Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Fferyllfa
- Gradd
- Gradd 8a
- Contract
- 12 mis (Cyfnod penodol / secondiad am 12 mis oherwydd cyfnod mamolaeth)
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 082-PST003-0725
- Cyflogwr
- Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ty Dysgu
- Tref
- Caerdydd
- Cyflog
- £54,550 - £61,412 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 30/07/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Arweinydd Rhanbarthol Fferyllydd Sylfaen
Gradd 8a
Trosolwg o'r swydd
MAE'R SWYDD HON YN SECONDIAD AM 12 MIS DROS GYFLOG MAMOLAETH
Bydd deiliad y swydd yn gweithio mewn partneriaeth ag arweinwyr addysg, hyfforddiant a datblygu o fewn y gweithlu a chyflogwyr fferyllfa i sicrhau cysondeb, safoni a sicrwydd ansawdd rhaglenni hyfforddi fferyllwyr sylfaen ledled Cymru. Byddant yn gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno addysg a hyfforddiant aml-broffesiynol a rhyngbroffesiynol yn rhanbarthol ac integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol o fewn gwasanaethau'r GIG.
Os ydych chi'n chwilio am her newydd gyffrous i weithio o fewn sefydliad sydd wedi ymrwymo i arloesi, gwella ac addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel, yna gallai'r swydd hon fod ar eich cyfer chi.
Maer'r swydd hon am gyfnod penodol / secondiad am 12 mis oherwydd cyfnod mamoleath. Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bod yn gyfrifol am arwain y gwaith o oruchwylio hyfforddiant fferylliaeth sylfaen ar gyfer rhanbarth neu nifer dynodedig o hyfforddeion yng Nghymru. Darparu cefnogaeth addysgol a phroffesiynol i hyfforddeion, goruchwylwyr a rhanddeiliaid perthnasol eraill drwy gydol y flwyddyn hyfforddi.
Bod yn gyfrifol am ddylunio, datblygu, adolygu a gweithredu'n rhanbarthol rhaglen hyfforddi fferyllwyr sylfaen Addysg a Gwella Iechyd ar y safle ac oddi ar y safle, gan alluogi hyfforddeion i weithio tuag at ganlyniadau dysgu hyfforddiant sylfaen.
Cefnogi a gweithredu prosesau rheoli ansawdd Addysg a Gwella Iechyd drwy gydol y flwyddyn hyfforddi, gan sicrhau bod arfer yn glynu wrth gytundeb achredu rhaglen Addysg a Gwella Iechyd gyda'r rheoleiddiwr.
Ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol a chenedlaethol fel rhan o'r cylchoedd recriwtio blynyddol ar gyfer fferyllwyr hyfforddeion sylfaen, gan ddefnyddio gwybodaeth leol a chenedlaethol i arwain ar drafod a sicrhau lleoliadau ar gyfer rhanbarth neu nifer dynodedig o hyfforddeion i gyfrannu at biblinell gweithlu'r fferyllwyr hyfforddeion a'r cofrestryddion.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw'r corff gweithlu strategol ar gyfer GIG Cymru sydd â swyddogaethau statudol sy'n cynnwys addysg a hyfforddiant, cynllunio'r gweithlu, datblygu a thrawsnewid y gweithlu, arweinyddiaeth a chynllunio olyniaeth, a gyrfaoedd. Ein diben yw datblygu gweithlu sy'n darparu gofal rhagorol i gleifion/defnyddwyr gwasanaethau ac iechyd rhagorol yn y boblogaeth. Rydym yn Awdurdod Iechyd Arbennig sy'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid; Gofal Cymdeithasol Cymru, darparwyr addysg, cyrff proffesiynol a rheoleiddiol a Llywodraeth Cymru.
Mae AaGIC wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant mewnol o ddewis. Mae ein Gwerthoedd yn adlewyrchu ein meddyliau, ein teimladau a'n credoau o ran sut y byddwn, ac na fyddwn, yn ymddwyn ac yn trin eraill:
- Parch i Bawb ym mhob cyswllt sydd gennym ag eraill,
- Syniadau sy'n Gwella: Harneisio creadigrwydd ac arloesi, gwerthuso a gwella'n barhaus,
- Gyda'n Gilydd fel Tîm
Derbyniodd AaGIC Wobr HPMA ar gyfer Ymgysylltu â Gweithwyr yn 2019.
Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl:
- cyfnod ymsefydlu corfforaethol ag amserlen Croeso 90 diwrnod,
- arweinyddiaeth dosturiol,
- proses arfarnu perfformiad ystyrlon sy'n seiliedig ar werthoedd,
- y cyfle i effeithio ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a bywydau a lles pobl Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Mae llawer o'n cydweithwyr a'n rhanddeiliaid wedi gwneud sylwadau ar y cyffro a'r awyrgylch a olygwn drwy gydweithio fel "Un Tîm AaGIC". Ydych chi am ymuno â'r tîm hwnnw?
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad proffesiynol gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol
- Gradd Meistr neu brofiad cyfatebol.
- Profiad ôl-gofrestru
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
- Profiad o oruchwylio fferyllwyr dan hyfforddiant
Meini prawf dymunol
- Ymgysylltu â datblygiad ôl-raddedig (neu gyfwerth) mewn addysg a hyfforddiant
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol yn eu maes arbenigol.
- Profiad ôl-raddedig sylweddol a wedi dal cyfrifoldeb mewn swydd addysgiadol neu ofal iechyd..
- Profiad o weithio mewn amgylchedd amlddisgyblaethol, gan reoli staff a thimau yn llwyddiannus
- Profiad o gynllunio strategol, cynllunio gweithredol, datblygu a gweithredu polisïau.
- Profiad a/neu wybodaeth am archwilio, gwerthuso, ymchwil a datblygu.
- Profiad/dealltwriaeth o'r amgylchedd gwleidyddol a chymdeithasol allanol, gan gynnwys materion a blaenoriaethau polisi'r GIG, ac agenda ehangach polisi cyhoeddus sy'n effeithio ar asiantaethau perthnasol eraill.
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd addysgiadol.
- Profiad o ddylunio a gwerthuso prosesau/systemau busnes/rheoli
- Profiad o lunio adroddiadau cymhleth ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol gan gynnwys achosion o fod angen dehongli polisïau cysylltiedig.
- Profiad sylweddol o reoli prosiectau / ffrydiau gwaith mawr a chymhleth.
- Profiad o ddefnyddio methodolegau gwella i ddatblygu gwasanaethau.
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i asesu cynnydd hyfforddeion, addasrwydd safle a goruchwyliwr, trwy ddehongli a dadansoddi data ansoddol a meintiol cymhleth, sylw manwl i fanylion a defnyddio barn broffesiynol, yn erbyn fframwaith ac egwyddorion rheoli ansawdd Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
- Gwybodaeth am raglenni addysg a hyfforddiant, cyfleoedd datblygu fferyllwyr a'r agenda hyfforddi ehangach
- Sgiliau cyfathrebu, rhyngbersonol, negodi a dylanwadu rhagorol gyda thystiolaeth o ddull sy'n ddeallus yn emosiynol ac yn wleidyddol.
- Y gallu i ddefnyddio MS Office, papur a llwyfannau electronig eraill i reoli data sy'n ymwneud â hyfforddiant fferyllwyr sylfaen yn effeithlon.
- Y gallu i feddwl yn greadigol ac yn strategol ac ymaddasu i newid.
- Gwybodaeth fanwl am fframweithiau cyfreithiol sy'n llywodraethu: Iechyd a Diogelwch, Cyfraith Cyflogaeth, Rhyddid Gwybodaeth, Diogelu Data ac ati
- Sgiliau arweinyddiaeth a dylanwadu amlwg, gan weithio'n annibynnol ac yn rhan o dîm ehangach, gan ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
- Sgiliau rheoli amser effeithiol, gan gynnwys blaenoriaethu tasgau sy'n gwrthdaro
- Y gallu i ddatblygu a chynnal perthnasoedd gwaith da gydag amrywiaeth o randdeiliaid, a chyflwyno amrywiaeth o ddata yn briodol ac yn sensitif i'r grwpiau hyn.
- Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen, ac ysgrifennu yn y Gymraeg
Arall
Meini prawf hanfodol
- Bod yn esiampl ar gyfer y proffesiwn fferylliaeth.
- Y gallu i siarad Cymraeg.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Laura Doyle
- Teitl y swydd
- Head of Undergraduate and Foundation Pharmacists
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn Gwasanaethau Gwyddor Iechyd neu bob sector