Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Finance
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Secondiad: 12 mis (MEWNOL I BERFFORMIAD A GWELLA GIG CYMRU ac IECHYD CYHOEDDUS CYMRU)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 028-AC145-0625
- Cyflogwr
- Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Parc Bocam, Pencoed
- Tref
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 Y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 13/07/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 23/07/2025
Teitl cyflogwr

Uwch Wyddonydd
Gradd 7
Croeso i Perfformiad a Gwelliant GIG Cymru, swyddogaeth gymorth genedlaethol newydd, yn weithredol o 1 Ebrill 2023
Ein pwrpas allweddol yw...
Ysgogi gwelliannau yn ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau gwell a thecach, mynediad a phrofiad y claf, llai o amrywiad, a gwelliannau yn iechyd y boblogaeth.
I gael gwybod mwy, ewch i Perfformiad a Gwelliant GIG Cymru.
Ein Gwerthoedd
Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Trosolwg o'r swydd
NODER MAI DIM OND CEISIADAU GAN STAFF A GYFLOGIR GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU AR HYN O BRYD Y BYDDWN YN EU DERBYN
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD SECONDIAD AM 12 MIS OHERWYDD CYLLIDO
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
MEWNOL I BERFFORMIAD A GWELLA GIG CYMRU ac IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Chyfarwyddiaeth Cynllunio a Chyflawni Ariannol Gweithrediaeth GIG fel Uwch Wyddonydd Data. Byddwch yn ymuno â thîm arloesol a llwyddiannus sy’n angerddol dros sicrhau gwerth yn GIG Cymru, gan ddarparu golwg ar y system ehangach drwy driongli canlyniadau cleifion, data ariannol a gweithgaredd gofal iechyd, a chefnogi cynaliadwyedd ariannol a gwelliant ar draws y system.
Fel y mae proffil ac enw da’r Gyfarwyddiaeth wedi cynyddu ers ei sefydlu, felly hefyd y galw am ei harbenigedd a’i dealltwriaeth. Rydym yn ehangu’r tîm mewn nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys dadansoddeg, gwybodeg, gwyddor data a strategaeth a rheolaeth ariannol.
Mae’n amser cyffrous i unigolion sydd â’r cymhelliant a’r uchelgais i ymuno â’r tîm gyda rhaglen waith ac agenda gynyddol, ac sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth yn GIG Cymru.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae'r swydd hon yn eistedd o fewn cyfarwyddiaeth Cynllunio a Chyflawni Ariannol Gweithrediaeth y GIG.
Er mwyn helpu i ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol, rydym wedi datblygu Canolfan Ragoriaeth Dadansoddeg, sy’n arwain datblygiad cynhyrchion uchel eu hansawdd sy’n darparu dealltwriaeth a deallusrwydd i ystod eang o rhanddeiliaid, gan gynnwys gweithwyr cyllid proffesiynol, clinigwyr, byrddau a thimau gweithredol. Rydym yn awyddus i ehangu’r tîm hwn drwy recriwtio gweithwyr gwybodeg proffesiynol ymroddedig i weithio ochr yn ochr â’n dadansoddwyr busnes.
Mae rhaglen waith yr Uned yn canolbwyntio ar y pedair thema ganlynol:-
• Deallusrwydd a Dealltwriaeth;
• Cefnogaeth a Her;
• Gofal Iechyd seiliedig ar Werth;
• Ymarfer Rheoli Ariannol gorau; Cynllunio a Monitro; ac
• Arweinyddiaeth a Datblygiad.
Bydd y Uwch Wyddonydd Data yn chwarae rhan holl bwysig mewn
• datblygu atebion arloesol i broblemau cymhleth
• llywio a chyplysu setiau data mawr
• sicrhau ansawdd a dilysu data
• cynhyrchu delweddiadau data o ansawdd uchel i ddangos amrywiaeth ac amlygu negeseuon a themâu allweddol
• sicrhau’r cyfleoedd arloesol gorau o safbwynt roboteg a dadansoddeg ragfynegol; a
• chyflawni prosiectau uchel eu proffil, gan gyfrannu at gyflawni ein llifoedd gwaith.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Gweithrediaeth y GIG yn gweithio mewn partneriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru yn a chyda GIG Cymru ac mae’n cael ei lletya gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ein prif bwrpas yw ysgogi gwelliannau o ran ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau, mynediad a phrofiad gwell a thecach i’r claf gyda llai o amrywiad, a gwelliannau o ran iechyd y boblogaeth.
Gwnawn hyn drwy ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol cryf – gan alluogi, cefnogi a chyfarwyddo GIG Cymru i drawsnewid gwasanaethau clinigol yn unol â blaenoriaethau a safonau cenedlaethol.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Manyleb y person
CYMWYSTERAU
Meini prawf hanfodol
- Profiad perthnasol i lefel Gradd Meistr neu brofiad proffesiynol cyfatebol.
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster rheoli prosiectau neu brofiad cyfatebol.
PROFIAD
Meini prawf hanfodol
- Profiad o gyplysu setiau data cymhleth i wneud dadansoddiad ystyrlon ohonynt.
- Profiad o ddilysu a sicrhau ansawdd allbynnau.
- Profiad o wneud dadansoddiadau ystadegol o wybodaeth hynod gymhleth.
- Profiad o gynllunio eich llwyth gwaith yn annibynnol a sgiliau rheoli prosiectau
- Y gallu i ddelio â llwythi gwaith cymhleth ac amrywiol gan gyflawni’n unol ag amserlenni tynn yn aml.
- Profiad a dealltwriaeth o broblemau ansawdd data (gan gynnwys datrys problemau o’r fath).
- Profiad sylweddol o offer modelu data/cronfeydd data mewn amgylchedd gwybodaeth.
- Profiad o ddarparu a chyflwyno gwybodaeth hynod gymhleth i glinigwyr ac uwch reolwyr.
Meini prawf dymunol
- Profiad o ddarparu cyngor arbenigol ar faterion gwybodaeth hynod gymhleth
- Profiad o ddefnyddio offer deallusrwydd busnes i roi gwybodaeth ystyrlon i amrywiol gynulleidfaoedd.
- Profiad o ddefnyddio Microsoft Power BI a Power Automate.
- Experience in machine learning and statistical modelling, including supervised and unsupervised learning, and time-series forecasting.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Nid yw sgiliau iaith Gymraeg yn angenrheidiol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jessica Hammond
- Teitl y swydd
- Business Support Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07973848309
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector