Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
TG
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Gweithio hyblyg
37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
025-AC324-1225
Cyflogwr
Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Gweithio Hybrid
Tref
Cardiff
Cyflog
£48,527 - £55,532 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
11/01/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Iechyd a Gofal Digidol Cymru logo

Rheolwr Cydymffurfiaeth (Seibergadernid)

Gradd 7

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydliad uchelgeisiol sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i arwain ar drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal digidol. Mae’n adeiladu ar bensaernïaeth ddigidol a gwasanaethau cenedlaethol a roddwyd ar waith gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru dros y degawd diwethaf.


Bydd y sefydliad yn arwain ar ddatblygiadau ar raddfa fawr sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl Cymru ynghyd â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, megis ehangu’r cofnod iechyd digidol a chreu’r Adnodd Data Cenedlaethol. Bydd yn gwella’r ffordd y mae data’n cael eu casglu, eu rhannu a’u defnyddio.


Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio trwy’r cyfrif e-bost sydd wedi’i gofrestru ar yr ffurflen gais.  Gwahoddir pob ymgeisydd i wneud cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno ag Uned Cydnerthedd Seiber GIG Cymru fel Rheolwr Cydymffurfiaeth. Rydym yn chwilio am rywun sydd â chefndir amlwg mewn Gwybodaeth/Seiberddiogelwch, agwedd hyblyg ‘gallu gwneud’  tuag at waith a’r gallu i roi cyngor a sicrwydd bod risg diogelwch ar draws GIG Cymru yn cael ei reoli’n briodol.  

Pwy yw CRU?  

Mae Uned Cydnerthedd Seiber (CRU) GIG Cymru, yn dîm annibynnol a letyir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC). Diben craidd yr uned yw cynyddu diogelwch a gwydnwch systemau gwybodaeth ar draws GIG Cymru.  

Mae Llywodraeth Cymru wedi dirprwyo cyfrifoldeb i CRU i arwain y gwaith o weithredu a monitro cydymffurfiaeth â’r Rheoliadau Rhwydwaith a Systemau Gwybodaeth (NIS) ar draws GIG Cymru.  

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud 

Rôl y Rheolwr Cydymffurfiaeth yw rhoi cyfeiriad i’r tîm CRU a sicrhau bod ei weithgareddau cydymffurfio ac adrodd am ddigwyddiadau ar draws GIG Cymru o safon ragorol er mwyn sefydlu CRU fel gwasanaeth cenedlaethol o’r radd flaenaf.  

Bydd y Rheolwr Cydymffurfiaeth yn gyfrifol am sicrhau bod y broses adrodd ac archwilio digwyddiadau yn cael ei chynnal mewn modd cyson, cryno a phroffesiynol, yn unol â deddfwriaeth seiberddiogelwch megis rheoliadau NIS, arferion gorau a gofynion Llywodraeth Cymru. 

Gweler y Swydd-ddisgrifiad sydd ynghlwm am ddarlun mwy cyflawn o'r swydd.  

Prif ddyletswyddau'r swydd

Fel Rheolwr Cydymffurfiaeth, byddwch yn: 

  • Rheoli prosesau archwilio ac adrodd yr Uned Seibergadernid (CRU) yn seiliedig ar reoliadau newydd a rhai wedi’u diweddaru.  

  • Arwain ar archwiliadau CRU, a chefnogi aelodau tîm yr uned i gynnal archwiliadau yn ôl yr angen.  

  • Helpu i sefydlu enw da CRU fel gwasanaeth cenedlaethol o’r radd flaenaf.  

  • Datblygu templed adroddiad cyson a chryno ar gyfer adrodd i sefydliadau GIG Cymru a Llywodraeth Cymru.  

  • Datblygu dangosfyrddau i gyflwyno adroddiadau a DPAau i Reolwyr, sefydliadau GIG Cymru a Llywodraeth Cymru.  

  • Adolygu ac asesu ansawdd adroddiadau a gynhyrchir gan CRU cyn eu dosbarthu. 

  • Cyflwyno adroddiadau yn ôl yr angen i’r Rheolwyr, sefydliadau GIG Cymru a Llywodraeth Cymru.  

  • Cynghori sefydliadau GIG Cymru ar sut i wella eu statws cydymffurfio a safle diogelwch yn seiliedig ar ganlyniadau archwiliad Fframwaith Asesu Seiber (CAF).  

  • Gweithio gyda sefydliadau GIG Cymru a Llywodraeth Cymru i wella’r broses archwilio a’r strwythur adrodd ymhellach.  

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais. 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) yn gorff cenedlaethol arbenigol ac yn rhan o GIG Cymru. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yn GIG Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddarparu gwasanaethau digidol a data cenedlaethol syn cefnogir gwaith o ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae gwasanaethau iechyd a gofal modern yn dibynnu ar offer digidol, data a gwybodaeth da. Mae IGDC yn rhedeg neun gweithio gyda mwy na 100 o wasanaethau ac yn darparu rhaglenni trawsnewid digidol cenedlaethol mawr i gefnogi hyn. Yn ogystal, mae IGDC yn darparu cyngor arbenigol mewn perthynas â seiberddiogelwch a llywodraethu gwybodaeth. Rydym yn rhoir offer digidol i staff rheng flaen syn eu helpu i ddarparu gofal mwy diogel a mwy effeithlon. Rydym hefyd yn rhoi offer digidol i gleifion ar cyhoedd i reoli eu hiechyd au llesiant eu hunain yn well, gan rymuso pobl i fyw bywydau iachach. Rydym yn rhoi pobl wrth wraidd popeth a wnawn, gan weithio ir safonau uchaf i ddarparu ansawdd ac i wneud digidol yn rym er gwell ym maes iechyd a gofal. 

Mae gweithio i DHCW yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys gweithio hyblyg, cyflog cystadleuol, 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a dathlu ein staff fel y rhan fwyaf gwerthfawr o’n sefydliad.

 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

 

Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano 

Bydd Rheolwr Cydymffurfiaeth mewn seibergadernid yn meddu ar radd Anrhydedd Baglor, yn ddelfrydol ym maes Busnes, TGCh neu Seiberddiogelwch. Bydd ganddo ardystiad Systemau Gwybodaeth proffesiynol fel CISA, CIS, CISSP neu QiCA, neu brofiad perthnasol sylweddol sy'n dangos gwybodaeth dechnegol gyfatebol, neu bydd wedi pasio arholiad CISA ac yn gwneud cynnydd tuag at gyrraedd y gofynion profiad. 

Bydd gan ymgeiswyr lefel eang o wybodaeth a enillwyd trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus, hyfforddiant a phrofiad ymarferol o weithio ar y lefel hon, ar draws yr ystod o waith TGCh a gweithdrefnau ac arferion diogelwch gwybodaeth. Byddai'r canlynol yn fanteisiol: 

  • Gwybodaeth ragorol am ddeddfwriaeth Seiberddiogelwch megis NIS a Chyfarwyddebau NIS2.  

  • Dealltwriaeth ddofn o Fframwaith Asesu Seiber (CAF) NCSC a/neu fframweithiau eraill.  

  • Gwybodaeth ddamcaniaethol ac arbenigol, a gafwyd gyda’r canlynol:  

  • Cymhwyster cydnabyddedig mewn Rheoli neu Arweinyddiaeth  

  • Ardystiad perthnasol mewn archwilio diogelwch (e.e. ISCA CISA, Archwilydd ISO 27001).  

  • Cymhwyster cyflwyno prosiectau (e.e. PRINCE2).   

  • Gwybodaeth am GIG Cymru neu’r sector Iechyd. 

 

Bydd gofyn i ddeiliad y swydd deithio ledled Cymru rhwng safleoedd, fel sy'n ofynnol gan y swydd. Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais. 

 

Sut i Wneud Cais: 

Anfonwch CV a llythyr o ddiddordeb i [email protected] erbyn diwedd y diwrnod ar 11/01/2024.  

Os oes gennych gwestiynau am y broses ymgeisio neu os oes angen cymorth arnoch i gyflwyno eich cais, anfonwch e-bost i: 

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Meddu ar ardystiad Systemau Gwybodaeth megis CISA, CIS, CISSP neu QiCA, neu brofiad sylweddol perthnasol sy’n dangos gwybodaeth dechnegol gyfatebol, neu wedi pasio arholiad CISA/CISSA ac yn datblygu tuag at y gofynion profiad.
  • Profiad ymarferol o weithio ar y lefel hon, ar draws yr ystod o weithdrefnau ac arferion gwaith.
  • Addysg hyd at lefel gradd, yn ddelfrydol ym maes Busnes neu TG (neu gymhwyster/profiad cyfatebol).
  • Gwybodaeth ragorol o Gyfarwyddebau NIS a NIS2 (deddfwriaeth Seiberddiogelwch).
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster cydnabyddedig mewn Rheoli neu Arweinyddiaeth
  • Gwybodaeth ddamcaniaethol ac arbenigol, a gafwyd gyda’r canlynol: • Ardystiad perthnasol mewn archwilio diogelwch (e.e. ISCA CISA, Archwilydd ISO 27001).

Gwybodaeth a Phrofiad

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth a phrofiad da o brosesau ac arferion gorau archwilio cydymffurfiaeth diogelwch, gan ddefnyddio safonau cydnabyddedig fel ISO 27001, CAF neu Cyber Essentials
  • Dealltwriaeth helaeth o egwyddorion, prosesau a heriau cydymffurfiaeth seiberddiogelwch a sut i’w gymhwyso’n ymarferol mewn amgylchedd amlddisgyblaethol.
  • Gwybodaeth a phrofiad da o safonau archwilio, rheolaethau archwilio ac arferion gorau cydymffurfiaeth diogelwch.
  • Hyfedr wrth reoli ac ysgogi timau technegol llwyddiannus
  • Arbenigwr ar gyflwyno adroddiadau ysgrifenedig cryno a chywir o ansawdd uchel, gan ddarparu data cymhleth a sensitif, o fewn terfynau amser tynn.
  • Dealltwriaeth ragorol o’r Fframwaith Asesu Seiber.
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth a gwerthfawrogiad clir o’r prosesau sy’n cefnogi gofal clinigol a’r dulliau sydd eu hangen i ddylunio a gweithredu’r amgylchedd Diogelwch TG ategol.
  • Profiad o archwilio datrysiadau TG mewn amgylcheddau mawr, cymhleth fel y GIG/maes gofal iechyd neu’r sector cyhoeddus ehangach
  • Dealltwriaeth drwyadl a gwerthfawrogiad o seilwaith cenedlaethol a strwythurau sefydliadol GIG Cymru.
  • Hyfedr mewn hyfforddi a mentora staff.

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Ystwythder technegol i ddysgu ac asesu methodolegau neu dechnolegau newydd yn gyflym, gan ddeall eu goblygiadau ehangach a, lle bo hynny’n briodol, eu gweithredu.
  • Sgiliau cyfathrebu i ddylanwadu, negodi a chyfryngu’n effeithiol wrth gyflwyno gwybodaeth hynod dechnegol i ystod eang o randdeiliaid ar draws ffiniau sefydliadol.
  • Sgiliau rhyngbersonol i ddatblygu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol ar draws timau aml-swyddogaeth, gan ymgysylltu â defnyddwyr (technegol ac annhechnegol) gan gyflwyno dadleuon credadwy a chymhellol wrth ddiffinio gofynion a rhoi datrysiadau ar waith.
  • Meddwl yn ddadansoddol i ennill dealltwriaeth gywir o broblem neu sefyllfa hynod gymhleth drwy ei thorri i lawr yn systematig i’w chydrannau a nodi’r perthnasoedd rhwng y rhannau hyn. Dewis y dull/offeryn priodol i ddatrys y broblem a myfyrio’n feirniadol ar y canlyniad, fel bod yr hyn a ddysgir yn cael ei nodi a’i gymathu.
  • Sgiliau trefnu i reoli llwythi gwaith cymhleth yn effeithiol ac aml-dasgio mewn amgylcheddau cymhleth a sensitif.
  • Teithio ledled Cymru rhwng safleoedd, fel sy’n ofynnol gan y swydd
Meini prawf dymunol
  • Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefel 1 neu uwch o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu.
  • Gwybodaeth am GIG Cymru neu’r sector Iechyd.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoAge positiveWork With Me - A commitment to becoming a more inclusive business for disabled peopleGold Award for Corporate Health StrategyImproving working livesStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesGood Recruitment CollectiveStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionMindful employer.  Being positive about mental health.CTP The Ministry of Defence partnering with Right ManagementDisability confident employerRemploy CymruThe University of Wales Trinity Saint David - Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi SantThe Poppy FactoryDying to Work CharterThe Chartered Institute for IT - Reward the professionalism of your team, define and accelerate career paths, and recognise your organisation’s commitment to advancing technology.Federation for Informatics Professionals - A collaboration between the leading professional bodies in health and care informatics supporting the development of the informatics profession.Armed Forces CovenantEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Ana Pereira
Teitl y swydd
Cyber Resilience Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg