Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- TG
- Gradd
- Band 8a
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 025-AC182-0825
- Cyflogwr
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Gweithio Hybrid
- Tref
- Caerdydd
- Cyflog
- £56,514 - £63,623 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 01/09/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Rheolwr Profi
Band 8a
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydliad uchelgeisiol sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i arwain ar drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal digidol. Mae’n adeiladu ar bensaernïaeth ddigidol a gwasanaethau cenedlaethol a roddwyd ar waith gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru dros y degawd diwethaf.
Bydd y sefydliad yn arwain ar ddatblygiadau ar raddfa fawr sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl Cymru ynghyd â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, megis ehangu’r cofnod iechyd digidol a chreu’r Adnodd Data Cenedlaethol. Bydd yn gwella’r ffordd y mae data’n cael eu casglu, eu rhannu a’u defnyddio.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio trwy’r cyfrif e-bost sydd wedi’i gofrestru ar yr ffurflen gais. Gwahoddir pob ymgeisydd i wneud cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Cytunwyd ar y raddfa gyflog uchod fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2025/2026 a chaiff ei weithredu ym mis Awst 2025 gydag ôl-ddyddio i 1af Ebrill 2025 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Ydych chi’n angerddol am awtomeiddio profion, trawsnewid digidol a datblygu eraill? Ydych chi eisiau chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod gwasanaethau iechyd yn parhau i esblygu? Os felly, rydym am i chi ymuno â’n tîm!
Pam Mae’r Rôl Hon yn Bwysig
Mae ein sefydliad yn creu datrysiadau iechyd a gofal digidol ar gyfer poblogaeth Cymru. Mae'r rôl hon yn arwain ein tîm profi gweithrediadau o tua 30 o bobl. Mae'r rôl yn gyfrifol am addysgu'r tîm am awtomeiddio profion, telemetreg profion, cynwysyddion profion, piblinellau profion ac ati.
Rydym bellach yn trawsnewid ein gweithrediadau yn sefydliad sy'n cael ei arwain gan gynnyrch, gan ehangu ei alluoedd i gefnogi heriau iechyd cyhoeddus yn y dyfodol ond i rannu ein dysgu gyda thimau eraill wrth i ni greu strategaeth brofi ‘awtomeiddio yn gyntaf’ unedig. I wneud hyn, mae arnom angen Rheolwr Profi a all ysgogi gwelliant, awtomeiddio ac arloesi parhaus, gan sicrhau bod y system yn gadarn, yn addas ar gyfer y dyfodol, ac y gellir ei hehangu. Byddwch chi’n arwain y gwaith ar strategaeth, optimeiddio ac arloesi profion, gan weithio ochr yn ochr â thimau amlddisgyblaethol i ddarparu datrysiadau digidol proffil uchel sy’n cefnogi GIG Cymru ac yn arwain un o elfennau allweddol ein strategaeth dechnegol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Yr Hyn y Byddwch Chi’n ei Wneud:
- Arwain strategaeth ac awtomeiddio profion, gan sicrhau bod ein gwasanaethau digidol yn bodloni’r safonau uchaf.
- Gyrru profion parhaus gyda phiblinellau CI/CD, gan alluogi rhyddhau cyflymach a mwy dibynadwy.
- Helpu i esblygu ein pensaernïaeth sy’n seiliedig ar ficrowasanaethau ac ymgorffori arferion gorau wrth awtomeiddio profion.
- Rheoli rhanddeiliaid, cyflenwyr a thimau i gynnal sicrwydd ansawdd di-dor.
- Cefnogi datblygiad proffesiynol trwy fentora a hyfforddi eraill mewn methodolegau awtomeiddio a phrofi.
- Chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod gwasanaethau gweithrediadau ledled Cymru yn effeithlon, yn hygyrch ac y gellir eu hehangu.
Ein Gweledigaeth Profi ac Awtomeiddio
- Dros 80% o brofion wedi’u hawtomeiddio - gan alluogi 611 o brofion gweithredol mewn 3 awr yn hytrach na 6 wythnos â llaw.
- Piblinellau CI/CD integredig fel bod pob achos o newid cod yn cael ei brofi ar unwaith, gan leihau risg a gwella effeithlonrwydd.
- Symud i ficrowasanaethau a dylunio API yn gyntaf, gan sicrhau system fodern y gellir ei hehangu sy’n integreiddio â phlatfformau iechyd cenedlaethol.
- Datblygu dull dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, gan wneud ein systemau yn effeithlon, yn hygyrch a hawdd i’w ddefnyddio.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) yn gorff cenedlaethol arbenigol ac yn rhan o GIG Cymru. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yn GIG Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddarparu gwasanaethau digidol a data cenedlaethol sy’n cefnogi’r gwaith o ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae gwasanaethau iechyd a gofal modern yn dibynnu ar offer digidol, data a gwybodaeth da. Mae IGDC yn rhedeg neu’n gweithio gyda mwy na 100 o wasanaethau ac yn darparu rhaglenni trawsnewid digidol cenedlaethol mawr i gefnogi hyn. Yn ogystal, mae IGDC yn darparu cyngor arbenigol mewn perthynas â seiberddiogelwch a llywodraethu gwybodaeth. Rydym yn rhoi’r offer digidol i staff rheng flaen sy’n eu helpu i ddarparu gofal mwy diogel a mwy effeithlon. Rydym hefyd yn rhoi offer digidol i gleifion a’r cyhoedd i reoli eu hiechyd a’u llesiant eu hunain yn well, gan rymuso pobl i fyw bywydau iachach. Rydym yn rhoi pobl wrth wraidd popeth a wnawn, gan weithio i’r safonau uchaf i ddarparu ansawdd ac i wneud digidol yn rym er gwell ym maes iechyd a gofal.
Mae gweithio i DHCW yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys gweithio hyblyg, cyflog cystadleuol, 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a dathlu ein staff fel y rhan fwyaf gwerthfawr o’n sefydliad.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Ynghlwm yn y dogfennau ategol, mae Swydd-ddisgrifiad llawn a Manyleb y Person. Fel arall, cliciwch ar “Gwneud Cais nawr” i'w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Addysg hyd at lefel gradd Meistr neu gymhwyster/profiad cyfatebol.
- Tystiolaeth o ddatblygu proffesiynol parhaus
- Ymarferydd gweithio Ystwyth gyda thimau amlddisgyblaethol.
- Ardystiad profi perthnasol neu brofiad profi technegol gweithredol ac anweithredol perthnasol
- Hyfedr mewn Profi Awtomatiaeth a dadansoddi profion gan ddefnyddio technolegau.
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth ymarferol o’r GIG neu’r sector Iechyd
- Dealltwriaeth a gwybodaeth am derminoleg a gofynion gwybodaeth y gwasanaeth iechyd.
- Gwybodaeth am IGDC a sut mae’n cefnogi’r GIG
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol o weithio mewn rôl brofi gan ddefnyddio offer profi.
- Profiad o ddefnyddio gwybodaeth arbenigol hynod ddatblygedig, sydd wedi’i hategu gan wybodaeth ddamcaniaethol berthnasol a phrofiad ymarferol perthnasol, ar draws ystod o ddulliau ac arferion gwaith.
- Profiad amlwg o ddadansoddi, profi a rheoli cynnyrch ym maes systemau digidol.
- Hanes amlwg o ddarparu a chefnogi cynhyrchion a gwasanaethau digidol mawr
- Profiad o hyfforddi a mentora staff; yn benodol timau ystwyth ac amlddisgyblaethol.
- Dealltwriaeth ragorol o droi gofynion busnes/swyddogaethol yn fanylebau technegol arbenigol a chynhyrchion a gwasanaethau gweithredol cymhleth.
- Yn gallu dangos hanes o brofi.
- Profiad o weithio mewn amgylchedd Ystwyth
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu rheoli ac ysgogi staff trwy nodi a chyfrannu at anghenion hyfforddi.
- Yn gallu dysgu ac asesu technolegau newydd yn gyflym, gan ddeall eu goblygiadau ehangach a lle bo hynny’n briodol, eu gweithredu.
- Yn gallu trefnu eich gwaith eich hun a rheoli tîm yn effeithiol
- Gweithredu methodoleg Rheoli Newid o fewn amgylchedd tîm
- Yn gallu dadansoddi a datrys materion cymhleth gan ddefnyddio sgiliau dyfarnu arbenigol i flaenoriaethu a chymharu opsiynau.
- Yn gallu darparu neu dderbyn gwybodaeth hynod ddadleuol, a defnyddio sgiliau perswadio, negodi a thawelu meddwl i ddeall a lliniaru rhwystrau.
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar o ansawdd uchel, gyda sgiliau cyflwyno rhagorol.
- Dealltwriaeth fanwl o anghenion gwybodaeth a darparu gwasanaeth GIG Cymru.
- Profiad amlwg o weithio ym maes profi
- Yn gallu ymdopi dan bwysau gyda sgiliau cynllunio a threfnu rhagorol
- Agwedd broffesiynol a chadarnhaol tuag at waith
- Yn gallu sefydlu perthnasoedd gwaith da.
Meini prawf dymunol
- Mae Sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Joel Henderson
- Teitl y swydd
- Head of Software Engineering
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector