Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cyllid
- Gradd
- Gradd 8a
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 043-AC180-1025
- Cyflogwr
- GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Y Pencadlys yn Nantgarw
- Tref
- Caerdydd
- Cyflog
- £56,514 - £63,623 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 02/11/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Prif Reolwr Cyllid
Gradd 8a
Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-
Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Prif Reolwr Cyllid: Cyfrifyddu Ariannol, Cyfalaf, Cynllunio ac Ansawdd
Ydych chi’n gyfrifydd cymwys uchelgeisiol sy’n awyddus i ddatblygu eich gyrfa yn GIG Cymru?. Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Thîm Cyllid PCGC fel Prif Reolwr Cyllid. Bydd y swydd, a fydd yn rhoi ystod eang o brofiadau i chi ym maes rheolaeth ariannol ar draws PCGC, wedi’i lleoli yn ein pencadlys yn Nantgarw, Caerdydd. Mae'r rôl yn gofyn am unigolyn ymroddedig, gweithgar sydd â phrofiad ariannol a llygad da am fanylion sy'n gweithio'n dda fel rhan o dîm ac sy'n gallu gweithio i derfynau amser llym.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rôl allweddol i reoli swyddogaethau cyfrifyddu ariannol a chyfalaf Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) ac i ymgymryd â'r rôl gyswllt o fewn y meysydd hyn gyda thîm cyllid Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre sy’n ein lletya, gan gynnwys cyfrifoldeb am TAW, cynnal uniondeb y gofrestr asedau sefydlog, sicrhau bod ychwanegiadau, gwarediadau a dilysiadau asedau yn cael eu gwneud yn gywir.
Rôl arweiniol wrth sicrhau bod Terfyn Gwariant Cyfalaf (CEL) PCGC yn cael ei gyflawni, gan ddarparu gwybodaeth ariannol gywir, brydlon a dibynadwy i'r Uwch Dîm Cyllid, Cyfarwyddwyr Gwasanaeth a Llywodraeth Cymru ynghylch gwariant cyfalaf gan gynnwys IFRS16 a chymryd yr awenau yng ngwaith monitro ariannol cyffredinol y Rhaglen Gyfalaf a gymeradwywyd gan yr Uwch Grŵp Arwain.
Cyflawni rôl cynllunio ariannol allweddol wrth gynhyrchu Cynllun Tymor Canolig Integredig (IMTP) ledled PCGC.
Cyfrifoldeb allweddol am gydlynu a monitro Cynllun Tymor Canolig Integredig y tîm cyllid a chynllunio argyfwng ehangach ar gyfer yr adran.
Cyfrifoldeb allweddol am ansawdd ar draws y tîm cyllid.
Gweithio i'n sefydliad
Ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) rydym yn disgwyl i bawb arddel ein gwerthoedd sef: Gwrando a Dysgu, Cydweithio, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi.
Mae ein sefydliad yn annog dull gweithio ystwyth ac rydym yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad sy'n dysgu ac sy’n cael ei ysgogi gan welliant parhaus.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ganolbwyntio ar lesiant a pherthyn i’n pobl.
Mae gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn rhywbeth yr ydym yn ymgyrraedd ato, ar gyfer ein cwsmeriaid mewnol ac allanol.
Rydym yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr, gyda rhywbeth i bawb. I gael gwybod mwy am weithio i ni, y buddion rydym yn eu cynnig a chanllawiau ar y broses ymgeisio ewch i https://pcgc.gig.cymru/gweithio-i-ni/
Mae PCGC yn gweithio mewn ffordd ystwyth lle bo modd. Bydd gan bob swydd ganolfan weithio gontractiol, ond fel rhan o ffyrdd ystwyth o weithio gallai hynny olygu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill. Rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn cydbwyso hyblygrwydd gyda chymuned, a sut i reoli cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cyfrifydd CCAB Cwbl Gymwysedig gyda statws aelod cyflawn a phrofiad o weithio ar lefel uwch reolwr gyda phrofiad ar ôl cymhwyso
- Tystiolaeth o Hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus
- Profiad amlwg sylweddol a gwybodaeth arbenigol ym meysydd cyfrifeg ariannol a chyfalaf
- Dealltwriaeth gynhwysfawr o gyfundrefn ariannol y GIG gan gynnwys Cyfalaf a Chynllunio
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gallu profedig i baratoi cyfrifon ariannol yn unol â gofynion cyfreithiol ac amserlenni cytunedig gyda phrofiad o gynhyrchu cyfrifon diwedd blwyddyn a phapurau gwaith o ansawdd da.
- Profiad o weithio mewn amgylchedd ariannol mewn sefydliad cymhleth mawr.
- Profiad o gynhyrchu ystod eang o wybodaeth ariannol a rheoli, adroddiadau a dadansoddiadau i uwch-reolwyr a thimau lefel gweithredol.
- Profiad o ddarparu hyfforddiant ariannol o safon dda i reolwyr heb fod yn ariannol.
- Profiad o ddefnydd cymhleth o lyfr cyfrifon ariannol a'r Gofrestr Asedau Sefydlog.
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio yn y GIG mewn rôl cyfrifyddu ariannol/cyfalaf.
- Profiad o weithio gyda rheolwyr nad ydynt yn rheolwyr arianno.
- Profiad o ddatblygu gwasanaethau, darparu cyngor a chymorth ariannol.
- Profiad gydag Oracle FMS a Real Asset Management.
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau Dadansoddi a Rhifedd ardderchog.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol – yn ysgrifenedig yn ogystal ag ar lafar.
- Yn gallu gweithio ar dasgau cymhleth lluosog, gan weithio i derfynau amser tynn.
- Sgiliau TG uwch, sy’n cynnwys profiad ym mhob rhaglen Microsoft, yn enwedig MS Excel.
- Yn gallu gweithio ar eich menter eich hun.
- Yn gallu datblygu perthnasoedd gwaith cryf o fewn y tîm a thu allan i gyflawni nodau cyffredin.
- Yn gallu sefydlu amcanion a blaenoriaethau mewn hinsawdd o ansicrwydd.
Meini prawf dymunol
- Mae Sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg.
Rhinweddau personol
Meini prawf hanfodol
- Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i'n cwsmeriaid mewnol ac allanol, a’n helpu i gynnal safon rhagoriaeth gwasanaeth cwsmeriaid.
- Yn gallu teithio os oes angen.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Claire Watkins
- Teitl y swydd
- Head of Finance Resources,Systems,Planning&Capital
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Linsay Payne, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
[email protected]
Rhestr swyddi gyda GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector