penwythnos/Gwyl Banc/ar alwad ar rôl)
Cyfeirnod y swydd
028-HS090-1225-A
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Bronglais
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£31,516 - £47,280 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
15/12/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Dan hyfforddiant/Gwyddonydd Biofeddygol/Arbennig

Gradd 5/6 (yn dibynnu ar brofiad)

 

Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru

Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru

Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd o Gydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Dilynwch ni ar TwitterFacebook, LinkedIn and Instagram

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

 Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Nodwch y gall y penodiad gael ei wneud ar Band 5 neu Fand 6 yn dibynnu ar brofiad. 

Mae’n gyfnod cyffrous i ymuno â Microbioleg Iechyd Cyhoeddus Cymru gan ein bod wedi ehangu ein gweithlu a'r ffordd y darperir gwasanaethau Microbioleg yn ddramatig. Mae Microbioleg Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys rhwydwaith o labordai sydd ar hyn o bryd wedi'u lleoli ar sawl safle ledled Cymru.

Mae cyfle wedi codi i ymuno â'n Tîm Bacterioleg yn Ysbyty Bronglais. Byddwch yn cael y cyfle i fod ar flaen y gad ym maes Microbioleg yng Nghymru yn dilyn buddsoddiad sylweddol mewn technoleg a staff newydd. Ein nod yw darparu gwasanaeth diagnostig ymatebol, modern, cyflym i bobl Cymru gan ddefnyddio offer o'r radd flaenaf.

I ddangos ein hymrwymiad a'n hymroddiad i'n staff rydym yn cynnig dilyniant awtomatig i Fand 6 ar ôl cwblhau eu Diploma Arbenigol IBMS (Microbioleg/ Bacterioleg Feddygol) yn llwyddiannus gyda chydymffurfiaeth 100% o ran hyfforddiant statudol a gorfodol a dogfennau cymhwysedd perthnasol. 

Bydd deiliaid y swydd llwyddiannus yn cael eu cynorthwyo'n llawn, a rhoddir hyfforddiant llawn gan ein tîm hyfforddi. Byddwch yn cael eich annog i ddatblygu a rhoddir cyfleoedd i wella eich gyrfa.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n frwdfrydig, yn llawn cymhelliant ac yn arloesol, gyda galluoedd trefnu ac ymarferol da wedi'u cefnogi gan wybodaeth wyddonol. Dylai ymgeiswyr feddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu wedi'u datblygu'n dda a gallu i gefnogi gwaith unigol ac mewn tîm. Bydd bod gyda agwedd hyblyg at waith, gyda hunangymhelliant a sgiliau ymarferol da yn hanfodol i'ch rôl. Byddwch yn defnyddio'ch gwybodaeth a'ch sgiliau fel Gwyddonydd Biofeddygol i gyfrannu at system gadarn a chwbl weithredol yn yr adran. Byddwch yn cynorthwyo wrth adeiladu tîm cryf a chynorthwyo'r Uwch Wyddonwyr Biofeddygol i alluogi gwelliannau parhaus yn yr adran a thrwy gydol y Rhwydwaith Microbioleg.  Mae dealltwriaeth o arferion labordy da ac ISO15189 rheoli ansawdd yn ddymunol.

Bydd dydd deiliad y swydd yn cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaeth 24/7 yn unol â rota gyhoeddedig.

Mae ein tîm yn cynnig amgylchedd gwaith amrywiol, heriol a gwerth chweil, gyda'r cyfle i fod ar flaen y gad ym maes Microbioleg yng Nghymru.

Gweithio i'n sefydliad

Iechyd Cyhoeddus Cymru ydym ni – yr asiantaeth iechyd y cyhoedd genedlaethol yng Nghymru. Ein pwrpas yw ‘Gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru Iachach’. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach. Gyda'n partneriaid, rydym yn gweithio i gynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Mae ein timau'n gweithio i atal clefydau, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd y cyhoedd. Ni yw prif ffynhonnell gwybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd y cyhoedd yng Nghymru.  Mewn byd sy'n wynebu heriau iechyd cymhleth, nid yw ein gwaith erioed wedi bod mor bwysig. 

Rydym yn cael ein harwain gan ein Gwerthoedd, 'Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu gweithle cynhwysol sy'n gwerthfawrogi cydraddoldeb ac amrywiaeth.  Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac sy'n cefnogi trefniadau gweithio hyblyg, gan gynnwys rolau rhan-amser a rhannu swyddi.

I gael gwybod rhagor am weithio i ni a’r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/

I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/gwybodaeth-a-chanllawiau-i-ymgeiswyr/

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gallwch ddod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb y Person atodedig yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwnewch gais nawr” i'w gweld yn Trac.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.

Manyleb y person

Cymwysterau/Profiad

Meini prawf hanfodol
  • • Gradd mewn Gwyddoniaeth Fiofeddygol neu gymhwyster cyfatebol arall sy'n dderbyniol ar gyfer cofrestriad â’r HCPC.
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o weithgarwch datblygiad proffesiynol parhaus

Cymwysterau/Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau arbrofol neu labordy
  • • Cofrestriad cyfredol gyda’r HCPC

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • • Yn gallu gweithio'n ddibynadwy ac yn effeithlon ar ei liwt ei hun ac yn gallu canolbwyntio am gyfnodau hir o amser.
  • • Yn deall egwyddorion arferion labordy da, egwyddorion a phwysigrwydd Systemau Sicrhau Ansawdd, cyfrifoldebau Iechyd a Diogelwch personol ac egwyddorion Methodoleg Ymchwil a Datblygu.
  • • Yn gallu dilyn cyfarwyddiadau llafar ac ysgrifenedig yn gywir, yn ogystal â phrotocolau a gweithdrefnau cymhleth a chymryd cyfrifoldeb am ei weithredoedd ei hun
Meini prawf dymunol
  • • Sgiliau TG da ac yn deall pwysigrwydd defnyddio TG yn y labordy

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Caroline Longman
Teitl y swydd
Laboratory Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01970 635813
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg